Skip to main content

Diagnosis, triniaethau a llesIechyd meddwl oedolion

Deall achosion salwch meddwl amenedigol trwy weithio gyda’r rhai sydd wedi byw drwyddo

8 Gorffennaf 2016
Newborn baby boy sleeping at mums chest
Newborn baby boy sleeping at mums chest

Cyhoeddwyd y testun yn wreiddiol ar MRC Insight o dan CC BY 4.0

Mae’r Athro Ian Jones yn Seiciatrydd Amenedigol Ymgynghorol ac yn Gyfarwyddwr yn y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl. Mae’n cynnal ei ymchwil yng Nghanolfan yr MRC ar gyfer Geneteg a Genomeg Niwroseiciatrig. Yn ei flog, dywed wrthym am y gwaith mae’n ei wneud i gynnwys mwy o fenywod mewn ymchwil, a pham.

Mae mwy nag 1 o bob 10 menyw yn dioddef pwl o salwch meddwl yn ystod beichiogrwydd neu ar ôl rhoi genedigaeth. Gall salwch meddwl amenedigol fod yn ddifrifol ac achosi goblygiadau sylweddol i fenywod, eu teuluoedd a chymdeithas yn ehangach. Hunanladdiad yw un o brif achosion marwolaeth mamau ac mae adroddiad diweddar wedi amcangyfrif bod salwch meddwl mamol yn arwain at gost economaidd o dros £8 biliwn i gymdeithas yn flynyddol. Mae hyn yn sgil effaith y salwch ar fenywod, ond yn fwy fyth drwy’r effaith ar y genhedlaeth nesaf.

Mae llawer iawn o stigma yn perthyn i salwch meddwl o hyd ac mae llawer o famau newydd yn dioddef yn dawel, gan ofni gofyn am help rhag ofn y byddant yn colli eu baban o ganlyniad.

Fel clinigwr, rwy’n cyfarfod â menywod sydd â salwch meddwl difrifol sy’n ystyried cael baban ac rwy’n deall y penderfyniadau anodd y mae’n rhaid iddynt eu gwneud o ran parhau â’r feddyginiaeth sy’n eu cadw’n iach, neu roi’r gorau iddi.

Mae’r cyflyrau hyn yn rhai difrifol ac yn achosi anawsterau sylweddol i fenywod a’u teuluoedd. Mae angen inni ddod o hyd i ffyrdd gwell o helpu menywod sydd â salwch meddwl amenedigol ac rwy’n argyhoeddedig y byddwn ond yn cyflawni hyn pan fyddwn yn deall beth sy’n achosi’r afiechydon hyn. Mae dirfawr angen ymchwil felly – nid er ei mwyn ei hun – ond oherwydd dyma sut y byddwn yn cymryd camau mawr ymlaen mewn gwaith atal a thriniaeth.

Yng Nghanolfan yr MRC ar gyfer Geneteg a Genomeg Niwroseiciatrig yng Nghaerdydd rydym yn ymroddedig i ddeall achosion salwch meddwl. Mae’r ffaith bod y cyflyrau hyn yn aml yn rhedeg mewn teuluoedd, a bod ffactorau genetig yn gwneud rhai pobl yn fwy tueddol o’u dioddef, yn gliwiau pwysig sy’n rhoi ffordd i ni o ddeall y fywydeg sydd wrth wraidd yr anhwylderau hyn. Rydym wedi gwybod ers amser maith bod genynnau’n debygol o fod yn gysylltiedig – erbyn hyn, mae gennym yr adnoddau gwyddonol i ddod o hyd i’r amrywiolion genetig unigol sy’n cynyddu neu’n lleihau risg.

Rydym yn gwneud cynnydd mawr mewn perthynas â chyflyrau megis sgitsoffrenia ac anhwylder deubegwn ac, erbyn hyn, rydym wedi adnabod llawer o enynnau y gallwn fod yn sicr eu bod yn gysylltiedig. Mae cannoedd, efallai miloedd, o enynnau yn debygol o fod yn gysylltiedig â’r cyflyrau hyn, a phob un ohonynt ond yn cynyddu neu’n gostwng y risg fymryn bach iawn. Y rheswm dros nodi’r rhain yw er mwyn gweld patrymau yn y genynnau cysylltiedig a fydd yn pwyntio at systemau biolegol nad ydym, o bosibl, wedi’u hystyried yn flaenorol ac a allai fod yn dargedau ar gyfer datblygu triniaethau newydd.

Felly, mae’n gymhleth. Yn gymhleth iawn. Ond nid yw hyn yn syndod. Fel pobl, rhyngweithio cymhleth ffactorau biolegol, seicolegol a chymdeithasol ydym ni. Nid yw salwch meddwl yn wahanol. Mae’n adeg gyffrous iawn ym maes ymchwil seiciatrig gan fod geneteg yn cynnig golwg newydd i ni ar y cyflyrau hyn. Rwy’n llawn cyffro ynghylch y posibiliadau y mae geneteg yn eu cynnig i’n dealltwriaeth o salwch meddwl amenedigol.

Mae twitter (@jonesir os ydych am fy nilyn) yn newydd i mi ac rwy’n dal i ddod i arfer ag ef, ond roeddwn yn falch iawn pan ofynnwyd i mi gymryd rhan yn y sgwrs wythnosol #PNDhour ar twitter. Roedd trafod iechyd meddwl amenedigol gyda menywod sydd wedi byw drwy’r profiad, a chlinigwyr â diddordeb yn y maes, yn wych. Roeddwn i’n disgwyl y byddai’n anodd cadw i fyny â’r sgwrs – ac yn pryderu am allu mynegi cysyniadau anodd mewn 140 o lythrennau – ond roedd yn wych.  Diolch enfawr i @cooksferryqueen sy’n llywio’r sgwrs ac i bawb a gymerodd ran, fe wnaeth yr awr hedfan heibio. Mae hi mor bwysig bod ymchwilwyr yn clywed gan y bobl sydd wedi profi’r cyflyrau maen nhw’n eu hastudio. Mae’r safbwynt a ddaw o brofiad go iawn yn amhrisiadwy. Hefyd, mae’n ein hatgoffa pam mae’r gwaith mor bwysig. Yn y pen draw, bydd yr ymchwil yn cael ei barnu nid ar sail effaith y papurau, na chyfanswm yr incwm grant y mae’n ei ddenu, ond ar sail y gwahaniaeth y mae wedi’i wneud i’r menywod yr oeddwn yn ‘sgwrsio’ â nhw neithiwr.

Oherwydd bod profiad pob menyw yn wahanol – fel y gallwch weld yn y sgwrs ar twitter isod neu ar storify – mae arnom angen i nifer fawr iawn o bobl gymryd rhan yn ein hymchwil.  Yn ein hymchwil i anhwylder deubegwn ar y cyd â Phrifysgol Caerwrangon, rydym wedi cyfweld â thros 6000 o bobl ag anhwylder deubegwn. Ar hyn o bryd, mae’r Consortiwm Genomeg Seiciatrig yn dwyn ynghyd ddata dros 900000 o unigolion er mwyn galluogi ymchwilwyr i ddadansoddi swm enfawr o ddata a dysgu mwy am sut mae ein data genetig yn perthyn i’n hiechyd meddwl.  Trwy’r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl rydym yn cynyddu nifer y bobl â salwch meddwl amenedigol y bydd arnom eu hangen ar gyfer y gwaith hwn. Mewn cydweithrediad â nifer fawr o glinigwyr ac ymchwilwyr eraill ledled y byd, ein nod yw cynyddu’r rhwydwaith o fenywod sydd â phrofiad go iawn, sy’n cymryd rhan mewn ymchwil, i ddegau o filoedd o fenywod. Gyda’n gilydd, rydym yn gryfach, a chyda’n gilydd gallwn drechu salwch meddwl amenedigol.

Mae #PNDHour yn cysylltu’r rhai sydd â phrofiad go iawn o salwch meddwl amenedigol, yn ogystal â gweithwyr iechyd proffesiynol ac ymgyrchwyr. Fel rhan o Ŵyl Ymchwil Feddygol yr MRC, ymunais â’r sgwrs wythnosol ar Twitter i glywed barn a phrofiadau pobl ac i siarad am eneteg. Gallwch weld crynodeb o’r sgwrs #PNDhour ar twitter y cymerais ran ynddi yr wythnos hon isod.

I ddysgu mwy am sut y gallwch helpu gyda’r ymchwil, ewch i’n gwefan.

Mae’r Athro Ian Jones yn derbyn arian gan Ymddiriedolaeth Wellcome, Sefydliad Ymchwil Feddygol Stanley, y Cyngor Ymchwil Feddygol, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, yr UE.

Cysylltiadau perthnasol eraill-Ymddiriedolwr Action on Postpartum Psychosis