Cynyddu ymwybyddiaeth o Iechyd meddwl mewn Clefyd Huntington
27 Mehefin 2016Anhwylder ar yr ymennydd yw Clefyd Huntington (HD), clefyd niwroddirywiol a achosir gan gelloedd yr ymennydd yn marw’n raddol. Mae achos genetig i HD, ac felly os yw genyn y clefyd gennych chi, mae 50% o debygolrwydd y gallech ei drosglwyddo i’ch plant. Mae prawf genetig ar gael i bobl sy’n meddwl y gallent fod mewn perygl o ddatblygu HD. Gelwir hwn yn brawf rhagfynegol, oherwydd er ei fod yn gallu dweud wrthych chi bod gennych chi’r genyn ar gyfer HD, ni fydd yn dweud yn union pa mor gyflym na pha mor ddifrifol fydd y symptomau’n datblygu, na phryd yn union y byddwch yn cael y clefyd.
Meddylir am HD yn gyffredin fel clefyd sy’n effeithio ar sut mae pobl yn symud, ac mae pobl sydd ag HD yn datblygu problemau symudedd sy’n effeithio ar eu bywydau bob dydd. Mae’r problemau symudedd yn aml yn dechrau’n raddol, gyda llaw yn siglo, baglu neu gwympo efallai, ac yna’n gwaethygu dros amser, gan achosi siglo afreolus a symudiadau herciog sy’n effeithio ar y corff cyfan, ac sy’n arwain at anabledd corfforol sylweddol a’r angen am gadair olwyn yn aml. Os yw rhywun yn profi anawsterau symudedd, fel gydag HD, yn aml mae’n amlwg iawn, oherwydd gallwch weld eu problemau symudedd yn glir.
Cyn i’r problemau symudedd ddechrau, cydnabyddir yn gynyddol y gall pobl sydd ag HD brofi problemau iechyd meddwl sylweddol gan gynnwys: iselder, anniddigrwydd a difaterwch. Os yw rhywun yn cael diagnosis o glefyd niwroddirywiol sy’n lleihau eu disgwyliad einioes ac a allai effeithio ar eu plant, gallech feddwl y byddai hyn yn achosi iddynt deimlo’n isel, yn anniddig ac yn bryderus ac mae hyn yn wir i raddau. Mae syniadau a cheisiadau hunanladdiad yn uwch ymhlith pobl sydd â hanes teuluol neu sydd wedi cael diagnosis o HD. Er hynny, mae rhai pobl yn dweud bod cael diagnosis yn rhoi tawelwch meddwl iddynt am eu bod yn gallu rhoi enw ar eu cyflwr.
Fodd bynnag, mae problemau iechyd meddwl mewn HD yn broblem allweddol, ac er bod eu pwysigrwydd yn cael ei gydnabod yn gynyddol, gellir gwneud mwy i gynyddu ymwybyddiaeth am broblemau iechyd meddwl mewn HD.
Mae stigma sylweddol yn gysylltiedig â HD, felly mae cynyddu ymwybyddiaeth o’r cyflwr yn allweddol i sicrhau gwell dealltwriaeth a derbyn y clefyd. Mae cysylltu â’r cyhoedd mewn dyddiau agored, seminarau a darlithoedd yn un ffordd i gynyddu ymwybyddiaeth, gwybodaeth a thrwy hynny ddealltwriaeth.
Ond gan fod stigma’n gysylltiedig â’r clefyd, ac am fod digwyddiadau fel hyn yn aml yn atgoffa pobl am eu cyflwr, gall fod yn anodd cael cleifion a theuluoedd i ymgysylltu. Rwyf i’n credu’n gryf bod gennym fwy o gyfrifoldeb i estyn allan a sicrhau bod gwybodaeth ar gael mewn ffyrdd hygyrch a dyfeisgar. Mae gwefan HDBuzz yn gwneud gwaith da iawn yn crynhoi newyddion ymchwil HD mewn iaith syml a cheir amrywiol sefydliadau ac unigolion sy’n defnyddio sianeli cyfryngau cymdeithasol i hyrwyddo ymchwil HD mewn ffyrdd hygyrch.
Mae cyfathrebu gyda chleifion, teuluoedd a gofalwyr HD yn allweddol ac yn hynod o bwysig mewn ymchwil gwyddonol. Rydym ni’n ymchwilio i gyflwr sy’n cael effaith aruthrol ar deuluoedd ac mae eu cyfraniad nhw i’r ymchwil a fydd yn effeithio arnyn nhw’n elfen sylfaenol o gynllunio, datblygu a gweithredu’r ymchwil rydym ni’n ei gynnal.
Dr Emma Yhnell yw’r ymgeisydd arweiniol ar grant ymchwil ôl-ddoethurol gan Sefydliad Jacque a Gloria Gossweiler.
Cyllidwyd ei phrosiect ymchwil PhD drwy Efrydiaeth tair blynedd gan y Cyngor Ymchwil Meddygol (MRC).
- Medi 2024
- Awst 2024
- Gorffennaf 2024
- Ebrill 2024
- Mawrth 2024
- Chwefror 2024
- Medi 2023
- Awst 2023
- Chwefror 2020
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mehefin 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Chwefror 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016