Archwilio’r cysylltiad rhwng pêl-droed a dementia
12 Chwefror 2018Rwy’n gweithio ar brosiect sy’n ymchwilio i glefyd Alzheimer yng Nghanolfan y Cyngor Ymchwil Feddygol ar gyfer Geneteg Niwroseiciatrig a Genomeg Prifysgol Caerdydd.
Er nad yw’n ymwneud yn uniongyrchol â fy mhrosiect ymchwil, mae gen i ddiddordeb mewn effaith cyfergyd mewn chwaraeon ac a ydy ergydion niferus i’r pen/cyfergydion yn cynyddu’r risg o ddatblygu clefyd Alzheimer. Nid yw hyn wedi cael sylw digonol ym myd y campau eto yn fy marn i, yn enwedig wrth ystyried cyfergydion niferus.
Mae anaf i’r ymennydd a chyfergyd wedi cael cryn sylw yn y blynyddoedd diweddar, gyda newidiadau sylweddol o ran canllawiau a pholisi cyfergyd yn Rygbi’r Undeb, yn ogystal â chanllawiau cyfergyd Cymdeithas Bêl-droed (FA) Lloegr eu hunain a gyhoeddwyd yn 2015.
Mae’r canllawiau hyn yn cydnabod difrifoldeb anafiadau i’r ymennydd ac yn amlygu camau cadarnhaol wrth ymdrin â phroblemau sy’n gysylltiedig â chyfergyd. Y broblem yw, fodd bynnag, mai ychydig o gyngor yn unig sydd o hyd ar is-gyfergydion o ganlyniad i benio’r bêl yn aml.
Ddiwedd y llynedd, fe ddarlledodd y BBC raglen ddogfen am y cysylltiad posibl rhwng dementia ac anaf i’r pen mewn pêl-droed proffesiynol.
Ac yntau wedi penio’r bêl yn aml, mae gan Alan Shearer cryn ddiddordeb personol yn y pwnc. Mae pryderon gan Shearer ynghylch ei iechyd ei hun yn dilyn 20 mlynedd o bêl-droed proffesiynol ac yntau wedi sgorio 46 o’i 260 o goliau yn Uwch-gynghrair Lloegr gyda’i ben.
Mae’n ddyddiau cynnar o hyd i’r ymchwil ynghylch y cysylltiad rhwng pêl-droed a dementia. Cafodd ei sbarduno o ganlyniad i bwysau gan gyn-bêl-droedwyr proffesiynol a’u teuluoedd, gyda chyn-chwaraewyr megis ymosodwr West Bromwich Albion Jeff Astle a chyn-chwaraewr canol cae Manchester United a Lloegr Nobby Stiles wedi datblygu dementia yn eu blynyddoedd diweddarach. Bu farw Astle yn 59 mlwydd oed ac fe ddaeth y crwner i’r casgliad fod ei farwolaeth wedi’i achosi gan flynyddoedd o benio pêl-droed ac fe’i ddyfarnwyd yn achos o glefyd diwydiannol. Fodd bynnag, tan yn diweddar, prin iawn fu’r ymchwil ynghylch y cysylltiad rhwng penio pêl-droed a dementia.
Yn ystod y rhaglen ddogfen siaradodd Shearer â chyn-chwaraewyr ac aelodau o’r teulu sydd wedi dioddef o glefyd dementia yn dilyn gyrfa mewn pêl-droed. Siaradodd â John Stiles, mab enillydd Cwpan y Byd 1966 Nobby Stiles, a chyda Matt Tees a chwaraeodd yn y 1960au a’r 70au, a oedd yn adnabyddus am ei allu wrth benio ac a gafodd yrfa hir gyda Grimsby, Chartlon a Luton ymysg timoedd eraill.
Ymwelodd Shearer â Phrifysgol Stirling lle mae Dr Magdalena Iestwaart yn arwain ymchwil i’r risg o benio pêl-droed. Cafodd brofion gwybyddol cyn ac ar ôl penio’r bêl 20 o weithiau, ar gyflymder a ddyluniwyd i efelychu cic gornel.
Ni brofodd y gwaith ymchwil unrhyw wahaniaeth sylweddol o ran sgoriau gwybyddol. Fodd bynnag, gwelwyd rhai newidiadau cemegol tymor byr. Ni ystyriwyd bod y newidiadau yn niweidiol yn y tymor byr, ond bod posibilrwydd o effaith gronnol. Mae ymchwil flaenorol Dr Ietswaart wedi awgrymu y gall benio pêl-droed greu namau uniongyrchol, mesuradwy, electroffisegol a gwybyddol.
Un maes sy’n parhau i beri pryder yw pwysau peli yn y gêm fodern. Yn groes i’r gred boblogaidd, mae’r gêm fodern yn defnyddio peli sy’n pwyso tua 430g, o’i gymharu a’u rhagflaenwyr traddodiadol lledr a oedd yn pwyso tua 390g. Y gwahaniaeth mwyaf, fod bynnag, yw bod y peli lledr yn amsugno dŵr, gan gynyddu’r pwysau i tua 600g pan yn wlyb. Mae’n bosibl bod y peli, ac is-gyfergydion niferus, wedi cynyddu cyffredinolrwydd risg dementia a phroblemau gwybyddol i’r rhai a chwaraeodd gyda nhw yn ystod eu gyrfaoedd, er bod y cysylltiad hwn yn parhau i fod yn aneglur.
Er nad oedd y rhaglen ddogfen yn honni bod yn gynhwysfawr, dylai’r dadleniad helpu i gynyddu’r ymchwil ynghylch p’un a yw pêl-droed yn gallu cynyddu’r risg o dementia ymysg chwaraewyr presennol a blaenorol. Mae’r FA a’r PFA wedi comisiynu ymchwil annibynnol i archwilio’r cysylltiad.
Mae’r ymchwil ‘dwi’n gweithio arni yn edrych ar ystod ehangach o ffactorau risg sy’n gysylltiedig â chlefyd Alzheimer, yn hytrach na chanolbwyntio ar y cysylltiadau posibl gydag anaf trawmatig i’r ymennydd.
Yn fwy penodol, mae ein prosiect yn ceisio gwella dealltwriaeth o sut y mae genynnau penodol yn effeithio ar y tebygolrwydd o ddatblygu clefyd Alzheimer. Mae’r astudiaeth yn cynnwys cael gafael ar wybodaeth enetig gan bobl gyda’r clefyd a hebddo er mwyn cymharu eu geneteg.
Rydym yn recriwtio pobl ar hyn o bryd sy’n 80 mlwydd oed a throsodd nad ydynt wedi cael diagnosis o ddementia, yn ogystal â phobl gyda chlefyd dementia a ddechreuodd weld symptomau pan oeddent yn 70 mlwydd oed neu’n iau.
- Medi 2024
- Awst 2024
- Gorffennaf 2024
- Ebrill 2024
- Mawrth 2024
- Chwefror 2024
- Medi 2023
- Awst 2023
- Chwefror 2020
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mehefin 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Chwefror 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016