Skip to main content

Iechyd ac Iechyd MeddwlIechyd meddwl oedolion

Sut allwn ni gynnig gwell cefnogaeth i’r rheini sydd â salwch meddwl, sy’n dod i gysylltiad â’r System Cyfiawnder Troseddol?

6 Chwefror 2018

Ychydig fisoedd yn ôl, cynhaliodd Hafal seminar oedd yn trin a thrafod iechyd meddwl a’r System Cyfiawnder Troseddol. Mae’r pwnc yn un pwysig i’n cleientiaid: mae llawer o bobl â salwch meddwl yn dod i gysylltiad â’r System Cyfiawnder Troseddol oherwydd eu salwch. Yn aml, mae peidio â’u hadnabod yn gynnar yn y broses yn golygu eu bod yn mynd yn fwy sâl ac yn fwyfwy ynghlwm wrth system na chafodd ei sefydlu i fynd i’r afael â’u anghenion.

Roedd y seminar ‘Lleihau Risg – Llwyddo i Wella’ yn benllanw ymgyrch wnaeth bara dros yr haf o dan arweiniad un o ddefnyddwyr y gwasanaeth, Jo Roberts, ac a gefnogwyd gan yr elusennau Hafal, CAIS, Bipolar UK, Diverse Cymru a Hafal Crossroads.

Roedd yr ymgyrch yn cynnwys arolwg a gwblhawyd gan 300 o bobl, gyda’r mwyafrif ohonynt wedi eu heffeithio’n uniongyrchol gan salwch meddwl.

Mae canlyniadau’r arolwg wedi datgelu llawer. Maent yn dangos nad yw defnyddwyr, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol o’r farn bod asiantaethau iechyd meddwl a chyfiawnder troseddol yn cefnogi defnyddwyr mewn modd effeithiol wrth unrhyw gam ar hyd y llwybr, fel y mae’r tabl canlynol yn ei amlinellu:

Pa mor dda mae asiantaethau iechyd meddwl a chyfiawnder troseddol yn ei wneud wrth bob cam?

Diben allweddol yr ymgyrch oedd gofyn i bobl y mae salwch meddwl yn effeithio arnynt, sut y gellir gwella pethau yn y System Cyfiawnder Troseddol.

Un o’r ymatebion amlycaf yw bod hyfforddiant iechyd meddwl yn hanfodol – ar gyfer yr heddlu, ar gyfer barnwyr a staff llys, ac ar gyfer staff y carchar.

Yn syml, mae ein hymatebwyr o’r farn y dylai’r holl staff sy’n gweithio yn y System Cyfiawnder Troseddol gael hyfforddiant i adnabod ac ymateb i broblemau iechyd meddwl. Mae angen i bob aelod o staff angen wybod y protocolau ar gyfer delio â phroblemau iechyd meddwl; mae angen i bob aelod o staff fod yn ymwybodol o bwysigrwydd cyfathrebu clir a defnyddio iaith briodol.

Yn ogystal, mae ymatebwyr yn gryf o’r farn y dylai pobl sydd â phrofiad o fyw gyda salwch meddwl gynnal yr hyfforddiant – neu y dylent fod yn ymwneud â’r hyfforddiant, o leiaf – yn enwedig y rheini sydd wedi bod mewn argyfwng, fel bod staff cyfiawnder troseddol yn dod i ddeall yr anobaith, y trallod a heriau a wynebir gan y rheini sy’n dioddef salwch meddwl.

At hynny, roedd ymatebwyr yn arbennig o glir bod angen mynd i’r afael ag agweddau beirniadol ym mhob maes o’r System Cyfiawnder Troseddol.

Gellir crynhoi rhai o’r diwygiadau sylfaenol, hirdymor a nodwyd gan yr ymchwil, fel a ganlyn:-

  • Mae angen llwybr arbenigol ar gyfer pobl â salwch meddwl difrifol sy’n dod ynghlwm wrth y system cyfiawnder troseddol. Mae angen i’r llwybr hwn (1) eu hamddiffyn rhag amgylcheddau niweidiol y ddalfa, y llysoedd, a’r carchar a (2) lle y bo’n bosibl, eu cyfeirio’n uniongyrchol at y gwasanaeth mwyaf priodol ar bob cyfle ar hyd y llwybr.
  • Ni ddylai unrhyw un sydd â salwch meddwl difrifol fod yn un o gelloedd yr heddlu neu yn y carchar: dylai darpariaeth ddigonol fod ar gael mewn ysbytai a sefydliadau arbenigol eraill – gyda lefel briodol o ddiogelwch – o dan bob amgylchiadau, p’un a bod unrhyw drosedd yn gysylltiedig ag afiechyd meddwl neu beidio. Tra bod carchar yn dal i gael ei ddefnyddio, mae angen mynd i’r afael ag anghenion menywod a phobl ifanc, gan sicrhau bod darpariaeth briodol ar gael yn agos i gartref – yng Nghymru.
  • Dylai gwella ac ailgartrefu fod yn flaenllaw wrth bob cam o’r llwybr, gan gynnig gobaith i ddefnyddwyr a theuluoedd a bod yn brif ffocws ar gyfer asiantaethau a gweithwyr proffesiynol. Mae Cynlluniau Gofal a Thrin sy’n ofynnol o dan y Mesur Iechyd Meddwl yn darparu model ymarferol ar gyfer y ffocws hwn.
  • Rhaid mynd i’r afael ag anghydraddoldebau, yn enwedig y nifer anghymesur parhaus o gymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig yn y System Cyfiawnder Troseddol.
  • Rhaid cefnogi gofalwyr a theuluoedd: yn aml, nhw sy’n cynnig yr unig gefnogaeth barhaus ar gyfer defnyddwyr gwasanaethau ar hyd y llwybr. Mae angen gwybodaeth, hyfforddiant a chefnogaeth ar ofalwyr a theuluoedd, gyda mynediad rhwydd i ddefnyddwyr gwasanaethau a gweithwyr proffesiynol sy’n eu cefnogi.

Mae gan Jo Roberts, a arweiniodd ymgyrch ‘Lleihau Risg – Llwyddo i Wella’, brofiad personol gwerthfawr o’r gwasanaethau iechyd meddwl a’r System Cyfiawnder Troseddol am iddi gael ei chadw yn y ddalfa a threulio amser yng Nghlinig Caswell ac Ysbyty Ashworth, ymysg sefydliadau eraill, ac ar ôl bod yn destun Adran 37/41 y Swyddfa Gartref am sawl blwyddyn.

Dywedodd Jo wrthyf: “Mae ymgyrch ‘Lleihau Risg – Llwyddo i Wella’ yn gadarn wrth wraidd fy argyhoeddiadau – triniaeth barchus a charedig sy’n cadw pawb yn ddiogel ond sydd hefyd yn cynnig gobaith go iawn a’r disgwyliad o wella.

“Bu rhywfaint o welliannau dros y blynyddoedd ond mae gormod o bobl o hyd yn dioddef yn y carchar pan mae angen gofal ysbyty arnynt, neu eu bod ond yn cael triniaeth feddygol pan mae angen gofal cyfannol arnynt a thriniaeth sy’n eu helpu i symud ymlaen a chreu bywyd da iddynt eu hunain.

“Dewch i ni weithio gyda’n gilydd i newid y canlyniadau ar gyfer y grŵp hwn o bobl a wthiwyd i’r ymylon ac a esgeuluswyd gan y systemau iechyd a chyfiawnder fel ei gilydd. Rwy’n adnabod cynifer ohonynt yn dda, ac maent yn haeddu gwell.”

Dyma’r hyn y mae aelodau Hafal yn bwriadau ei wneud yn ystod y blynyddoedd sydd i ddod: rydym wedi adrodd yn ôl i Lywodraeth Cymru ac asiantaethau cyfiawnder troseddol am ein hymgyrch, a byddwn yn cynnig gweithio gyda nhw i wella bywydau grŵp hynod agored i niwed, sy’n haeddu cymaint gwell.

Yn rhan o’r Prosiect Ymchwil Gweithredu, fe wnaethom nodi bod angen gwybodaeth well i ddefnyddwyr a gofalwyr. I’r perwyl hwn, rydym wedi datblygu Canllaw Goroesi Cyfiawnder Troseddol rhyngweithiol sy’n cwmpasu pob cam o’r broses cyfiawnder troseddol ac yn darparu cyngor ar hawliau a chyfrifoldebau pobl ar hyd y ffordd.