Skip to main content

Iechyd meddwl oedolion

Hunangymorth dan arweiniad: triniaeth newydd ar gyfer PTSD?

26 Chwefror 2018

Rwyf i’n gynorthwyydd ymchwil a myfyriwr PhD yn y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl ym Mhrifysgol Caerdydd. Rwyf i’n rhan o dîm sy’n astudio effeithlonrwydd triniaeth hunangymorth newydd i bobl sy’n byw gydag anhwylder pryder ôl-drawmatig (PTSD).

Ar bwy mae PTSD yn effeithio? 

Mae datblygu symptomau o PTSD yn dilyn digwyddiad trawmatig yn beth cyffredin iawn.

Ymhlith y symptomau nodweddiadol mae ail-fyw’r trawma dro ar ôl tro mewn atgofion ymwthiol neu ôl-fflachiadau, breuddwydion neu hunllefau, ymdeimlad o fferdod emosiynol, diffyg diddordeb mewn gweithgareddau arferol, osgoi pethau sy’n atgoffa a gor-gyffroi, er enghraifft aflonyddwch.

Mae astudiaethau’n amcangyfrif y bydd tua 7% o bobl yn dioddef PTSD ar ryw bwynt yn eu bywydau.

Er gwaethaf yr angen iechyd meddwl hwn, mae rhestrau aros am driniaeth PTSD ar sail tystiolaeth yn gallu bod yn hir iawn, weithiau hyd at 18 mis, a dim ond nifer cyfyngedig o therapyddion wedi’u hyfforddi sydd ar gael i gyflenwi triniaethau seicolegol ar sail tystiolaeth ar gyfer PTSD.

Rhwystr posibl arall at driniaeth yw’r ffaith fod angen ymrwymiad mawr gan unigolion i fynychu apwyntiadau rheolaidd yn bersonol dros nifer o fisoedd.

Gall hyn fod yn anodd i bobl am nifer o resymau, fel anhawster cael amser o’r gwaith, teithio at yr apwyntiadau, ac efallai ganfyddiad o stigma am fynychu gwasanaethau iechyd meddwl.

Rydym ni’n credu y gallai hunangymorth dan arweiniad fel triniaeth ar gyfer PTSD fod yn ddatrysiad.

Triniaeth arloesol

Mae hunangymorth dan arweiniad yn cyfuno arweiniad rheolaidd gan therapydd a deunyddiau hunangymorth. O’i gymharu â thriniaethau safonol cyfredol mae angen llai o amser gyda therapydd ar y dull hwn.

Mae’n wybyddus fod Hunangymorth dan Arweiniad ar y we yn fath effeithiol a hygyrch o driniaeth seicolegol i unigolion sy’n profi gorbryder ac iselder, ac mae’r sail dystiolaeth ar gyfer ei ddefnydd i drin PTSD yn cynyddu.

Datblygwyd Spring, rhaglen Hunangymorth dan Arweiniad, gan Brifysgol Caerdydd a Healthcare Learning Company, ac fe’i bwriedir ar gyfer unigolion sydd â PTSD ysgafn i gymedrol.

Mae’n rhaglen wyth cam ar-lein sy’n hebrwng defnyddwyr drwy wybodaeth am PTSD a symptomau nodweddiadol, gan ddatgloi dulliau a thechnegau defnyddiol ar gyfer rheoli symptomau.  Mae therapyddion yn arwain ac yn cefnogi cyfranogwyr RAPID, gan eu hannog i ddefnyddio’r rhaglen a chwblhau’r gwaith cartref.

Caiff Spring ei asesu yn y treial clinigol RAPID (hap-brawf gyda rheolydd pragmataidd ar raglen hunangymorth dan arweiniad yn canolbwyntio ar drawma yn erbyn TFCBT unigol ar gyfer PTSD) dan arweiniad yr Athro Jonathan Bisson. Nod RAPID yw pennu a yw Spring yn ddewis amgen addas yn lle therapi wyneb yn wyneb i bobl sydd â PTSD ysgafn i gymedrol, sydd wedi profi un digwyddiad trawmatig.

Cyllidir RAPID gan y Sefydliad Ymchwil Iechyd Cenedlaethol (NIHR), ac mae’n gweithio mewn sawl canolfan sy’n cynorthwyo pobl â PTSD ar draws y DU, gan gynnwys NCMH ym Mhrifysgol Caerdydd.

Mae’n bwysig nodi bod Treial RAPID a’i ymyriad Spring wedi’u datblygu gyda, ac ar gyfer, pobl sydd wedi profi PTSD. Yn wir, mae Treial RAPID yn mynd ymhellach na hynny drwy gynnwys pobl sydd â phrofiad o fyw gyda PTSD yn y gwaith cynllunio, rheoli a’r grwpiau cynghori.

Myfyrdodau

Pauline Taylor, aelod o Grŵp Ymglymiad Cleifion a’r Cyhoedd RAPID, sy’n rhannu ei myfyrdodau am raglen ‘Spring’ mewn perthynas â’i phrofiad trawmatig ei hun:

Dros ugain mlynedd yn ôl profais ddigwyddiad trawmatig, pan oeddwn i’n ofni y byddwn yn marw.

 Pe bai’r rhaglen hon ar gael i mi bryd hynny, rwyf i’n siŵr na fyddai’r PTSD a ddioddefais ar ôl y digwyddiad hwnnw wedi parhau i effeithio mor negyddol ar fy mywyd am flynyddoedd lawer, oherwydd ddeliais i ddim â’r sefyllfa yn y dyddiau cynnar.

 Blinai fy PTSD fi yn gorfforol ac yn emosiynol, roeddwn yn dioddef gorludded emosiynol a chorfforol, oedd yn effeithio ar fy mywyd. Byddai’r rhaglen hon wedi fy arwain at ymwybyddiaeth o’r ffordd y gallai PTSD effeithio ar fy iechyd corfforol ac emosiynol gan fy ngalluogi i fod yn fwy gofalus o fy lles, a chymryd rheolaeth.

 Byddai wedi bod yn rhwyd diogelwch ar unwaith i mi pe bawn i’n teimlo’n fregus ac yn ddryslyd, gyda theimladau a meddyliau ‘amrwd’ iawn. Byddai wedi fy arwain yn dawel ac yn syml i ddeall fy nheimladau a fy ofnau, a fy ngrymuso i gymryd rheolaeth a daearu’r holl brofiad brawychus.

 Drwy’r cyfan, roeddwn i’n teimlo y byddai’r rhaglen wedi dod yn ffrind, yn cadarnhau’n eiriol ac yn rheolaidd bod fy nheimladau’n ‘normal’ ac y byddwn i’n iawn.

 Mae hefyd yn ymdrin â’r problemau iechyd corfforol ac emosiynol cyffredinol a all godi gyda PTSD. Ceir awgrymiadau defnyddiol ar ffitrwydd corfforol a ffyrdd i ddatblygu ymwybyddiaeth ofalgar.

 Rwy’n credu y byddai’n fuddiol iawn pe bai’r rhaglen yn cael ei defnyddio ar draws gwasanaethau gyda phersonél mewn gwaith trawmatig, a hefyd pe bai’n hygyrch ar draws meysydd cymorth Iechyd Meddwl, ymarfer iechyd cyffredinol ac Adnoddau Dynol yn y gweithle. 

Grymuso

Rhannodd aelod arall o Grŵp Ymglymiad Cleifion a’r Cyhoedd RAPID ei phrofiadau yn dilyn defnydd o ‘Spring’ fel cyfranogwr mewn ymchwil a ragflaenodd Treial RAPID ac oedd yn sail i’r gwaith presennol:

Roedd yn grymuso. Drwy ddechrau ar raglen hunangymorth dan arweiniad cefais y rheolaeth oedd ei hangen arnaf i. Roeddwn i wedi cael digon ar fod yn ddioddefwr. 

 Caiff y rhaglen ei llefaru a chewch eich arwain drwyddi gam wrth gam. Rhan allweddol o’r rhaglen oedd ysgrifennu cofnod person cyntaf o fy nigwyddiad trawmatig a’i ddarllen eto ac eto.

 Caniataodd y rhaglen fi i gael fy nad-sensiteiddio i’r hyn yr oeddwn wedi’i brofi. Dydych chi ddim yn ei guddio ond rydych chi’n gallu camu i ffwrdd o’r atgofion a delio gyda nhw.

 Roedd yn wych oherwydd gallwch ei wneud ar unrhyw gyfrifiadur yn unrhyw le. Mae’n hyblyg ac roedd yn gweddu i fi fel mam sengl sy’n gweithio llawn amser.

 Rwyf i wedi sylweddoli yn yr amser y byddwn i wedi bod ar restr aros am therapydd, fy mod eisoes yn ôl fel fi fy hun. Byddwn i’n argymell y rhaglen hon i unrhyw un mewn sefyllfa debyg.

 Mae technoleg yn dechrau ar gyfnod newydd, gydag apiau sy’n gallu gwneud gwahaniaeth i’ch iechyd meddwl. Mae rhaglen RAPID yn cyd-fynd yn berffaith ac yn ddilys â hynny.

 Mae RAPID ar waith, yn recriwtio cyfranogwyr ar draws de Cymru, Manceinion Fwyaf ac yn fuan bydd yn recriwtio yn Llundain a Chaeredin.

Credwn o bosib mai ein treial ni yw’r treial cymharol cyntaf o hunangymorth dan arweiniad ar-lein a therapi wyneb yn wyneb ar gyfer PTSD.

Rydym ni’n awyddus iawn i weld a yw hunangymorth dan arweiniad yn driniaeth addas, ddilys, gost effeithiol a derbyniol ar gyfer PTSD yn y GIG ac ar draws lleoliadau gwasanaeth eraill, a byddwn yn lledaenu ein canfyddiadau mor eang â phosib.

Darllenwch fwy am y treial neu cysylltwch â Natalie Simon ar 02920 688331 neu ebost SimonN2@cardiff.ac.uk