Skip to main content

Donate

Dewch i gwrdd ag arweinydd newydd ymchwil canser Caerdydd – cyfnod cyffrous i ddod

Dewch i gwrdd ag arweinydd newydd ymchwil canser Caerdydd – cyfnod cyffrous i ddod

Postiwyd ar 9 Rhagfyr 2020 gan Kate Morgan (BA 2017)

Yr Athro Awen Gallimore yw Arweinydd Thema Canser newydd Prifysgol Caerdydd. Mae hi’n llawn egni a brwdfrydedd ac mae ganddi gynlluniau mawr ar gyfer llywio ymchwil canser yng Nghaerdydd. Cawsom air gydag Awen i gael ei mewnwelediad i'r datblygiadau a'r arloesedd cyffrous sy'n cael eu cynnal yn y maes hwn.

Codwyr Arian Rhithwir #TîmCaerdydd Nelson Selvaraj

Codwyr Arian Rhithwir #TîmCaerdydd Nelson Selvaraj

Postiwyd ar 2 Hydref 2020 gan Kate Morgan (BA 2017)

Mae Nelson Selvaraj (MSc 2015) yn aelod o staff ac yn gynfyfyriwr sydd newydd redeg ras rithiol i godi arian ar gyfer ymchwil a gynhelir ym Mhrifysgol Caerdydd. Yma, mae’n sôn am yr hyn a’i ysbrydolodd i wynebu’r her gorfforol hon ac mae’n rhannu ei ddoethineb â’r rheini sy’n ystyried gwneud rhywbeth tebyg.

Cwrdd â’r Ymchwilydd – Dr Sarah Lauder

Cwrdd â’r Ymchwilydd – Dr Sarah Lauder

Postiwyd ar 17 Medi 2020 gan Alumni team

Canser y fron yw'r canser mwyaf cyffredin ymhlith menywod a phob blwyddyn mae tua 55,000 o bobl yn cael diagnosis yn y DU yn unig. Cyn Mis Ymwybyddiaeth Canser y Fron ym mis Hydref, buom yn siarad â'r ymchwilydd canser Sarah Lauder (BSc 2002, PhD 2007), sy’n Gydymaith Ymchwil yn Lab Imiwnoleg Canser Gallimore Godkin Prifysgol Caerdydd.

Rhoi profiadau i oedolion ifanc fydd gyda nhw am oes

Rhoi profiadau i oedolion ifanc fydd gyda nhw am oes

Postiwyd ar 17 Medi 2020 gan Alumni team

Mae rhaglen Cyfleoedd Byd-eang Prifysgol Caerdydd yn rhoi cyfle i fyfyrwyr wirfoddoli, gweithio ac astudio dramor, ac elwa ar y profiadau na fyddent wedi'u cael fel arall. Buom yn siarad â Sammy Fagan (Cemeg 2018-) a dreuliodd haf 2019 yn addysgu plant yn Tanzania.

Perthnasoedd newydd, cyllid newydd a dull newydd o asesu plant

Perthnasoedd newydd, cyllid newydd a dull newydd o asesu plant

Postiwyd ar 17 Medi 2020 gan Kate Morgan (BA 2017)

Mae Uned Asesu Niwroddatblygiad Prifysgol Caerdydd yn paratoi'r ffordd ar gyfer dyfodol asesiadau ymddygiad plant ac yn darparu cymorth y mae ei angen yn fawr ar deuluoedd, ysgolion a phlant. Gyda chymeradwyaeth grant COVID-19 UKRI newydd, mae ei waith gwerthfawr yn parhau yng nghyd-destun y pandemig presennol.