Skip to main content

Cyswllt CaerdyddGyrfaoeddNewyddionStraeon cynfyfyrwyr

Rhannu profiad, llunio dyfodol: traweffaith sgwrs gyrfaoedd ym Mhrifysgol Caerdydd

27 Awst 2026

Bu Tom Walby (BSc 2003, MSc 2005), arbenigwr geodechnegol a geoamgylcheddol a Rheolwr Technegol yn Prichard Remediation, yn rhannu ei daith o’r brifysgol i fyd diwydiant, gan gynnig cyngor ymarferol a barn onest ar banel gyrfaoedd cyn-fyfyrwyr.

Ochr yn ochr â thri chyn-fyfyriwr arall, a roddodd o’u hamser i gymryd rhan mewn sesiwn banel gyda’r nos a drefnwyd gan y Brifysgol, tynnodd sylw at yr ystod o yrfaoedd sydd ar gael yn y Geowyddorau. Wrth ddychwelyd i Brifysgol Caerdydd, cafodd Tom gyfle i fyfyrio a theimlodd bwrpas o’r newydd, a rhoddodd i’r myfyrwyr gipolwg gwerthfawr ar fywyd ar ôl graddio.

Ar ôl cwblhau ei radd yn Ysgol Gwyddorau’r Ddaear a’r Amgylchedd, dechreuodd Tom ar yrfa ymgynghori yn y sector peirianneg amgylcheddol a sifil.

“Dechreuais drwy gael profiad ymarferol, gan ddysgu sut roedd ymchwiliadau ac asesiadau o dir sydd wedi’i lygru’n gweithio’n ymarferol,” eglurodd Tom. “Unwaith i fi fagu hyder, roeddwn i allan yn y maes yn gwneud y gwaith fy hun.”

Dros amser, datblygodd y profiad ymarferol hwnnw yn fentora pobl eraill, cyn i symud i’r sector contractio gyda Prichard’s. Heddiw, mae ei rôl yn pontio’r bwlch rhwng asesiadau technegol a gwaith ar y safle – gan gynghori ar strategaethau at ddibenion adfer adnoddau, lleihau gwastraff a phrosiectau datblygiadau sylweddol.

Y profiad sylweddol hwn sy’n gwneud lleisiau cyn-fyfyrwyr mor werthfawr i fyfyrwyr – maen nhw’n dod â’u pynciau’n fyw ac yn dangos sut mae eu gwybodaeth yn trosi i’r byd go iawn.
Pan gafodd wahoddiad i ddychwelyd i Gaerdydd, roedd Tom wedi’i synnu.

“Doeddwn i ddim wedi llawn sylweddoli pa mor bell roeddwn i wedi dod ers fy nghyfnod fel myfyriwr,” dywedodd. “Roedd y cyfle’n ffordd o siarad â fi fy hun pan oeddwn i’n iau, a rhannu fy marn onest am yr yrfa sydd o’u blaenau.”

Er fy mod i wedi bod i ffwrdd ers 20 mlynedd, roedd dychwelyd i’r campws yn teimlo’n brofiad cyfarwydd.

“Er bod llawer o bethau wedi newid, mae brwdfrydedd ac uchelgais myfyrwyr yn dal i fod yn sail i’r amgylchedd dysgu hwn.”

Yn ôl Rose (Daeareg 2023-) , un o’r myfyrwyr yn y gynulleidfa: “Rwy’n credu bod panel y cyn-fyfyrwyr yn ysbrydoledig tu hwnt. Clywsom gan dri chyn-fyfyriwr sy’n gwneud swyddi gwahanol ynghylch sut mae eu gyrfaoedd wedi datblygu a’u prif awgrymiadau ar gyfer creu CV a gwneud cais am swyddi. Rwy’n ddiolchgar am gael cyfleoedd fel y rhain, gan eu bod yn ehangu eich gorwelion ac yn rhoi cipolwg i chi ar yr hyn y gallwch chi ei ddisgwyl ym myd gwaith.”

Mae’r math hwn o ymateb yn tynnu sylw at werth sgyrsiau gyrfaoedd. Maen nhw’n agor posibiliadau, yn cyflwyno safbwyntiau gwahanol ac yn rhoi’r hyder i fyfyrwyr ofyn cwestiynau am eu llwybrau eu hunain. Er bod manteision clir i fyfyrwyr, cafodd y profiad effaith barhaol ar Tom hefyd.

“Roedd mynd yn ôl i’r brifysgol wedi rhoi hwb i fi fyfyrio ar fy ngyrfa, ar y diwydiant ehangach a fy amcanion hun,” meddai. Daeth hyn yn ddatblygiad proffesiynol pendant, gan gefnogi cyflawniadau ar draws sawl corff proffesiynol, gan gynnwys y Gymdeithas Ddaearegol, Sefydliad y Peirianwyr Sifil, Sefydliad Siartredig Adeiladu a Sefydliad Arweinyddiaeth.

Fe wnaeth hefyd atgyfnerthu’r neges allweddol yr oedd Tom yn awyddus i’w rhannu: “Nid graddio yw diwedd y stori – does dim diwedd i’r stori, dim ond penodau newydd.”

Y tu hwnt i ddatblygiad personol, mae sgyrsiau gyrfaoedd yn creu cysylltiadau gwerthfawr rhwng cyn-fyfyrwyr, myfyrwyr a’r Brifysgol. I Tom, roedd yn gyfle i ailgysylltu â Phrifysgol Chaerdydd a dod i nabod unigolion dawnus sy’n dod i’r amlwg yn ei faes.

“Mae cyn-fyfyrwyr yn cynnig safbwyntiau sy’n mynd y tu hwnt i ddarlithoedd ac arholiadau,” eglura. “Mae rhannu llwybrau gyrfa yn helpu myfyrwyr i ddeall sut mae eu sgiliau academaidd yn troi’n gyfleoedd proffesiynol. Mae’n profi bod llwybrau’n bodoli yn y diwydiant ac mae’n amlygu myfyrwyr i yrfaoedd nad oedden nhw efallai wedi’u hystyried.”

I gyn-fyfyrwyr sy’n ystyried cymryd rhan, mae neges Tom yn syml: mae eich profiad yn bwysig. “Byddwn i’n annog unrhyw gyn-fyfyriwr i gymryd rhan. Mae profiad yn rhoi persbectif i chi nad oedd gennych chi ar ddechrau eich gyrfa.”

Nid bwriad rhannu straeon gyrfa, mentora a chefnogi myfyrwyr yw adlewyrchu taith yrfaol berffaith – y bwriad yw rhannu barn, y gwersi a ddysgwyd gennych a realiti byd gwaith. Drwy wneud hynny, gall cyn-fyfyrwyr wneud gwahaniaeth parhaol i fyfyrwyr ar gyfnod allweddol yn eu bywydau. “Mae gennych chi fwy i’w gynnig nag yr ydych chi’n meddwl,” ychwanega Tom. “Rhannwch eich profiad.”

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn rhoi o’ch amser, eich arbenigedd a’ch profiad i gefnogi ac ysbrydoli myfyrwyr, byddem wrth ein bodd yn cael clywed gennych chi.