Fy mhrofiad o Fenywod yn Mentora – Emma Young (BSc 1996)
5 Mehefin 2025
Awdur yw Emma Young (BSc 1996). Hi hefyd yw sefydlydd a Chyfarwyddwr Emma Young Consulting Ltd. Mae’n gynghorydd cynaliadwyedd annibynnol, ac mae ganddi ddiddordeb angerddol mewn gallu straeon i newid y byd. Mae wedi treulio dros 20 mlynedd yn y proffesiwn, gan gynnwys naw mlynedd yn BT Group lle bu’n creu ac yn arwain strategaeth gyfathrebu’r cwmni rhyngwladol ym maes cynaliadwyedd.
Ers dod yn gynghorydd annibynnol yn 2013, mae Emma wedi gweithio gydag ystod eang o gleientiaid, gan roi arweiniad strategol, rhannu ei harbenigedd mewn cyfathrebu ac ymgysylltu, a rheoli’r gwaith o gyflwyno adroddiadau ar gynaliadwyedd.
Cymerodd Emma ran yn ein cynllun Menywod yn Mentora yn 2025, a oedd wedi paru 26 o fentoriaid â mentoreion ar ddechrau eu gyrfaoedd. Mae hi’n rhannu ei phrofiadau o fod yn fentor a’r cipolwg gwerthfawr a gafodd drwy gymryd rhan yn y rhaglen.
Pam gwnaethoch chi benderfynu ymuno â chynllun Menywod yn Mentora i fod yn fentor?
Penderfynais i’n syth bod yn rhaid i mi ymuno – er fy mod i wedi bod yn gweithio am amser hir, rwy erioed wedi cael mentor fy hun. Pan o’n i’n gweithio mewn amgylchedd corfforaethol, doedd dim rhaglen swyddogol ar gael, a do’n i ddim yn teimlo’n ddigon hyderus i ofyn i uwch-arweinwyr fy mentora i.
Ers hynny, rwy wedi mentora pobl eraill drwy gyrff proffesiynol, ond dw i erioed wedi cael fy mharu â mentor fy hun. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, dwi wedi gweithio gyda hyfforddwr busnes arbennig. Rwy hefyd yn coetsio awduron sy’n dod i’r amlwg ac sy’n cael trafferth goresgyn problemau gyda’u hyder. Felly, yr ateb byr yw, ro’n i eisiau cynnig y math o gymorth ro’n i ei angen fy hun ar un adeg.
Pam mae cynllun o’r fath yn bwysig i chi?
Dw i’n meddwl bod rhai menywod yn poeni am ofyn am arweiniad a chymorth. Rwy’n gwybod y gwnes i deimlo fel hynny. Os nad ydych chi’n mynd ar ôl twf personol neu broffesiynol, gallwch chi golli’r cyfleoedd sydd ar gael. Mae cynlluniau megis Menywod yn Mentora yn werthfawr iawn gan eu bod yn cynnig ffyrdd haws o groesawu cyfleoedd a thwf.
Yr hyn dw i wedi’i ddysgu dros y blynyddoedd yw bod pobl ddawnus dawel yn aml yn cael eu diystyru tra bod pobl llai dawnus sy’n fodlon codi eu llais yn cael y sylw. Pan fydd menywod yn cael cymorth i wneud eu hunain yn amlwg, mae pawb yn elwa, gan gynnwys sefydliadau.
Allwch chi ddweud wrthyn ni am yr hyn sydd ynghlwm wrth y mentora?
Rwy’n cynnig pedair sesiwn un-i-un wythnosol i fy mentoreion. Mae pob un yn para tua hanner awr. Sylweddolais i fod sesiynau un-i-un yn arwain at drafodaethau mwy buddiol a gonest. Diben y sesiwn gyntaf yw ‘dod i’ch adnabod chi’, lle byddwn ni’n canolbwyntio ar yr hyn y mae’r mentoreion eisiau ei drafod fwyaf. O hynny ymlaen, rwy’n cynllunio’r sesiynau sy’n weddill i ganoli’n bennaf ar eu nod.
Ar ôl pob cyfarfod, rwy’n anfon crynodeb byr sy’n cynnwys nodiadau, myfyrdodau ac enwau unrhyw lyfrau, erthyglau neu adnoddau perthnasol. Os oes ganddyn nhw rywbeth pwysig ar y gweill, megis cyfweliad, bydda i’n ceisio anfon neges atyn nhw ar y diwrnod oherwydd, weithiau, mae angen i ni gydwybod bod rhywun yn meddwl amdanon ni.
Sut mae’r mentora wedi cael effaith gadarnhaol ar eich gyrfa?
Er nad ydw i wedi cael mentor ffurfiol, mae gweithio gyda hyfforddwr wedi newid pethau’n sylweddol i fi. Ac mae mentora eraill wedi bod yr un mor werthfawr – dw i’n dysgu rhywbeth newydd bob tro. Mae’n broses ddwyffordd o gyfnewid gwybodaeth a chael cymorth, ac rwy’n credu’n gryf fy mod i’n elwa o hynny cymaint â’r mentoreion.Rhannwch un awgrym defnyddiol y byddech chi’n ei roi i fenywod ar ddechrau eu gyrfaoedd/chi eich hun pan oeddech chi’n iau.
Dw i ddim yn hoffi rhoi cyngor cyffredinol oherwydd bod llwybr pawb mor bersonol. Ond pe gallwn i ddweud un peth wrthyf fi fy hun pan oeddwn i’n iau, byddwn i’n dweud: treulia amser ar geisio deall pwy wyt ti.
Dim ots a yw hynny’n golygu mynd i therapi, dod o hyd i hyfforddwr neu fentor, ysgrifennu mewn dyddiadur, mynd ar enciliadau – gwnewch beth bynnag sy’n eich helpu i ddeall beth sy’n eich ysgogi a pham, gan fod y math yna o hunan-wybodaeth yn archbŵer.Rwy’n teimlo fel fy mod i wedi bod ar daith bersonol drwy gydol fy mywyd, ond erbyn hyn, yn ystod ail hanner fy mywyd, rwy’n teimlo o’r diwedd bod gen i syniad da o bwy ydw i a beth sydd ei eisiau arna i. Mae’n debyg i gael canllaw cynhwysfawr ar gyfer technoleg ddryslyd yn lle chwilio am atebion mewn fforymau i ddefnyddwyr! Ac, yn olaf, byddwch yn garedig. Bob amser. Oherwydd bod hynny’n archbŵer, hefyd.
Rhowch eich amser, eich arbenigedd a’ch profiad i gefnogi ac ysbrydoli myfyrwyr a chyn-fyfyrwyr eraill. Darllen mwy.
- Tachwedd 2025
- Medi 2025
- Gorffennaf 2025
- Mehefin 2025
- Mai 2025
- Ebrill 2025
- Mawrth 2025
- Chwefror 2025
- Ionawr 2025
- Hydref 2024
- Medi 2024
- Awst 2024
- Gorffennaf 2024
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Mawrth 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018