Camwch yn ôl i Gaerdydd y 1960au – I Gyn-fyfyrwyr, Gan Gyn-fyfyrwyr
22 Ebrill 2025
Aethoch chi i Brifysgol Caerdydd yn y 1960au? Ymunwch â’r cyn-fyfyriwr Steve Pritchard (BA 1965), Llyfrgellydd Emeritws yng Nghaerdydd, am daith ymdrochol trwy Undeb Myfyrwyr y 1960au. Ymhlith y sêr sy’n rhan o’r hanes mae Harold Wilson a Paul McCartney. Mae’r digwyddiadau allweddol yn cynnwys Argyfwng Taflegrau Ciwba, cyngerdd cyntaf Bob Dylan yn y DU, ac (yn bwysicaf oll) agoriad hirddisgwyliedig y bar.
‘Codi Gwydr i Ddathlu Undeb y Myfyrwyr yn 50 Oed’ oedd pennawd rhifyn yr haf o’n cylchgrawn i gyn-fyfyrwyr, Cyswllt Caerdydd, yn 2024. Ac wrth gwrs, mae hanner can mlwyddiant yr ‘hen’ Undeb Myfyrwyr o 1974 ar Blas y Parc yn werth ei ddathlu.
Ac eto, ac eto. Roedd ’na brifysgol cyn 1974, ac Undeb Myfyrwyr cyn 1974. I gyn-fyfyrwyr o oedran penodol, ein Hundeb Myfyrwyr ‘ni’ oedd yr adeilad annwyl a safai ar Blas Dumfries. Roedd yn ganolog i ‘brofiad y myfyrwyr’, i ddefnyddio term diweddarach, rhwng 1951 a 1974.
Plas Dumfries? Ie, Plas Dumfries. Roedd yn lle gwahanol iawn i Blas Dumfries heddiw. Ac roedd bywyd y myfyrwyr yn yr Undeb honno yn wahanol mewn cymaint o ffyrdd i’r hyn oedd i ddod. Bywyd gwahanol mewn byd gwahanol. Rydw i a chyn-fyfyrwyr eraill sydd wedi cyfrannu yn gobeithio y bydd y darn hwn yn dwyn atgofion i rai darllenwyr, ac yn cynnig cipolwg ar fyd y myfyrwyr ers talwm i eraill. Er i Shakespeare ysgrifennu (bron), ‘Mae hen wŷr a hen wragedd yn anghofio, a chaiff popeth ei anghofio, ond fe gofiwn y campau a gyflawnom yn ein dyddiau fel myfyrwyr’, mae’r atgofion canlynol, lle y bo modd, wedi’u croeswirio yn erbyn ei gilydd, neu eu dilysu’n annibynnol fel arall.
Mae hi’n Wythnos y Glas, mis Hydref 1962
Fe ymunwn ni â thorf o israddedigion newydd – sy’n rhannol gyffrous, rhannol bryderus – yn crwydro o gwmpas Plas Dumfries. Yn loetran yng nghanol y ffordd, a dweud y gwir, lle mae chwe lôn o draffig bellach yn rhuo (heblaw pan mae ’na dagfeydd) rhwng Heol Casnewydd a’r enfawr Stuttgarter Strasse. Ond 1962 yw hi a does fawr o obaith o gael eich taro gan gar, gan fod Plas Dumfries yn dal i fod yn ffordd bengaead sy’n dechrau wrth gyffordd Heol Casnewydd â Heol-y-Frenhines ac yn gorffen ychydig y tu ôl i ni yn y Neuadd Ymarfer.

Mae Undeb y Myfyrwyr yn sefyll tua hanner ffordd ar hyd ochr orllewinol Plas Dumfries, lle byddai bloc swyddfeydd Haywood House yn sefyll ryw 60 mlynedd yn ddiweddarach. Mae adeilad yr Undeb yn ymdebygu i gartref teuluol Fictoraidd neu Edwardaidd. Yn wir, fe’i cynlluniwyd i gartrefu Ysgol Baratoi Caerdydd a sefydlwyd ym 1875 i baratoi 300 o ysgolheigion, ar gost gymedrol, ar gyfer mynediad i brifysgol, y lluoedd arfog, a’r proffesiynau masnachol. Ym 1892, caeodd yr ysgol a gwerthwyd yr adeilad i Goleg Prifysgol De Cymru a Sir Fynwy – a ddaeth yn y pen draw yn Brifysgol Caerdydd. Ar ôl bod yn gartref i ddosbarthiadau celf amrywiol, dosbarthiadau technegol, a swyddfeydd y llywodraeth, cafodd ei aileni’n Undeb y Myfyrwyr ym 1951.
Gadawn ni’r dorf o fyfyrwyr newydd. Gwelwn fod llawer o’r dynion yn gwisgo siacedi chwaraeon brethyn a chrys gwyn a thei, ac ambell i ‘fitnic’ (math o hipi cynnar) yn gwisgo cot waith a jîns. Mae’r merched yn ffafrio ffrogiau a sgertiau, gydag ambell un mewn trowsus. Ac i ddynion a merched fel ei gilydd, nid oes ‘treinyrs’ ar gyfyl y lle. Tra’u bod nhw’n aros i fysus eu cludo i Gaeau Chwarae’r Brifysgol yn Llanrhymni ar gyfer barbeciw Wythnos y Glas, fe groeswn ni’r ffordd ddi-draffig i ddarganfod adeilad yr Undeb.
Fe ddringwn ni ddau neu dri gris, drwy’r porth, ac rydyn ni yn y cyntedd. Mae’n lle cyfyng. I’r chwith ohonom mae cownter y ciosg neu siop fach y tu ôl i’w ffenestr wydr. Pryd bynnag y byddech chi yn yr Undeb, roedd yr un wraig garedig i’w gweld yn staffio’r siop ac yn gwerthu pennau, pensiliau, padiau ysgrifennu, stampiau post, a melysion. Yng nghefn y neuadd mae’r ffôn cyhoeddus. Yr unig un yn yr adeilad. Nid oedd galwadau ffôn symudol neu negeseuon testun rheolaidd i rieni yn yr oes hon. Yn wir, byddai llawer o’r myfyrwyr wedi dod o gartrefi heb ffôn, felly fyddai neb i’w ffonio. Wedi pasio’r ffôn, rydyn ni ynghanol clwstwr o ystafelloedd cyfarfod a swyddfeydd ar gyfer Llywydd yr Undeb, Ysgrifennydd y Tŷ, Ysgrifennydd UCM, a’r Undeb Athletau. Mae offer swyddfa yn brin. Mae ffôn yno’n sicr, ond mae’r atgofion yn amrywio am fodolaeth teipiadur. Yma hefyd, yn rhywle, mae’r Ystafell Gwastraffu Amser (yr Ystafell Snwcer).
Yn ôl yn y cyntedd mae’r grisiau sy’n arwain at y llawr cyntaf. Fe ddringwn ni’r grisiau yn nes ymlaen. Y tu ôl i’r grisiau mae ’na goridor hir. Mae’r arogl bwyd yn yr adeilad yn cryfhau. Ym mhen y coridor mae’r Ffreutur – ystafell fawr ac eithaf plaen, a dweud y gwir, nid fel y byddech chi’n ei weld ym mhrifysgolion Caergrawnt neu Rydychen. Nawr, gyda’r nos, fel amser cinio, mae myfyrwyr yn ciwio i gasglu hambwrdd a chael eu gweini.
Ar y fwydlen: dadleuon bywiog, nosweithiau sinema, a swêds stwnsh
Mae’r bwyd yn nodweddiadol o ffreutur sylfaenol. Ond yn fforddiadwy, hyd yn oed os, wrth i’r tymor fynd rhagddo, na all y grantiau cynhaliaeth, sydd bellach wedi hen ddarfod – ymestyn yn bellach na “sglodion a ffa pob, os gwelwch yn dda”. Mae’r fwydlen wedi’i harddangos mewn priflythrennau plastig gwyn wedi’u gwthio i mewn i fwrdd wedi’i orchuddio â ffabrig. Ai camgymeriad syml yw’r ‘PLUM GRUMBLE’ sydd ar gael heddiw, neu a yw’n wahoddiad i gwyno, neu a yw’r llythyren ‘C’ ar goll? A gall y merched sy’n gweini fod yn reit swta. Ar un achlysur, atebwyd y cais am “dim swêds stwnsh plîs, dim ond y porc rhost a thatws rhost”, gyda “mae swêds ar y fwydlen, felly mae’n rhaid i chi eu cael nhw”. A hwythau mor ystyfnig â’r gweinydd, aeth y ddau fyfyriwr gwrth-swêds â’u hapêl at Lywydd yr Undeb, a ddatrysodd y ddadl drwy drafodaeth. Cytunodd y gweinydd y gallai swêds stwnsh gael ei ystyried yn opsiwn ychwanegol.
Mae’r ffreutur, gyda’r cadeiriau a’r byrddau wedi’u gwthio o’r neilltu, yn dyblu ar nos Wener fel siambr drafod yr Undeb. Mae’r dadleuon yn angerddol – ni ddangosir trugarhad wrth neb, maen nhw’n chwyrn, ac er bod y siaradwyr yn gwisgo gynau academaidd, dydyn nhw ddim yn parchu na statws na rôl. Ac mae’n dipyn o sioc i siaradwyr gwadd o brifysgolion eraill, sydd wedi arfer â thipyn o gwrteisi: ‘fel y dywedodd fy ffrind dysgedig’ neu ‘os y Mr Llywydd yn caniatáu’, a ffurfiolrwydd felly. Yn hytrach, fel y cofia un o fyfyrwyr Caerdydd, “roedd yn fan lle byddai eich breichiau chi’n cael eu rhwygo i ffwrdd.”
Ac nid dim ond myfyrwyr oedd yno. Ymhlith yr ASau sy’n mentro i siambr ddadlau’r Undeb yn ystod y blynyddoedd hyn mae James Callaghan (a drechwyd gan Harold Wilson ar gyfer arweinyddiaeth y Blaid Lafur ym 1963), Desmond Donnelly (a newidiodd ei deyrngarwch gwleidyddol bum gwaith), a Raymond Gower (y ffigwr cynyddol brin hwnnw, AS Ceidwadol Cymreig). Roedd y rhain yn enwau mawr ar lefel genedlaethol, oedden, ond doedd dim ots gan fyfyrwyr Caerdydd. Dechreuodd un o’r siaradwyr hynny, y mai ei enw wedi’i gadw’n ôl i osgoi cywilydd i’w ddisgynyddion, ei araith gyda “mae gen i ffrind”. Mewn ymateb, bloeddiodd y dorf “amhosib”, “dwi ddim yn credu’r peth”, a “tynna’r un arall”. O’r pwynt hwnnw doedd dim troi ’nôl, a chollodd y siaradwr anffodus ei bwyll.
Nid oedd gan Gwestiynau’r Prif Weinidog yn San Steffan ddim i’w ddysgu i Siambr Ddadlau Undeb Caerdydd. Neu a oedden ni’n dyst i ddechreuadau ‘dim dangos eich hun’ a ‘chanslo’? Mae’n debyg bod yr amgylchedd dadlau didostur hwn rhwng 1961-67 wedi bod yn faes hyfforddi effeithiol. Enillodd Llywydd yr Undeb yr Observer Mace, twrnamaint dadlau sydd ar agor i holl brifysgolion Prydain ac Iwerddon, cyn dechrau gyrfa ddarlledu lewyrchus gyda BBC Wales. Daeth un arall yn Arweinydd y Blaid Lafur ac Is-lywydd y Comisiwn Ewropeaidd. Ac yna roedd rhai a aeth ymlaen i yrfaoedd mewn gwleidyddiaeth leol, gan gynnwys un a oedd, am ddeugain mlynedd, yn gynghorydd Llafur uchel ei barch yn ei ardal enedigol yng Ngogledd Lloegr.
Ar nosweithiau Sul, mae’r ffreutur yn troi’n sinema. Trwy drefniant (efallai bod arian wedi cyfnewid dwylo, wnawn ni ddim datgelu popeth), mae Ysgrifennydd y Tŷ ar y pryd yn derbyn y ffilm newydd y bydd Sinema’r Parc yn ei dangos o ddydd Llun ymlaen. Pam dydd Sul yn yr Undeb? Hawdd – oherwydd yn y dyddiau hynny roedd sinemâu masnachol, yn union fel tafarndai, ar gau ar y Sul. A’r gost? Ar y dechrau, chwecheiniog (2.5c), a oedd yn fforddiadwy iawn, er bod hyn wedi cynyddu i swllt (5c) y flwyddyn ganlynol. Yn hollbwysig, mae’r elw o’r sylltau Sul hyn yn cael ei ail-fuddsoddi ym mywyd y myfyrwyr – ar ôl dim ond blwyddyn, cafodd y Clwb Jazz fas dwbl newydd sbon.
Un o’r nodweddion o fywyd y myfyrwyr na fydd yn goroesi y tu hwnt i’r 1960au yw’r cymanfeydd canu wythnosol. Ym mis Chwefror 1963, daeth myfyrwyr i’r ffreutur, gyda’r hwyrddyfodiaid yn swatio ar y llawr, i glywed Harold Wilson yn siarad. Y diwrnod cynt roedd wedi ei ethol yn Arweinydd y Blaid Lafur ond anrhydeddodd ei ymrwymiad i’r Gymdeithas Sosialaidd (neu’r Soc Soc yn Saesneg, wrth gwrs) i annerch myfyrwyr Caerdydd. Torrwyd ar draws y cyfarfod, a anerchwyd gan Hugh Gaitskell, rhagflaenydd Wilson fel Arweinydd y Blaid Lafur, gan grŵp o fyfyrwyr afreolus o Abertawe a oedd yn benderfynol o achosi anhrefn. Ac fe lwyddon nhw.
Profwch sîn gerddoriaeth y 60au
Gadawn ni’r llawr gwaelod a’r myfyrwyr llwglyd yn ciwio am swper, gan fynd yn ôl i’r cyntedd, a dringo’r grisiau i’r llawr cyntaf. A dyma ni yn y lolfa. Ystafell gyda charped, sy’n beth prin yn adeilad yr Undeb, wedi’i dodrefnu ag amrywiaeth o gadeiriau breichiau wedi’u clustogi, neu gadeiriau bwced. Roedd y lolfa’n boblogaidd iawn, yn cael ei defnyddio gan lawer, yn aml yn orlawn, ac felly braidd yn ddi-raen. A oedd hi’n ddi-raen i ni bryd hynny? Nac oedd, mae’n siŵr. Roedd hi’n gyfforddus a chlud. Mewn gair, i lawer ohonom ym Mhrydain ar ôl y rhyfel, roedd yn ‘gartrefol’.
Ond cofiwch, mae’r lolfa’n cynnwys y dechnoleg adloniant ddiweddaraf – radiogram, uned hirsgwar fawr sy’n cyfuno radio a chwaraewr recordiau. Mae’n siŵr y gallai’r trofwrdd hwn hawlio’r anrhydedd o chwarae Bob Dylan am y tro cyntaf mewn gofod cyhoeddus yng Nghaerdydd. Rhuthrodd dau fyfyriwr, yn dychwelyd ar ben eu digon o gyngerdd cyntaf erioed Dylan – nad oedd yn adnabyddus ar y pryd – yn y DU (y Royal Festival Hall, 17 Mai 1964), at y radiogram i chwarae eu LPs Dylan newydd (Bob Dylan, The Freewheelin’ Bob Dylan, The Times They Are A-Changin). Nid y ddau yma oedd unig ffans Dylan yn yr Undeb. Roedd myfyriwr arall yn aml yn hawlio’r radiogram i chwarae ei unig LP Dylan drosodd a throsodd nes i un gwrandäwr anfodlon, ar ôl clywed mwy na digon, neidio i fyny a thynnu’r LP oddi ar y trofwrdd, ei lithro i mewn i’w lawes, ei stwffio i fyny siwmper y troseddwr, a’i anfon ymaith.
Mae atgof cerddorol arall o’r 1970au cynnar iawn yn cynnwys unigolyn ifanc hirwallt yn dod i’r Undeb ac yn cynnig chwarae cyngerdd am ddim i’r myfyrwyr y noson honno gyda’i fand newydd. Yr ymateb? “Sori, mêt, y ffreutur yw’r unig ’stafell sy’n ddigon mawr, ac mae honno wedi’i bwcio gan y Clwb Badminton heno.” Gadawodd y cerddor, gan anelu tua’r dwyrain, a’r noson honno chwaraeodd Paul McCartney a’i fand newydd Wings gyngerdd am ddim yng Nghasnewydd.
Hefyd i fyny’r grisiau mae’r Ffreutur Uchaf – mae’n llai, yn lanach, ac, fel mae’r enw’n ei awgrymu efallai, yn fwy detholus na’r ffreutur lawr grisiau. Yn wir, ni wnaeth llawer o fyfyrwyr erioed ddarganfod ei bodolaeth. Gerllaw mae’r ystafell deledu a’i set fach ddu a gwyn. Yn llai o faint ac yn llai poblogaidd na’r lolfa, mwynhaodd yr ystafell hon ei hanterth rhwng 16 a 28 Hydref 1962 wrth i Argyfwng Taflegrau Ciwba ddatblygu ac wrth i ryfel niwclear rhwng yr Undeb Sofietaidd ac UDA ddod yn bosibilrwydd go iawn. Yn y pen draw, gwnaeth diplomyddiaeth ddad-ddwysáu’r gwrthdaro ac anadlodd y byd eto, gan gynnwys myfyrwyr pryderus Caerdydd. Buon nhw’n gwylio’r delweddau du a gwyn aneglur yn ofni rhyfel niwclear ac yn pendroni a ddylen nhw fynd adref at eu rhieni neu aros yn y ddinas. Roedd y lolfa deledu yn lle hapusach ym 1964 wrth i ddelweddau yr un mor aneglur ddangos Lynn ‘the Leap’, a aned yn Nant-y-moel, yn ennill medal aur yn y naid hir yng Ngemau Olympaidd Tokyo.
Dewch i gwrdd â ni wrth y bar
Ac ar y nodyn llawen hwnnw rydyn ni’n gorffen ein taith o amgylch adeilad Undeb y Myfyrwyr fel yr oedd yn y 1960au cynnar. Doedd dim llawer o fawredd am y lle, fel y gwelwch chi. Ond dyma oedd canolbwynt prysur a llewyrchus bywyd yn y brifysgol i lawer o’r tua 3,200 o israddedigion a thua 300 o ôl-raddedigion, cymysgedd o fabanod rhyfel a bŵmers. A chofiwch, yn y 1960au cynnar, roedd cyn lleied â 3-4% o fyfyrwyr a oedd yn gadael yr ysgol yn mynd ymlaen i brifysgol. Ac roedd llawer, os nad y rhan fwyaf, o’r lleiafrif bychan hwnnw y cyntaf o’u teulu i fynd i’r brifysgol. Byd newydd a dieithr. Ac nac oedd, doedd dim unrhyw ffioedd dysgu na dyled myfyrwyr yn y dyddiau hynny. Ar y llaw arall, roedd ymdopi ag uchafswm grant cynhaliaeth yr Awdurdod Addysg Lleol o £10 yr wythnos – ar gyfer llety, bwyd, teithio, adloniant, heb sôn am lyfrau – yn aml iawn yn golygu dysgu beth oedd gorddrafft. Roedd yn brofiad newydd i fyfyrwyr nad oedden nhw erioed wedi bod mewn banc o’r blaen, yn dod o deuluoedd heb gyfrif banc.
Esgusodwch fi? Beth ddwedoch chi? Dwi wedi anghofio rhywbeth? O, wrth gwrs, y bar. Wel, mae hynny gan nad oes un. Dim eto beth bynnag, yn Wythnos y Glas ym mis Hydref 1962. Oedden, wrth gwrs, roedd myfyrwyr yn yfed yn y dyddiau hynny. Dyw’r gorffennol ddim mor anghyfarwydd â hynny. Fodd bynnag, nid oedd marchnad y myfyrwyr yn cael ei thargedu cymaint bryd hynny gan y bragwyr a’r distyllwyr. Ond fe yfon ni. Cwrw yn bennaf, gwin efallai i’r rhai soffistigedig, ac roedd coctels yn gymysgeddau egsotig a oedd yn ôl pob tebyg wedi marw gyda’r 1930au.
Am ychydig flynyddoedd, roedd y brifysgol wedi gwrthwynebu lobïo gan fyfyrwyr am Far Undeb gan nad oedd tystiolaeth fod mwyafrif y myfyrwyr o blaid. Cytunodd y Brifysgol i refferendwm gyda’r amod fod yn rhaid i o leiaf 1,200 o bleidleisiau gael eu bwrw er mwyn i’r canlyniad fod yn rhwymol. Canlyniad y refferendwm a gynhaliwyd ym mis Chwefror 1962 oedd 1,181 o blaid a 209 yn erbyn. Mae’n anodd nodi’r union ddyddiad yr agorodd y bar, ond mae’n debyg iddo ddigwydd rhwng Rhagfyr 1962 ac Ionawr 1963. A dyma’r bar myfyrwyr cyntaf yn unrhyw un o sefydliadau Prifysgol Cymru. A chafodd y bar newydd sylw gan TWW (Television Wales and the West) hyd yn oed, y rhwydwaith teledu masnachol lleol ar y pryd. Arweiniodd hyn at gryn embaras i un myfyriwr israddedig o deulu llwyrymwrthodol yng Ngogledd Cymru, y cafodd ei thad sioc, os nad mwy, o weld ei ferch ar y sgrîn gyda pheint hanner llawn yn ei llaw.
Ble roedd myfyrwyr yn mynd am ddiod cyn 1963? Y safle trwyddedig agosaf i’r Undeb oedd yr ‘Alex’ poblogaidd a di-raen, Gwesty’r Alexander a safai ar gornel Heol-y-Frenhines a Rhodfa’r Orsaf. Roedd hi’n ddigon hawdd delio â’r traffig ar Heol-y-Frenhines ar y ffordd i’r ‘Alex’, ond gallai’r daith yn ôl fod yn fwy problematig, peryglus hyd yn oed. Mae’n werth cofio hefyd fod tafarndai Caerdydd wedi bod ar gau ar y Sul tan refferendwm Tachwedd 1961.
Ond allwn ni ddim gadael y bar heb gofnodi bod ei elw, o fewn blwyddyn neu ddwy o agor, wedi trawsnewid cyllid yr Undeb o weithredu ar ddiffyg blynyddol i warged blynyddol. Derbyniodd nifer o glybiau chwaraeon git ac offer newydd – gwnaeth rhwyfo, rygbi, pêl-droed, pêl-rwyd ac athletau i gyd elwa ar yfed y myfyrwyr. Ar benwythnosau rygbi rhyngwladol, roedd loriau’r bragdai yn cludo tri llwyth ar wahân i’r Undeb i gadw i fyny â chwant y myfyrwyr am gwrw. Ac roedd yn rhaid i’r tai bach gael eu cau, eu golchi, eu glanhau, a’u hail-agor yr un mor aml o leiaf.
A dyna ni am ein taith o amgylch hen adeilad Undeb y Myfyrwyr. Cyn belled ag y bo modd, mae’r holl straeon uchod mor gywir ag y gall cof ffaeledig eu gwneud nhw. Ac o oes, mae digon o straeon eraill, rhai sy’n ddigon amheus. A redodd aelod blaenllaw o’r Undeb ar hyd yr adeilad gyda’i drowsus roed ei bigyrnau i ennill bet? A ysgogwyd y myfyriwr a ollyngodd gynnwys diffoddwr tân yn wyneb swyddog Undeb gan wleidyddiaeth neu atgasedd personol?
Gadewch i ni orffen gyda stori sydd yn sicr yn wir. Mae’n nos Wener yn ystod un o’r dadleuon tanllyd, tanbaid, didostur ’na, a’r cynnig yw ‘Byddai’r Tŷ Hwn yn Pleidleisio’n Geidwadol yn yr Etholiad Nesaf’. Mae’r lle, fel arfer, yn wenfflam. Mae myfyriwr, a fydd cyn bo hir yn newyddiadurwr ac awdur llwyddiannus, yn cyrraedd, yn ffwndro ac yn gafael yn ei frest, gan ddatgan yn ddramatig, “o, mae fy nghalon yn gwaedu” – i’r siaradwr Ceidwadol sydd dan warchae.
Cydnabyddiaethau
Mae’n bleser diolch i’r cyn-fyfyrwyr canlynol am eu parodrwydd i fynd am dro i’r gorffennol gyda mi: Roy Bailey-Wood (BSc 1966, PhD 1970), Ray Guy (BSc 1963) Peter Jacobs (BA 1964), Neil Kinnock (TAR 1965), Rita Morton (Lloyd gynt) (BA 1965) Karen Pritchard (Sorenson gynt) (BA 1965).
Diolch yn fawr hefyd i Jennifer Wolmar ac Anna Sharrard o Gasgliadau Arbennig ac Archifau Llyfrgell y Brifysgol (SCOLAR) am, yn y drefn hon, hwyluso mynediad i ffeiliau papur newydd y myfyrwyr ac am fy nghyfeirio at adrannau perthnasol University College Cardiff, a Centenary History 1883-1983 gan SB Chrimes, Athro Hanes.

A, yr Athro Chrimes, ffigwr arall o’r cyfnod rydyn ni wedi bod yn ei gofio. Ac, weithiau i israddedigion, ffigwr a oedd yr un mor frawychus ag yr oedd yn edmygus ar brydiau. Fel y fyfyrwraig blwyddyn gyntaf ffasiynol a gyrhaeddodd yn hwyr ar gyfer darlith Hanes Rhan Un. Mae hi’n cerdded ar flaenau ei thraed, gyda’i sodlau uchel yn tap-tapian ar lawr yr awditoriwm, cyn iddi gael ei hatal gan gerydd o’r ddarllenfa. “Miss Sorenson, mae gynau israddedig i’w gwisgo, nid eu cario.”
Ac mae cymaint o academyddion cofiadwy a nodedig eraill i’w cofio. Wedi’r cyfan, roedden ni yng Nghaerdydd yn bennaf i astudio, nid dim ond i fwynhau bywyd yn Undeb y Myfyrwyr. Mae un myfyriwr yn cofio’r Athro R.J.C. Atkinson o’r adran Archaeoleg yn edrych ymlaen at ddrysu archeolegwyr y dyfodol: “Pan fyddan nhw’n datgloddio fy sgerbwd o’r ugeinfed ganrif ac yn ei ddarganfod yn gwisgo’r fodrwy hon o’r Oes Efydd”, byddai’n dysgu gwers werthfawr i’r myfyrwyr.
Dr Mike Jarrett, hefyd o’r adran Archaeology, yn dal traethawd myfyriwr rhwng ei fawd a’i fys blaen ac yn dweud “Mr (enw wedi’i gadw’n ôl i amddiffyn yr euog), fyddwn i ddim yn cyffwrdd â hwn gyda pholyn cwch wedi’i ddiheintio”. Ac yna’r carismataidd Dr (Athro’n ddiweddarach) Terry Hawkes o’r adran Saesneg, yn herio ei fyfyrwyr i fynd i’r afael â’r cysyniad o ‘Ymddangosiad a Realiti’ yn nramâu Shakespeare.
Ymddangosiad a Realiti? Drysau Canfyddiad? ‘Hey, Mr Tambourine Man… take me disappearing through the smoke rings of my mind…’ ac ati. Mae’n ymddangos ein bod ni wedi dod i ben lle dechreuon ni. Yn y 1960au. Ac rydyn ni’n cofio rhywfaint ohono.
Bydd Caerdydd gyda chi am byth
Eisiau parhau â’ch taith i’r gorffennol? Ailgysylltwch â’ch cyd-fyfyrwyr ar un o’r grwpiau Facebook cyn-fyfyrwyr swyddogol, a chofiwch gael golwg ar ein casgliad cynyddol o atgofion Caerdydd.
- Ebrill 2025
- Mawrth 2025
- Chwefror 2025
- Ionawr 2025
- Hydref 2024
- Medi 2024
- Awst 2024
- Gorffennaf 2024
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Mawrth 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018