Skip to main content

Cyswllt CaerdyddGyrfaoeddI Gynfyfyrwyr, Gan GynfyfyrwyrNewyddionStraeon cynfyfyrwyr

Newid adfywiol mewn gyrfa – I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr

28 Awst 2024

Cyn iddi ailhyfforddi i fod yn gogydd, treuliodd Ceri Jones (BMus ​​2003) ddegawd yn adeiladu gyrfa yn y diwydiant cerddoriaeth. Yma, mae hi’n myfyrio ar ei phrofiad o gymryd y naid, ac i le mae ei hangerdd am goginio wedi mynd â hi hyd yn hyn.  

Yn 2003, graddiais i o Brifysgol Caerdydd gyda BMus, ac ro’n i’n benderfynol o ddod o hyd i lwybr gyrfa yn y diwydiant cerddoriaeth glasurol – felly sut wnes i ddod i addysgu coginio ac ysgrifennu llyfr coginio?   

I ddechrau, fe wnes i gychwyn ar lwybr yn y diwydiant cerddoriaeth. Yn syth ar ôl graddio o Brifysgol Caerdydd, fe ddechreuais i weithio ar leoliad yn nhîm gweinyddol Cerddorfa Oes yr Oleuedigaeth (OAE), a daeth honno’n swydd barhaol. Yn ystod y 10 mlynedd pan oeddwn i’n gweithio i’r OAE, ro’n i wastad yn dynn ar sodlau cerddorion proffesiynol, ac yn trefnu cyngherddau a theithiau. Dyna’r yrfa ro’n i wastad wedi bod a bryd arni, ac ar ôl bod yn rhan o’r byd cerddorol ers yn ifanc, do’n i ddim wedi bwriadu gwneud unrhyw beth arall.

Serch hynny, ar ôl tua wyth mlynedd yn OAE, daeth yr ysfa am newid. O un flwyddyn i’r llall, dechreuodd y calendr o gyngherddau a theithiau ddilyn yr un hen drefn, a dim ond hyn a hyn o weithiau y gallai unrhyw un oddef gorfod trefnu fisâu i gerddorion ar fyr rybudd, neu oddef yr holl ffwdan o orfod cofrestru wrth y ddesg yn y maes awyr am 6 o’r gloch y bore. Bryd hynny, ro’n i hefyd wedi dechrau datblygu fy angerdd am goginio gartref, wedi dechrau rhannu ryseitiau ar flog, ac ro’n i’n dyheu am ysgrifennu llyfr coginio.

Yn ystod yr un cyfnod, aeth fy Mam yn ddifrifol wael, prin bedair blynedd ar ôl i fy nhad farw. Arhosais yn fy swydd am gyfnod llawer hirach nag y dylwn i fod wedi. Roedd angen sefydlogrwydd arnaf i ar adeg lle’r oeddwn i dan straen aruthrol. Pan fu farw Mam rhai misoedd ar ôl fy mhen-blwydd yn 30 oed, roedd yn bryd imi newid pethau. Wedi i’r broses o werthu cartref y teulu ddod i ben yn fuan wedyn, ro’n i’n teimlo’n ddigon cadarn yn ariannol i ymddiswyddo a chofrestru ar gwrs hyfforddi cogyddion am chwe mis. Ro’n i’n dwlu ar y cwrs – roedd y profiad o ymgolli mewn rhywbeth newydd yn un mor adfywiol.

Yn ystod fy amser dan hyfforddiant, ro’n i’n helpu mewn ysgol goginio. Roedd yn teimlo fel y ffordd orau o ddefnyddio fy sgiliau newydd. Ro’n i wrth fy modd yn rhannu fy mân awgrymiadau a helpu i roi hwb i hyder y rhai oedd yn cymryd rhan. Ar y pryd, doedd gen i ddim syniad beth o’n i’n mynd i’w wneud ar ôl imi gymhwyso’n gogydd newydd, ond y gobaith oedd y byddai addysg bwyd yn rhan o fy nghynlluniau mewn rhyw ffordd neu gilydd. Mae 11 mlynedd wedi mynd heibio ers imi newid gyrfa, ac ar ôl rhoi cynnig ar ambell i swydd llawrydd, mae fy ngwaith bellach wedi’i rannu i dri phrif faes – gweithio’n rhan-amser yn addysgu ym maes Bwyd a Choginio yn y Garden Museum yn Llundain, ysgrifennu am fwyd, a bod yn gogydd o dro i dro.

A minnau’n addysgwr ym maes bwyd, rwy’n arwain gweithdai i ystod eang o bobl, yn dechrau o bump oed a hŷn. Mae’r swydd yn hynod foddhaus, a phleser yw gweld unigolion yn mireinio sgiliau nad oedden nhw hyd yn oed wedi sylweddoli bod ganddyn nhw. Yn y sesiynau coginio, rydyn ni wastad yn mynd i’r afael â sgiliau cyllyll, dysgu sut i werthfawrogi llysiau, technegau coginio syml, a sut i ychwanegu blas at fwyd. Fel nifer o bobl sydd o’r un oedran â fi, doedd dim llawer o gyfleoedd inni astudio addysg bwyd yn yr ysgol, a dysgais fy hun sut i goginio yn y brifysgol pan ro’n i wedi diflasu â choginio pasta â pesto. Mae’n wych gallu defnyddio fy sgiliau a fy ngwybodaeth er mwyn ateb y galw am addysg goginio, yn enwedig ar gyfer yr unigolion hynny na chawson nhw’r cyfle i’w hastudio yn y gorffennol.

Yn gynharach eleni, ar ôl gwneud cryn dipyn o waith arno, fe wnes i gyhoeddi fy llyfr coginio cyntaf, sef ‘It Starts with Veg: 100 seasonal suppers and sides’ a gafodd ei gyhoeddi gan Pavilion Books, sy’n rhan o Harper Collins. A thrwy gyd-ddigwyddiad llwyr, mae fy ngolygydd comisiynu, Lucy Smith, hefyd yn gyn-fyfyriwr o Brifysgol Caerdydd! Mae ‘It Starts with Veg’ yn llyfr llawn ryseitiau, yn ogystal â bod yn llawlyfr ar lysiau. Mae’n cynnwys beth i’w wneud â 40 o lysiau gwahanol ac yn cynnwys 100 o ryseitiau ar sut i’w coginio – dyma lyfr a defnyddiol os hoffech chi fwyta amrywiaeth ehangach o lysiau neu’n chwilio am ychydig o ysbrydoliaeth ynghylch beth i wneud gyda moronen!

Mae ysgrifennu ryseitiau yn ymddangos yn hollol wahanol i gerddoriaeth. Ond sut fyddwn i erioed wedi ymroi i’r dasg anferth o ysgrifennu llyfr heb y blynyddoedd o brofiadau y ces i yn dysgu ac ymarfer offeryn cerdd? Mae 11 mlynedd wedi mynd heibio ers imi newid gyrfa, ac rwy’n hapus o hyd fy mod i wedi gwneud y newid hwnnw – er fy mod i eto i gyrraedd yr un cyflog oedd gen i gynt, sy’n un anfantais. Rwy’ hefyd wedi sylweddoli bod creadigrwydd wrth goginio ac ysgrifennu yn rhoi rhywbeth imi nad oedd y gerddorfa yn gallu ei gynnig – ro’n i’n gweithio mewn diwydiant creadigol, ond doedd fy swydd yn un creadigol o gwbl. Bellach, rwy’n canu ac yn chwarae cerddoriaeth er pleser yn unig, ac yn ceisio gwrthsefyll y demtasiwn i wneud unrhyw waith gweinyddol/trefnu!

Gallwch chi ddod i wybod mwy am waith Ceri a’i llyfr ar ei gwefan cerijoneschef.com a dod o hyd iddi ar Instagram ac X: @cerijoneschef

‘I Gyn-fyfyrwyr, Gan Gyn-fyfyrwyr’ yw ein cyfres newydd o flogiau sy’n rhoi sylw i’r straeon yr hoffech chi sôn amdanyn nhw wrth eich cyfoedion. Efallai eich bod yn rhan o brosiect cymunedol anhygoel neu fod eich sefydliad yn arloesi ac yn datrys problemau? Cyflwynwch eich syniad.