Skip to main content

Cyswllt CaerdyddDonateNewyddion

Dathlu Wythnos y Gwirfoddolwyr 2024

30 Mai 2024

Mae Wythnos Gwirfoddolwyr yn ddathliad blynyddol a gynhelir rhwng dydd Llun 3 Mehefin a dydd Sul 9 Mehefin eleni, gan gydnabod cyfraniad miliynau o bobl ledled y DU trwy wirfoddoli yn eu cymunedau. 

Bob blwyddyn, mae cyn-fyfyrwyr gwych sy’n gwirfoddoli yn cael cryn effaith ar bopeth a wnawn yma ym Mhrifysgol Caerdydd, boed hynny’n gefnogi myfyrwyr drwy gynlluniau mentora, llywio strategaeth y Brifysgol, dychwelyd yma i roi cyflwyniad ar yrfaoedd i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o raddedigion, neu gynnig interniaethau i’n myfyrwyr i gael profiad mewn diwydiant wrth gwblhau eu hastudiaethau. 

Rydyn ni am fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch yn arbennig i bob un o’n cyn-fyfyrwyr sy’n gwirfoddoli ac sy’n cyfrannu at wneud gwahaniaeth yma ym Mhrifysgol Caerdydd. 

Yn 2023, rhoddodd ein cyn-fyfyrwyr sy’n wirfoddolwyr 7,775 o oriau o’u hamser! 

Dyma ragor o wybodaeth am wirfoddoli.

Mae ein cyn-fyfyrwyr sy’n gwirfoddoli wedi rhannu eu profiadau a sôn am y boddhad maen nhw’n ei gael wrth wneud hynny. 

Tyrone Stewart (MSc 2022)

Rhoddodd ein cyn-fyfyriwr, Tyrone, sgwrs i fyfyrwyr presennol am ei brofiadau a’i yrfa hyd yn hyn. Dyma ragor o wybodaeth.

“Yn ddiweddar, fe ddes i nôl i siarad gyda myfyrwyr presennol ynghylch mentora a sut roedd hynny wedi gweithio i fi. Roeddwn i eisiau sôn bod angen iddyn nhw fod yn rhagweithiol wrth ddilyn eu hamcanion. Fe wnes i elwa cymaint o’r rhaglen fentora ac o astudio ym Mhrifysgol Caerdydd, felly roeddwn i eisiau rhoi rhywbeth yn ôl gan helpu darpar fyfyrwyr mewn unrhyw ffordd bosib.”

Sophia Crothall (Diwydiannau Diwylliannol a Chreadigol 2023-)

Aeth Sophia i sgwrs panel gan gyn-fyfyrwyr am yrfaoedd.

“Rwy’n annog cyn-fyfyrwyr eraill yn fawr i feddwl am roi sgwrs am eu gyrfa. I fyfyrwyr presennol Prifysgol Caerdydd fel fi, gall hyn gynnig sicrwydd bod y swyddi sydd o ddiddordeb i ni o fewn ein gafael, ac mae’n amlygu sut y mae’r sgiliau rydyn ni’n eu dysgu yn ystod ein gradd yn berthnasol i fyd gwaith.

Mae hefyd yn gyfle gwych i ni ofyn cwestiynau a ffurfio ein barn ein hunain am ein gyrfaoedd. Hefyd, rwy’n tybio ei fod yn fuddiol i gyn-fyfyrwyr ddod yn ôl i’r man lle dechreuodd y daith!”

Gabriel Yomi Dabiri (LLB 2008)

Gabriel yw Cyd-Gadeirydd Cangen Efrog Newydd y Gymdeithas Cyn-Fyfyrwyr, ac mae’n helpu trefnu digwyddiadau a gweithgareddau’r grŵp. Dysgwch am ein Canghennau Rhyngwladol.

“Daeth nifer o bobl i’r lansiad yn Efrog Newydd ac fe deithiodd rhai o bell i ymuno â ni. Roedd hi’n noson llawn hwyl. Roedd gen i deimlad bod pobl yn mwynhau eu hunain yn fawr ac mewn dim brys i adael! Rwy’n siŵr na fydd hi’n cymryd llawer o amser i’r gymuned ddechrau ffynnu. Mae’n grŵp mor ddiddorol a llawn hwyl, ac rwy’n edrych ymlaen at weld beth fyddwn ni’n ei adeiladu yma.

Does dim reswm pam y dylai’r manteision o astudio ym Mhrifysgol Caerdydd ddod i ben ar ddiwrnod graddio, a hynny pan fod gennym amrywiaeth o gyn-fyfyrwyr o gefndiroedd diwylliannol gwahanol ledled y byd, gan gynnwys yma yn Efrog Newydd.”

Jane Cook (BA 2008)

Roedd Jane yn fentor ar ein cynllun Menywod yn Mentora yn 2023, gan gefnogi 3 o fentorai.

“Roedd yn braf iawn cael fy ngofyn i fod yn fentor, ac wrth feddwl am y peth, pan oeddwn i’n fyfyriwr yn y brifysgol, doeddwn i erioed wedi meddwl y byddwn i’n dod yn hunangyflogedig. Byddwn i wedi hoffi cael clywed gan amrywiaeth ehangach o bobl a’r llwybrau gwahanol a gymeron nhw.

Meddyliais efallai bod angen mentor arna’ i! Roeddwn i’n gallu gweld manteision mentora o’r ddwy ochr ac mae gen i ddiddordeb mewn gwneud hyn eto yn y dyfodol.”

Ni fyddai’n bosib cyflawni’r hyn rydyn ni’n ei wneud heb wirfoddolwyr gwych, felly os hoffech chi roi rhywbeth yn ôl, dewch i gymryd rhan. Beth am ddechrau heddiw drwy gofrestru ar gyfer ein platfform rhwydweithio i gyn-fyfyrwyr, Cyswllt Caerdydd.