Skip to main content

Cyswllt CaerdyddEin Cyn-fyfyrwyrNewyddionStraeon cynfyfyrwyrWomentoring

Fy mhrofiad o raglen Menywod yn Mentora – Joanna Dougherty (BScEcon 2017) 

29 Mai 2024

Graddiodd Joanna o Brifysgol Caerdydd yn 2017 a hi yw Cyfarwyddwr Gweithrediadau Byd-eang Profiad y Cleientiaid yn JLL, cwmni eiddo tirol byd-eang. Ers gadael Caerdydd, mae Joanna wedi treulio ei gyrfa yn gweithio gyda rhaglenni profiad y cleientiaid a rheoli perthnasoedd cwmnïau gwasanaethau proffesiynol. Mae’n gweithio gyda chyfrifon mwyaf JLL i roi’r profiad gorau i gleientiaid a defnyddio profiad y cleientiaid i helpu i lywio penderfyniadau strategol a chefnogi twf y busnes.  

Cymerodd Joanna ran yn ein cynllun Menywod yn Mentora yn 2024 a oedd wedi paru 24 o fentoriaid â 60 o fentoreion. Cafodd ei pharu â Natalie Atkinson (BSc 2018) Rheolwr Cynorthwyol Cynllunio a Datblygu yn YTL Developments (UK) Ltd. ac mae’n rhannu ei phrofiadau o fod yn fentor ar y rhaglen.   

Pam gwnaethoch chi benderfynu ymuno â chynllun Menywod yn Mentora i fod yn fentor?  

Cymerais i ran yng nghynllun Menywod yn Mentora yn 2021 ar sail mentorai ac roedd y profiad yn werthfawr iawn. Felly pan gefais i’r gwahoddiad i ddychwelyd yn fentor, do’n i ddim yn gallu colli’r cyfle i helpu rhywun arall. Rwy bob amser wedi mwynhau cysylltu â phobl newydd ac ro’n i’n gwybod y byddai hyn yn gyfle gwych i wneud hynny. Rwy wedi cwrdd â rhai cyn-fyfyrwyr dawnus a gwych yn y cynllun hwn. 

Pam mae cynllun mentora menywod yn bwysig ichi?  

Mae menywod sy’n cefnogi menywod bob amser wedi bod yn bwysig i mi, a gwn na fyddwn i wedi cyrraedd y pwynt yma yn fy ngyrfa heb arweiniad llawer o fenywod ysbrydoledig. Boed hynny’n gyngor gan gydweithwyr a mentoriaid blaenorol, galwadau ffôn gyda fy mam i gael sgwrs yn ystod diwrnodau anodd, neu fy ffrindiau ar WhatsApp sydd bob amser yn barod i drafod heriau a rhoi cyngor bob gafael pan fydd angen hynny arno i. Weithiau, bydd cael rhywun sydd wedi bod mewn sefyllfaoedd tebyg neu sy’n fodlon gwrando arnat ti’n beth pwerus iawn. 

A allwch chi ddweud wrthon ni am yr hyn sydd ynghlwm wrth y mentora?  

Cawson ni rai deunyddiau a hyfforddiant defnyddiol ar y ffordd orau o gefnogi ein mentoreion yn y rhaglen. Yna cefais i sawl sgwrs rithwir gyda fy mentoreion, pan fuon ni’n trafod pynciau sy’n effeithio ar gynifer o fenywod megis delio â syndrom y twyllwr, cynllunio eich gyrfa a bod yn nerfus cyn cyflwyno. Ni chymerodd ormod o fy amser, ac roedden ni’n gallu ymdrin â sut gymaint yn ein cyfarfodydd. 

Oes gennych chi awgrymiadau defnyddiol i gyn-fyfyrwyr a hoffai ymuno â chynllun Menywod yn Mentora yn 2025? 

Ewch amdani! Bellach, ar ôl bod ar ddwy ochr y rhaglen, galla i ddweud yn hyderus eich bod yn cael cymaint ohoni, y mentor a’r mentorai fel ei gilydd. 

Sut mae’r mentora wedi cael effaith gadarnhaol ar eich gyrfa? 

Pan gymerais i ran yn y rhaglen hon yn 2021 ro’n i ar groesffordd yn fy ngyrfa. Roedd cael mentor i siarad â hi bryd hynny yn hynod o ddefnyddiol ac roedd wedi fy helpu o ran magu hyder a sicrhau dyrchafiad. Yn dilyn fy mhrofiad o fod yn fentor y tro hwn, rwy’n sylweddoli nad dim ond y mentorai sy’n elwa ar y mentora. Cefais i gymaint o fudd yn sgil cysylltu â fy mentoreion – roedd siarad â nhw yn fy ysbrydoli a gwn fy mod i wedi elwa’n fawr ar ein sgyrsiau hefyd. 

Soniodd Natalie Atkinson (BSc 2018), un o fentoreion Joanna, hefyd am ei phrofiad o gynllun Menywod yn Mentora.

Os ydych chi’n gyn-fyfyrwraig o Gaerdydd sy’n awyddus i ddod o hyd i rywun arall sydd wedi graddio, neu fod yn fentor i rywun arall sydd wedi graddio, mae ein platfform rhwydweithio i gyn-fyfyrwyr Cyswllt Caerdydd yn eich helpu i ddod o hyd i’r person cywir. Mae cofrestru’n beth cyflym a rhwydd i’w wneud, a gallwch chi hidlo yn ôl y diwydiant a’r lleoliad i chwilio am y rheini sydd naill ai’n cynnig helpu neu’n gofyn am gymorth.  

Ceir hefyd lawer o ffyrdd eraill y gallwch chi wirfoddoli eich amser a’ch arbenigedd i helpu i ysbrydoli a chefnogi’r genhedlaeth nesaf o fyfyrwyr a chyn-fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd.