Datblygu triniaethau cynnar hanfodol ar gyfer canser y pancreas
4 Mawrth 2024Ar hyn o bryd, dim ond 5% yw’r gyfradd oroesi (o ddeng mlynedd) ar gyfer y rheiny sy’n dioddef o ganser y pancreas. Gan mai anodd yw canfod y clefyd yn ei gamau cynnar, mae ymyrraeth yn aml yn dod yn rhy hwyr i nifer fawr o gleifion. Mae Josh D’Ambrogio (Y Biowyddorau 2021-) wedi bod wrthi’n astudio canser y pancreas yn ei gamau cynnar, er mwyn dod o hyd i ddulliau pellach a all ganfod y clefyd yn fwy cynnar, a strategaethau ar gyfer ei drin yn fwy effeithiol.
Ffocws fy ymchwil yw mynd i’r afael â sut mae gordewdra (ymhlith oedolion) yn gallu effeithio ar allu’r pancreas i amddiffyn ei hun rhag celloedd mwtant a all ddatblygu i fod yn rhai canseraidd. Mewn ymchwil flaenorol a wnaed yn labordy Catherine Hogan, sef lleoliad fy ngwaith ar hyn o bryd, darganfuwyd mai, yn achosion pancreasau iach, ceir y broses hynod ddiddorol hon lle maent yn gallu gwaredu celloedd mwtant o’i haenau epithelaidd (amddiffynnol). Ond, yn ychwanegol at hynny, canfuwyd hefyd nad yw’r broses hon bob amser yn llwyddiannus, gan arwain yn y pen draw at ganser y pancreas yn datblygu. Felly, os ydy’r pancreas yn gallu amddiffyn ei hun pan mae’n iach, beth yw’r hyn sy’n atal y broses hon ac yn achosi tiwmor i ddatblygu?
Gwyddom mai gordewdra yw un o’r ffactorau risg mwyaf ar gyfer canser y pancreas, ac felly rydym wedi bod wrthi’n ymchwilio i sut mae hyn yn effeithio ar y broses hon o atal tiwmorau. Bu inni hefyd gwestiynu sut mae gordewdra yn effeithio ar allu’r pancreas i aros yn iach, a sut mae hyn yn dylanwadu ar y celloedd mwtant hynny sy’n niweidio iechyd cyffredinol y meinweoedd cyfagos.
Rydyn ni ar fin dod â’r prosiect hwn i ben, a’r hyn sy’n dod i’r amlwg inni yw nid yn unig bod gordewdra a ffactorau eraill yn gysylltiedig â ‘tharfu’ ar y broses atal tiwmorau hon dros dro, ond efallai na fydd y ‘tarfu’ yma yn un parhaol. Y cwestiwn nesaf sydd gennym yw: a fedrwn ni ail-ysgogi’r broses hon – ac, os felly, sut? Byddai hyn yn darparu dull o amddiffyn y pancreas rhag celloedd sy’n achosi canser yn gynnar, gan ddefnyddio mecanweithiau amddiffyn y corff ei hun. Mae angen mwy o ymchwil arnom i ddeall yn llawn sut mae’r corff yn amddiffyn ei hun yn erbyn canser. Gallai hyn, yn ei dro, arwain at ddatblygu triniaethau newydd, a allai ail-ysgogi’r mecanweithiau amddiffyn yma. Ar ben hynny, drwy ddeall sut mae ffactorau risg fel gordewdra yn achosi canser, efallai y bydd modd i’n hymchwil gael dylanwad go iawn ar bolisïau a strategaethau atal canser yn y dyfodol.
Ni all ein gwaith ddigwydd heb y bobl sy’n ein cefnogi, ac rwy’n hynod ddiolchgar i’r rhoddwyr a’r codwyr arian sydd wedi buddsoddi yn y prosiect hwn. Bu’r cyllid a lwyddais i’w gael i gefnogi fy ymchwil wneud gwahaniaeth mawr – mae wedi caniatáu i’r tîm ofyn y cwestiynau o bwys hynny sy’n gallu cael effaith gadarnhaol iawn ar gleifion canser y pancreas yn y dyfodol.
I ddysgu mwy am y cysylltiad rhwng canser y pancreas cynnar a dietau braster uchel, gwyliwch weminar Arddangosiad Ymchwil Josh a Dr Catherine Hogan.
Darganfyddwch ragor am ymchwil canser ym Mhrifysgol Caerdydd.
- Hydref 2024
- Medi 2024
- Awst 2024
- Gorffennaf 2024
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Mawrth 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018