Skip to main content

Cyswllt CaerdyddI Gynfyfyrwyr, Gan GynfyfyrwyrNewyddionStraeon cynfyfyrwyr

Fy mhrofiad fel person newydd dibrofiad yng Nghaerdydd – I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr

22 Ionawr 2024
Nori gyda'i mam a'i thad. Diwrnod Graddio, Caerdydd, 1998. 

(Nori with her mom and dad. Graduation Day, Cardiff, 1998.)
Nori gyda'i mam a'i thad. Diwrnod Graddio, Caerdydd, 1998. (Nori with her mom and dad. Graduation Day, Cardiff, 1998.)

Mae Nori Shamsuddin (LLB 1998) yn fam, yn fardd hunan-gyhoeddedig, yn ramantus anobeithiol, ac yn awdur llawrydd. Yma, mae’n myfyrio ar ei phrofiad o deithio i Gymru am y tro cyntaf o’i mamwlad ym Malaysia, a’i hatgofion o ymgartrefu fel myfyriwr rhyngwladol.

Hydref 1995 oedd hi. Doeddwn i ddim yn newydd i’r DU, ar ôl ymweld o’r blaen gyda fy rhieni. Ond roedd y tro hwn yn wahanol – roeddwn ar fin cychwyn ar fy nhaith fel myfyriwr y gyfraith ym Mhrifysgol Caerdydd.

Nid oedd yn hawdd argyhoeddi fy rhieni i adael i mi astudio dramor. Doeddwn i erioed wedi teithio dramor ar fy mhen fy hun o’r blaen, ac roedd y teimlad o fod ar fy mhen fy hun mewn gwlad dramor yn cynhyrfu corwynt o emosiynau ynof. Roedd hynny, a’r ffaith mai anaml y clywais straeon am Gymru, yn gwneud y wlad yn ddirgel o hudolus, gan fy ngadael â synnwyr o ddisgwyliad a heb wybod beth i’w ddisgwyl o gwbl.

Felly, dyna lle roeddwn ar fy nhaith 13 awr o Kuala Lumpur i Lundain. Doeddwn i ddim yn rhan o unrhyw grŵp o ysgolheigion na sefydliad ffurfiol, a oedd yn golygu bod yn rhaid i mi ffeindio fy ffordd o gwmpas ar fy mhen fy hun. Braidd yn frawychus ond, wrth gwrs, fe wnes i ei chwarae’n cŵl ac aros yn hunanfeddiannol y rhan fwyaf o’r amser.

Yr unig berson roeddwn i’n ei adnabod bryd hynny oedd merch un o’n cymdogion, a oedd yn dilyn ei hastudiaethau ôl-raddedig ym Mhrifysgol Caerdydd. Fe awgrymodd imi brynu tocyn bws o Faes Awyr Heathrow am ychydig dros daith tair awr i Gaerdydd, lle byddai’n cwrdd â mi yng Ngorsaf Fysiau Caerdydd Canolog.

Hyd at y pwynt hwn roeddwn yn cael amser anhygoel ar fy nihangfa unigol. Ond yno y sefais, yn socian yng nghanol prysurdeb Maes Awyr Heathrow, yn darllen arwyddion ar ôl arwyddion, yn gofyn am gyfarwyddiadau, yn llusgo fy magiau o gwmpas. O’r diwedd es i ar fws oedd yn fy chwipio i ffwrdd ar ran nesaf fy nhaith. Teimlais don o rymuster ac annibyniaeth! Rhydd o’r diwedd!

Ond wedyn, rywbryd yn ystod y daith bws, yn union fel roeddwn i’n dod yn gyfforddus gyda fy amgylchoedd newydd, edrychais allan o’r ffenest ac yno yr oedd. Arwydd wrth ymyl y ffordd yn dweud: Croeso i Gymru! Welcome to Wales!

Esgusodwch fi, beth oedd hynny eto?

Maddeuwch fy niniweidrwydd ond ni sylweddolais i erioed fod gan Gymru y tro ieithyddol hynod ddiddorol hwn â’i hiaith Gymraeg! Mae hynny’n wir, ffrindiau. O hynny ymlaen, roeddwn yn gegrwth. Roedd yn ymddangos bod gan bob arwydd a ddarllenais ar hyd y ffordd fwy o eiriau nad oedd yn golygu dim i mi – diolch byth, daeth y rhan fwyaf ohonynt gyda thestun Saesneg. Er hynny, roedd fy mhen yn chwyrlio. Roedd fy nghalon yn rasio. Cefais fy hun hyd yn oed yn cwestiynu fy newisiadau bywyd!

Ond diflannodd y teimlad cyn gynted ag y gwelodd fy llygaid y tirweddau syfrdanol o’m cwmpas. Milltiroedd ar filltiroedd o fryniau tonnog sy’n ffurfio cefn gwlad hardd Cymru. Yn syml, roedd yn swreal. Gwnaeth y bws ei ffordd yn ddidrafferth i Cardiff (‘Caerdydd’ yn Gymraeg), prifddinas Cymru a chartref i Brifysgol Caerdydd, lle treuliais y tair blynedd nesaf.

Fe’i gwnes i hi mewn un darn (ffiw) a thros y dyddiau nesaf cefais fy hun wedi ymgolli mewn llu o gofrestriadau dosbarth ac addasu i fywyd fel myfyriwr israddedig. Yn ystod fy wythnosau cyntaf, dechreuais breswylio yn y llety myfyrwyr ar Heol Colum, ac roeddwn i wrth fy modd gyda hynny – yn enwedig y cawodydd poeth ar y boreau (a’r nosweithiau) oer hynny yn yr ystafell ymolchi ensuite!

Ar ôl penderfynu symud, mi drefnais fy llwybr i gartref rhent yn 4 Wyeverne Road, Cathays, a ddewiswyd oherwydd ei agosrwydd at yr Ysgol Gyfraith. Cwpl Cymraeg byrlymus oedd yn berchen arno, a fyddai’n galw heibio nawr ac yn y man, yn dod â nwyddau ac eitemau annisgwyl fel llenni les (a ddaeth yn y diwedd i fy ystafell i, wrth gwrs). Daethant hyd yn oed ag anrhegion croeso pan ddaeth fy nheulu draw un haf. Roedd cael cartref ar rent yn cyflwyno set wahanol o heriau. O jyglo biliau, i gael bwydydd, i gael ffrindiau draw yn annisgwyl am brydau bwyd, i gynnal achlysuron Nadoligaidd (ar gyllideb myfyriwr a galw adref i gael awgrymiadau coginio Mam) – roedd Caerdydd yn bopeth yr oeddwn ei angen.

Wrth gwrs, roedd yna eiliadau eraill yr oeddwn yn eu coleddu rhwng dosbarthiadau, aseiniadau ac arholiadau.

Wyddoch chi, pethau syml fel cael cennin Pedr ffres i addurno bwrdd fy nghegin bob bore. Troi trwy gatalogau Argos a chylchu fy eitemau rhestr ddymuniadau. Aros am yr arwerthiant nesaf i fachu bargeinion o Topshop a Next. Neu dreulio oriau yn eiliau Tesco, ASDA, a Sainsbury’s yn edrych trwy fathau o flawd, siwgr, ac eitemau pobi deniadol eraill!

Ac efallai ar rai dyddiau, rhuthro draw i HMV ar Heol y Frenhines i gael y recordiadau CD sengl diweddaraf gwerth £1. Ymlwybro trwy arcedau siopa’r ddinas, wrth fwynhau’r cyfuniad cain o ddyluniadau Fictoraidd ac Edwardaidd. Chwilio’n frwd am lyfrau ail-law neu allan o brint mewn siopau llyfrau ail-law (darganfyddais rai trysorau am gyn lleied â 50c)! Neu gael papur newydd gan werthwyr brwdfrydig ar ochr y ffordd yn galw ‘Echo!’ Echo! Mynnwch eich Echo!’ wrth i chi gerdded heibio. Mae’r rhestr yn mynd ymlaen ac ymlaen.

Erthygl gyhoeddedig Nori ar Gaerdydd yn South Wales Echo, 23 Ebrill 1998.

 

 

 

 

 

 

 

 

Yn fyr, rhaid i mi ddweud nad oedd fy amser ym Mhrifysgol Caerdydd yn ymwneud â chael fy Ngradd Baglor yn unig, roedd yn debycach i gwrs carlam mewn bywyd. Dysgais sgiliau datrys problemau, sgiliau amldasgio a meistroli’r grefft o hunanddisgyblaeth. Gwnes ffrindiau newydd – nid yn unig yn y Brifysgol, ond gyda’r bobl leol fendigedig – tra’n gwerthfawrogi diwylliannau a thraddodiadau gwahanol. Ynghanol yr anhrefn academaidd, darganfyddais dwf personol a datblygais hoffter parhaol o Gaerdydd. Hynny yw, dinas sy’n brolio castell wrth ei chalon? A allai fod yn fwy hudolus?

“Diolch Caerdydd, byddaf bob amser yn eich caru.”

Rhwng ysgrifennu erthyglau a sgriptiau ar gyfer hysbysebion, rhaglenni teledu, ffilmiau byr, a golygu-copi tunnell o ddogfennau, mae Nori yn parhau i dreulio ei dyddiau a’i nosweithiau yn breuddwydio am gyhoeddi ei llawysgrif (ar hyn o bryd wedi’i gorchuddio â llwch a gwe pry cop). Gallwch gysylltu â Nori drwy ein platfform rhwydweithio ar gyfer cynfyfyrwyr Cysylltiad Caerdydd.

Rydym wedi cyflwyno ‘I Gyn-fyfyrwyr, Gan Gyn-fyfyrwyr’ gan nad oes neb yn adnabod ein cymuned o gyn-fyfyrwyr gystal â…ia rych chi’n iawn, gystal â chi! Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych i gael eich syniadau ar gyfer erthyglau neu ddigwyddiadau ar-lein sydd o ddiddordeb i chi, neu rai y gallwch roi blas i ni arnynt, neu efallai mai CHI yw’r stori! Edrychwch ar ein rhestr lawn o erthyglau, ac edrychwch yn ôl ar ein rhestr o ddigwyddiadau byw.