Menywod yn Arwain – Bossing It
28 Ebrill 2023Buom yn siarad yn ddiweddar â rhai o’n harweinwyr benywaidd llwyddiannus o gymuned cynfyfyrwyr Prifysgol Caerdydd. Gwnaethant rannu ychydig o gyngor y bydden nhw’n ei roi i’w hunain iau yn rhifyn diweddaraf ein cyfres Bossing It.
Sophie Howe (LLB 1999, Hon 2022)
Wedi’i disgrifio fel ‘Gweinidog Cyntaf y Byd ar gyfer y Sawl sydd heb eu Geni Eto’ Sophie Howe oedd Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol cyntaf Cymru, yr unig rôl o’i bath yn y byd. Fe wnaeth hi ddwyn y Llywodraeth i gyfrif ar sut mae eu penderfyniadau’n effeithio ar genedlaethau’r dyfodol ac mae wedi dylanwadu ar wledydd eraill i wneud yr un peth gan gynnwys y Cenhedloedd Unedig. A hithau yn safle rhif 5 ar Restr Merched Pwerus (Women’s Power List) y BBC, nid oes ar Sophie ofn amlygu’r gwiriondeb sydd ynghlwm â gwneud penderfyniadau tymor byr ac mae’n adnabyddus am fod yn eiriolwr ysbrydoledig, sy’n siarad ei barn yn glir er budd y rhai sydd heb eu geni eto.
Manteisia ar bob cyfle
Teimlwch yr ofn a gwnewch bethau, beth bynnag. Gall menywod ddioddef yn wael gyda syndrom y twyllwr (imposter syndrome), ond mae angen i ni sylweddoli bod gennym yn aml bersbectif, a set o sgiliau a thalentau unigryw, sydd eu hangen yn fawr. Felly, rhowch eich hun yn yr ystafell a bachwch ar gyfleoedd, hyd yn oed os ydyn nhw’n eich dychryn. Peidiwch â bod ofn methu – mae rhai o’r pethau gorau yn fy mywyd wedi dod allan o’r pethau rydw i wedi ‘methu â’u gwneud’. Pan fydd un drws yn cau mae un arall yn agor – ond mae’n rhaid i chi fod yn yr ystafell yn y lle cyntaf.
Nneka Akudolu KC (LLB 2001, PgDip 2002)
Tyngwyd Nneka Akudolu (LLB 2001, PgDip 2002) i mewn fel Cwnsler y Brenin (KC) yn 2022, gan ymuno â grŵp dethol o ymarferwyr y gyfraith a benodwyd gan y frenhines. Fel KC sy’n arbenigo mewn cyfraith droseddol, mae Nneka yn gweithio ar yr achosion mwyaf difrifol yr ymdrinnir â nhw yn llysoedd y Goron ac Apêl, ac mae’n un o ddim ond saith KC benywaidd Du yn y DU.
Gwrthsefyll gwrthodiad
Dylai unrhyw un sy’n dilyn gyrfa yn y Bar baratoi eu hunain i gael eu gwrthod; mae gwydnwch yn allweddol. Pan gyflwynais sawl cais am dymor prawf, ro’n i wedi fy synnu o glywed yr holl ‘diolch ond dim diolch’, neu ddiffyg ymateb yn llwyr. Ni wnaeth hynny fy rhwystro. Fel myfyrwyr, cyn dechrau ar yr yrfa hon roedd llawer yn dweud mai canran isel o unigolion fyddai’n cael lle ar y cwrs Bar, ac y byddai nifer hyd yn oed yn llai yn cael lle ar dymor prawf. O ran cyngor i mi fy hun pan ro’n i’n iau, fe fyddwn i’n dweud bod gen i siawns 100% o beidio â llwyddo pe na fyddwn i’n rhoi cynnig arni.
Rupal Patel (BScEcon 1999)
Mae Rupal yn Uwch Arweinydd Rheoli Risg a Llywodraethu, gyda dros 20 mlynedd o brofiad gyda banciau buddsoddi Haen 1 byd-eang mewn risg a chydymffurfiaeth gweithredu. Mae wedi dylanwadu ar ddatblygiad a gweithrediad strategaethau newid rheoliadol sy’n cydymffurfio, o safbwynt risg ym maes Gwasanaethau Ariannol. Yn 2020, sefydlodd Women in Risk & Control, menter gydweithredol diwydiant sydd â’r nod o gael effaith bositif ar amrywiaeth rhyw ym maes Rheoli Risg Anariannol ar lefelau arweinyddiaeth uwch. Yn 2021, roedd Rupal yn rownd derfynol y categori uwch arweinwyr yn Powerlist Women in Fintech.
Meithrin perthnasoedd gwaith cryf
Efallai eich bod chi’n gwybod beth hoffech chi ei wneud yn y dyfodol, ond efallai ddim. Ble bynnag yr ydych ar y sbectrwm, po fwyaf chwilfrydig ydych chi am rolau’r rhai sy’n gweithio ochr yn ochr â chi, y mwyaf a’r cryfaf fydd eich rhwydwaith. Dyma beth fydd yn eich gosod ar wahân ac yn creu cyfleoedd newydd. Canolbwyntiwch ar adeiladu a meithrin perthnasoedd pryd bynnag y gallwch. Mae arweinwyr yn deall y darlun ehangach. Parhewch i ddysgu ac amgylchynwch eich hun gyda phobl y gallwch ddysgu oddi wrthynt, ac sy’n barod i’ch helpu i wneud cysylltiadau, a thalu hynny’n ôl i eraill yn gyfnewid.
Sitpah Selvaratnam (LLB 1988)
Mae Sitpah Selvaratnam yn Eiriolwr a Chyfreithiwr ym Malaysia, yn Fargyfreithiwr yn y Gyfraith yn Lincoln’s Inn ac yn Gyflafareddwr Rhyngwladol. Roedd hi’n un o’r partneriaid a sefydlodd gwmni cyfreithiol Tommy Thomas ac mae’n Aelod Llys o Lys Cyflafareddu Rhyngwladol yr ICC. Mae Ms Selvaratnam wedi bod yn ymarfer y gyfraith ym Malaysia ers 1991 gan ganolbwyntio ar anghydfodau’n ymwneud ag ansolfedd corfforaethol, anghydfodau masnachol, ac anghydfodau’n ymwneud ag yswiriant a llongau. Mae hi hefyd wedi bod yn dyst sy’n arbenigwr, a hynny ar gyfreithiau morwrol, masnachol a bancio Malaysia mewn achosion tramor a chyflafareddu.
Rwyt ti’n unigryw, a bydd hyn yn gwneud i ti ddisgleirio
Rhaid i chi wybod yn eich calon, os ydych chi ar y blaned hon, mai eich natur unigryw chi yw’r hyn sydd ei angen ar y blaned. Does dim rhaid i chi fod fel y person nesaf. Dydyn ni ddim i fod yn gopi o’n gilydd. Dydyn ni ddim i fod yn dda ar bopeth. Mae’r hyn sy’n dod yn hawdd i chi neu’n rhoi llawenydd i chi yn arwyddion i’ch arwain ar eich llwybr arbennig chi. Felly, ymlaciwch. Dathlwch pwy ydych chi, a bydd eich bywyd a phwrpas eich bywyd yn datblygu’n mewn ffordd hardd o’ch blaen.
Lara Hussein (BScEcon 1986)
Lara yw Prif Swyddog Gweithredol a Sylfaenydd M&C Saatchi Malaysia. Dechreuodd ei gyrfa ym maes hysbysebu a chyfathrebu ar ôl iddi dychwelyd i Malaysia yn dilyn ennill ei gradd, lle aeth ymlaen i sefydlu ei chwmni ei hun cyn cael cais i sefydlu swyddfa M&C Saatchi ym Malaysia. O dan ei harweinyddiaeth, mae’r cwmni wedi dod yn asiantaeth sydd wedi ennill sawl gwobr. Mae hi wedi cael ei disgrifio’n un o arweinwyr benywaidd mwyaf llwyddiannus Malaysia.
Creda yno ti dy hun
Credwch ynoch chi’ch hun, a’r hyn y gallwch chi ei gyflawni, bob amser. Waeth pa mor anodd yw’r daith ar yr olwg gyntaf, gall gwaith caled a phenderfyniad fynd â chi ymhell. Cofiwch beidio byth â rhoi’r gorau i’ch breuddwydion, hyd yn oed pan fyddwch chi’n wynebu rhwystrau neu heriau. Nid yw’r daith at lwyddiant yn llinell syth bob amser, bydd pethau’n gwella ac yna’n anwastad, ond mae’n bwysig parhau i edrych ymlaen a gall cael nod neu bwrpas clir roi cyfeiriad ac ystyr i’ch taith. Peidiwch â gofyn beth sydd ei angen ar y Byd, ond gofynnwch i chi’ch hun beth sy’n gwneud ichi deimlo’n fyw, ac ewch allan i wneud hynny! Mae dod o hyd i fentor a all eich arwain a’ch cefnogi trwy gydol hyn mor bwysig. Chwiliwch am rywun rydych chi’n eu parchu, a all gynnig cyngor a’ch helpu i lywio’ch llwybr at lwyddiant.
Eleanor Wheeler (BSc 2009, MSc 2010)
Mae Eleanor Wheeler yn Gyfarwyddwr Cyswllt Ymchwil a Pholisïau yn The Health Policy Partnership, sef sefydliad ymgynghori sydd â ffocws craidd ar ysgogi newid er mwyn gwella canlyniadau iechyd. Cyn ymuno â HPP, treuliodd Eleanor saith mlynedd yn Cancer Research UK, gan sefydlu rhaglen o brosiectau sy’n cynnwys y cyhoedd a chleifion mewn ymchwil, a chan greu strategaethau yn rhychwantu ymgysylltu ag ymchwilwyr a dylanwadu gwleidyddol.
Mae’n bwysig dy fod yn deall ac arddangos dy sgiliau trosglwyddadwy
Wrth i mi symud drwy wahanol sefydliadau a rolau, fe sylweddolais fod gallu nodi ac arddangos y sgiliau trosglwyddadwy penodol y gallwn eu cyflwyno i feysydd gwaith newydd, yn hanfodol o ran fy natblygiad gyrfa, hyn yn hytrach na chanolbwyntio ar ddatblygiad llinell syth mewn ‘rôl’ penodol; peidiwch â diystyru gwneud cais am swydd gan nad oes gennych yr union brofiad y gofynnir amdano yn yr hysbyseb. Yn aml mae galw mawr am sgiliau megis rheoli prosiectau, meddwl yn strategol, hwyluso a chyflwyno mewn amrywiaeth eang o wahanol rolau a gall arddangos y rhain agor y gronfa cyfleoedd i chi. Mae datblygu gyrfa yn y modd hwn, er nad yw’n edrych fel llinell syth ar bapur, wedi fy ngalluogi i feithrin gyrfa sy’n adeiladu ar fy nghryfderau ac wedi fy ngalluogi i wneud camau diddorol i feysydd gwaith newydd.
Rachel Ashworth (PhD 2000)
Rachel Ashworth yw Deon Ysgol Busnes Caerdydd ers mis Medi 2018. Ei blaenoriaethau yn y rôl hon yw ymgorffori strategaeth Gwerth Cyhoeddus yr Ysgol; gwella profiad myfyrwyr a staff; creu lle ar gyfer ymchwil ac arloesedd a sicrhau bod pobl yn teimlo wedi’u grymuso i weithredu; ac, a hithau’n Ddeon benywaidd cyntaf yr Ysgol, hyrwyddo cydraddoldeb a chynhwysiant yn weithredol felly. Mae Rachel hefyd yn Athro ym maes Rheoli Gwasanaethau Cyhoeddus a gellir gweld ei hymchwil mewn perthynas â phedair thema allweddol: newid sefydliadol yn y sector cyhoeddus; craffu ac atebolrwydd ym maes gwasanaethau cyhoeddus, cydraddoldeb ac amrywiaeth ym maes gwasanaethau cyhoeddus a pherfformiad gwasanaethau cyhoeddus.
Ymddiriedwch yn eich greddf a tharo cydbwysedd.
Byddwn i’n dweud tri pheth wrth fy hunan iau. Yn gyntaf, ymddiriedwch yn eich greddf gan y byddant yn eich gwasanaethu’n dda dros amser. Yn ail, jyst derbyn syndrom ymhonnwr a dysgu byw gyda fe wrth iddo aros gyda chi am byth ac mae pawb yn dioddef ohono – hyd yn oed os nad ydyn nhw’n cyfaddef hynny! Yn drydydd, byddwn i’n dweud rhoi gwaith mewn persbectif, poeni llai a neilltuo mwy o’ch amser i deulu a ffrindiau. Mae’n arbennig o anodd sicrhau cydbwysedd rhwng gwaith a chartref yn y byd academaidd ond mae cael amser allan yn bwysicach nag unrhyw beth arall.
Mae cymuned Prifysgol Caerdydd yn griw o bobl sy’n barod iawn eu cymwynas ac yma i’ch helpu yn eich gyrfa ddewisol. Gallwch bori drwy eu cyngor a’u hawgrymiadau ar ystod eang o bynciau busnes yn ein cyfres ‘Bossing It’.
- Hydref 2024
- Medi 2024
- Awst 2024
- Gorffennaf 2024
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Mawrth 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018