Ryseitiau Er Mwyn Llwyddo: Cawl ffacbys coch a moron wedi’u rhostio
6 Ebrill 2022Cyfres o ryseitiau gan arbenigwyr yn y diwydiant bwyd a diod yw Recipes for Success. Wedi’i greu yn wreiddiol fel llyfr ryseitiau ar gyfer myfyrwyr newydd, mae cogyddion cyn-fyfyrwyr, blogwyr bwyd a pherchnogion bwytai yn hael yn rhannu eu ryseitiau blasus, hawdd eu gwneud. Darganfyddwch fwy am ein cyn-fyfyrwyr disglair yn y gegin wrth wneud rhywbeth blasus!
Dyma’r cogydd
Mae Claire Thomson (BA 2001) yn awdur bwyd a chogydd a astudiodd Newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Caerdydd ac roedd yn lasfyfyriwr yn ôl yn 1998. Mae hi wedi ysgrifennu chwe llyfr coginio ac wedi coginio’n broffesiynol ar draws y byd. Roedd hi’n awyddus i rannu un o’i hoff ryseitiau (a mwyaf darbodus!) gyda chymuned Caerdydd.
“Dwi’n gwneud cawl yn aml drwy’r misoedd oerach. Mae’r cynhwysion yn dibynnu ar ba lysiau bynnag sydd wrth law ac (yn amlach na pheidio) ychydig ffacbys neu ffa rhad, a f ydd yn cyrraedd y sosban hefyd!”
Dewch i ni goginio…
Rhestr siopa
500g o foron, wedi’u plicio a’u torri’n fras
1 winwnsyn/nionyn, wedi’i sleisio’n fân
2 llwy fwrdd o olew olewydd, a rhagor i weini
Pinsiad mawr o halen, yn ogystal â rhagor fel sesnin
1 llwy de o gwmin wedi’i falu
1 llwy de o goriander wedi’i falu
250g o ffacbys coch (split red lentils)
Pupur du newydd ei falu
4 llwy fwrdd o za’atar, dewisol
Bydd arnoch angen
Sosban fawr
Tun rhostio
Ffon blendio neu brosesydd bwyd
Dull
Cam 1
Rhoi’r moron a’r winwnsyn/nionyn mewn tun rhostio. Ychwanegu’r olew olewydd a phinsiad mawr o halen, a rhoi sesnin o bupur du. Ychwanegu’r sbeisys mâl, gan gymysgu’n dda i orchuddio popeth.
Cam 2
Rhoi ffoil yn dynn dros y tun a rhostio’r moron a’r winwnsyn ar 190°C am tua 35 munud, nes eu bod yn feddal.
Cam 3
Rinsio’r ffacbys coch yn dda mewn dŵr oer a’u rhoi mewn sosban gydag 1 litr o ddŵr. Rhoi’r cyfan dros wres cymedrol a’i godi i’r berw. Sgimio unrhyw ewyn sy’n codi i’r wyneb, yna lleihau’r gwres a’i fudferwi am 15–20 munud, nes ei fod wedi’i goginio ac yn feddal iawn. Blendio’r ffacbys nes eu bod yn llyfn.
Cam 4
Ychwanegu’r moron a’r winwnsyn wedi’u rhostio a’u prosesu nes eu bod at eich dant. Gwirio’r sesno, gan ychwanegu rhagor o halen a phupur os oes angen.
Dewisol
Cynnwys pinsiad o za’atar, sbeisys amrywiol, neu un sbeis yn unig, fel fflawiau tsili, i bawb eu rhoi dros y cawl eu hunain.
Addaswyd o Home Cookery Year gan Claire Thomson (Quadrille)
Yn ôl ein profwr Jackie Yip (BA 2018) sy’n gynfyfyriwr…
“Roedd y rysáit hon yn hawdd iawn! Ro’n i wrth fy modd gyda sut roedd y pryd yn barod mewn llai na 30 munud gan fod modd coginio pethau ar yr un pryd. Ond, cofiwch roi digon o sesnin ar y diwedd!”
Wedi mwynhau’r rysáit hon? Mae gennym lawer mwy o le y daeth honno yn Recipes for Success. Ewch amdani!
- Hydref 2024
- Medi 2024
- Awst 2024
- Gorffennaf 2024
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Mawrth 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018