Skip to main content

Cyswllt CaerdyddI Gynfyfyrwyr, Gan GynfyfyrwyrNewyddionStraeon cynfyfyrwyr

Grymuso cymunedau gwledig drwy addysg liniarol – I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr

18 Awst 2021

Dr Abhijit Dam (MSc 2014) yw’r Anrhydeddus Gyfarwyddwr Meddygol yn Kosish, yr hosbis wledig gyntaf yn India ers 2005. Arloesodd ddatblygiadau mewn gofal lliniarol a chreu cwrs i fenywod ifanc mewn cymunedau gwledig, gan eu haddysgu i ddarparu gofal lliniarol i’r henoed a’r bobl sydd â salwch terfynol.  

Rwyf wedi bod yn arloesi achos gofal lliniarol yng nghefn gwlad Jharkhand a rhannau cyfagos o West Bengal ers 2005. Gwnaeth gweithio mewn lleoliadau a oedd heb lawer o adnoddau fy ysgogi i ystyried atebion posibl er mwyn mynd i’r afael â’r heriau a achosir gan liniaru gwledig mewn gwlad fel ein gwlad ni, lle mae gofal lliniarol yn dal i fod yn arbenigedd sy’n datblygu ac nid oes ganddo bolisi cenedlaethol.

Cynigiodd Ysgoloriaeth y Gymanwlad a enillais er mwyn cwblhau fy MSc mewn Meddygaeth Liniarol o Brifysgol Caerdydd gyfle anhygoel i mi, ac roeddwn i’n bwriadu profi fy hyfforddiant!

Drwy ddefnyddio’r sgiliau yr oeddwn wedi’u datblygu a bod yn benderfynol iawn cafodd Kosish, yr hosbis, ei geni. Rwy’n dweud ei bod wedi cael ei eni allan o ‘sankalp’, sy’n fath o addewid, pan rydych yn benderfynol o greu rhywbeth. Cafodd ei geni allan o anghenraid i sicrhau y dylai marwolaeth fod yn urddasol ac yn ddi-boen, nid yn unig yn gorfforol ond yn seicolegol, yn gymdeithasol ac yn ysbrydol. Mae Kosish ei hun yn hosbis unigryw, gan ei bod wedi’i lleoli mewn lleoliad gwledig o ran natur, gyda nant yn llifo heibio’r ganolfan.

Yn nyddiau cynnar yr hosbis, ymgymerais â thaith hir ar draws wyth gwladwriaeth Indiaidd, gan yrru mewn car a chysgu mewn ‘dhabas’ er mwyn deall anghenion y dyn neu’r fenyw ‘gyffredin’ yn well. Drwy hyn y sylweddolais fod tlodi’n broblem bwysicach yr oedd angen rhoi sylw iddo, a oedd yn bwrw cysgod dros ofal lliniarol. Roedd marwolaeth yma, yn golygu un geg yn llai i fwydo.

Felly, gwnaethom ddechrau fynd i’r afael â thlodi hefyd. Gwnaethom lunio rhaglen unigryw lle’r oeddem yn annog plant y pentrefi cyfagos i ddod i’n canolfan, lle cawsant addysg werthfawr ac, yn bwysicaf oll, pryd iach. Dechreuodd gyda phump o blant, ond cynyddodd hyn yn gyflym i tua 70 o blant.

Roeddem yn ei chael hi’n anodd eu bwydo gan nad oedd gennym fynediad at gyllid. Ond yna gwenodd dduw arnom a dechreuodd angylion ein helpu – gan fod pob rhoddwr yn angel!

Roeddwn i’n falch o lwyddiant y rhaglen hon, ond roeddwn i dal eisiau gwella gofal lliniarol yn y cymunedau hyn. Roedd gen i weledigaeth o ddefnyddio potensial menywod y pentref, a oedd yn gyfarwydd i’r gymuned leol ac a fyddai felly’n cael eu derbyn ganddynt, a chreu rhaglen arall a fyddai’n darparu gofal yn y cartref i’r henoed yn y wlad, ac a fyddai’n mynd i’r afael â’u pryderon ar lefel gyfannol.

Roedd y weledigaeth hon yn llwyddiant a rhoddwyd sylw priodol i bryderon yr henoed yn y wlad. Y canlyniad oedd bod y rhaglen wedi dod yn boblogaidd yn y pentrefi dan sylw, ac roedd hefyd yn codi statws y menywod hyn yn y gymuned.

Byddai’r henoed yn awr yn edrych ymlaen at eu hymweliadau’n eiddgar, gan fod ganddynt fynediad i glust dosturiol a llaw sy’n iacháu. Yna, gwnaethom uwchraddio’r gwasanaeth i gynnwys gwasanaeth dosbarthu meddyginiaethau ar gyfer pethau fel pwysedd gwaed uchel, dolur a phoenau, ychwanegiadau fitaminau a chalsiwm, a dosbarthwyd dillad a blancedi gennym.

Dyna pryd y penderfynais fentro gam ymhellach i greu’r rhaglen Cymorth Nyrsio Lliniarol.

Cofrestrwyd cyfanswm o 10 menyw wledig yn y grŵp cyntaf a gofynnwyd iddynt aros yn llawn amser ar y campws, rhywbeth nad oeddem yn barod ar ei gyfer, a oedd yn golygu rhagor o gostau! Dechreuais gloddio’n ddyfnach ac yn ddyfnach i’m cynilion personol.

Roedd addysgu’r menywod ifanc disglair hyn, i ddechrau, fel addysgu plant ifanc, gan fod yn rhaid i ni ddechrau gyda’r pethau sylfaenol ac roedd addysg yn y maes hwn yn wael. Roedd yn daith hir i lwyddiant. Gwnes i ddyfalbarhau, ynghyd â’m tîm a gyda chefnogaeth fy ngwraig. Gwnaethom gymryd camau bach gan gwymp sawl gwaith, ond codi fe wnaethom ni!

Rydym bellach wedi dechrau ail grŵp ein rhaglen gyda 18 o fyfyrwyr gwledig. Cyflogwyd yr holl fyfyrwyr o’r grŵp cyntaf o fewn mis! Rwy’n gyffrous i barhau â’r daith hon a chynnig addysg a chyflogaeth i fenywod ifanc disglair, a gofal hanfodol i’r henoed a’r bobl sydd â salwch terfynol.

Os hoffech glywed mwy am stori Dr Abhijit Dam, gallwch gysylltu ag ef ar ein llwyfan cyn-fyfyrwyr, Cyswllt Caerdydd