Pam mae bod yn Llywodraethwr Ysgol yn rhoi cymaint o foddhad – I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr
23 Mehefin 2021Pan ymddeolodd Richard Ayling (BA 1968) o fyd busnes, roedd am barhau i wneud y gorau o’i sgiliau a’i brofiad yn ogystal â dod o hyd i ffordd newydd o gyfrannu at y gymdeithas. Yma mae’n disgrifio, ar ôl iddo wneud cais i fod yn Llywodraethwr Ysgol, y llwybr heriol sy’n rhoi cymaint o foddhad iddo.
Beth sy’n digwydd i rywun rhwng astudio llenyddiaeth Almaeneg ganoloesol ym 1966 a bod yn Gyd-gadeirydd Llywodraethwyr ysgol i blant awtistig yn 2021?
Arweiniodd fy ngyrfa, ar ôl gadael Prifysgol Caerdydd gyda Gradd Anrhydedd mewn Almaeneg, at nifer o swyddi ym maes datblygu busnes ac ymgynghori ac arweinyddiaeth ryngwladol, gan gynnwys cyfnod o bedair blynedd yn byw yn Frankfurt a dwy flynedd y tu allan i Baris.
Ymddeolais i o’r diwedd yn 2017 ac roeddwn i eisiau rhoi rhywbeth yn ôl i’r gymdeithas. Roeddwn i’n gwybod bod yn rhaid i fy mhrofiad ym maes rheoli busnes a gwybodaeth am seicoleg sefydliadol fod o ddefnydd i rywun, ac roeddwn i’n falch o wirfoddoli fy amser. Yn ystod fy ngyrfa, bûm yn hyfforddi ac yn datblygu llawer o gydweithwyr a chleientiaid, a chefais fwynhad o wylio pobl iau yn tyfu ac yn datblygu. Roedd swydd debyg mewn ysgol yn ymddangos fel y dewis cywir imi.
Cymryd y cam cyntaf hwnnw
Er bod angen Llywodraethwyr ar bob ysgol, maen nhw’n ofalus ynglŷn â phwy maen nhw’n ei benodi gan eu bod nhw’n chwilio am bobl ag ystod o sgiliau i ymuno â’u byrddau. Ymgeisiais i drwy sefydliad Governors for Schools a chefais bedwar cyfweliad cyn cael fy ngwahodd i ymuno â bwrdd llywodraethu Ysgol Forest Bridge ym Maidenhead.
Cyd-destunau sy’n ysgogi
Bydd rhywun yn dysgu’n hynod o gyflym, ac mae hynny ynddo ei hun yn ysgogi dyn. Llywodraeth ganolog sy’n rheoli’r ysgolion, ac mae angen rhywfaint o amser i ymgyfarwyddo â hyn. Mae yna ystod eang o ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â’r hyn y gallwch ac na allwch ei wneud fel academi ac fel Llywodraethwr. Mae’n ofynnol imi yn gyfreithiol sicrhau bod yr ysgol yn dilyn y rheolau. Mae’r fframwaith cyfreithiol yn golygu bod fy atebolrwydd yn debyg iawn i rai cyfarwyddwr cwmni cyfyngedig cyhoeddus.
Dysgu am awtistiaeth
Ysgol i blant awtistig yw Ysgol Forest Bridge. Roedd angen imi ddyfnhau fy nealltwriaeth o awtistiaeth a’r goblygiadau i’r ysgol o reoli ystod eang o fathau o ymddygiad gan y disgyblion. Mae mynd o amgylch yr ysgol unwaith y tymor yng nghwmni un o’r uwch-athrawon wedi bod o gymorth dirfawr imi ddeall yr ystod o heriau, yn ogystal â’r llawenydd, wrth i’r plant ddysgu yn Forest Bridge.
Rolau a chyfrifoldebau
Mae gennym gyfanswm o bum pwyllgor, a bydd pob un yn cyfarfod unwaith y tymor. Mae pob Llywodraethwr yn aelod o’r Bwrdd Llywodraethu Llawn, ac fel arfer bydd yn aelod o ddau fwrdd arall. Rwy’n cadeirio’r Pwyllgor Adnoddau (cyllid ysgolion, adnoddau gan gynnwys staff, rheoli’r safleoedd a’r adeiladau gan gynnwys iechyd a diogelwch) ac yn aelod o’r Pwyllgor Archwilio. Mae ein cyfarfodydd, sydd fel arfer yn parhau am tua dwy awr, yn cael eu rhoi yn y dyddiadur ar gyfer y flwyddyn gyfan fel y gall pawb gynllunio ymlaen llaw. Rwy hefyd wedi bod yn cymryd rhan yn y dasg o godi arian i helpu’r ysgol i brynu’r cyfarpar arbenigol sydd ei angen.
Cadw llygad ar bethau – ond heb ymyrryd gormod!
Roeddwn i’n ysu am gymryd rhan ym materion beunyddiol yr ysgol, ond cefais i fy nghywiro yn gyflym. Mae rôl Llywodraethwr yn golygu cadw llygad ar bethau, ond yn bendant heb ymyrryd yn ormodol! Ein rôl yw adolygu, arwain, trafod, herio, cymeradwyo pan fydd angen, gwerthuso ac, yn fwy na dim, cefnogi. Er enghraifft, gwnaethon ni benderfyniadau ar y cyd â thîm arweinyddiaeth yr ysgol ynghylch a ddylid cadw’r ysgol ar agor yn ystod y cyfnod clo yn sgîl COVID-19. Dyn oedd un o’r pethau anoddaf imi orfod ei wneud yn ystod fy ngyrfa gyfan.
Yr hyn sy’n ei gwneud yn hwyl
Mae cymaint o agweddau ar y rôl hon sy’n ei gwneud yn werth ei gwneud. Gweld y llawenydd yn wyneb athro pan fydd wedi cael sesiwn ddatblygu lwyddiannus gyda disgybl, rhyngweithio â’r person cyfatebol ar y CRhA sy’n gyfrifol am godi arian a chyflawni targedau heriol, sicrhau adroddiad OFSTED “Da”, ac yna weld bod yr holl staff yn mwynhau’r cyflawniadau hyn.
Cefais i’r cyfle hefyd i fod yn Siôn Corn mewn gwisg goslyd iawn a hyfrydwch pur oedd gweld ymatebion gwahanol y plant wrth iddyn nhw ddod i mewn i dderbyn eu hanrhegion!
Mae’r rôl hon wedi rhoi’r cyfle imi ddelio â rhai materion anodd iawn yn ogystal â defnyddio’r holl sgiliau sydd gen i yn sgîl fy ngyrfa fasnachol flaenorol mewn modd ystyrlon.
Ac i goroni’r cwbl, y teimlad fy mod i’n cyfrannu at y gymdeithas, er gwaethaf mai cyfraniad bach yw hwn.
Ydych chi’n difaru o gwbl?
Dim ond mewn un ffordd; hoffwn i fod wedi gwneud hyn yn gynharach yn fy ngyrfa. Mae gan fy holl gyd-lywodraethwyr swyddi amser llawn ac maen nhw’n rheoli’r ymrwymiad sydd ganddyn nhw o ran eu hamser. Mae wedi bod yn brofiad mor foddhaus ac ysgogol ac er fy mod bellach yn fy 70au, rwy wedi dysgu cymaint yn fy rôl. Byddwn i’n argymell yn frwd iawn i unrhyw un ohonoch chi sy’n darllen yr erthygl hon fynd yn Llywodraethwr. Mae’n rhoi cymaint o foddhad.
Ystyried mynd yn Llywodraethwr Ysgol? Cofrestrwch â Chyswllt Caerdydd ac ymunwch â’n grŵp Llywodraethwyr Ysgol i gael mynediad at gymuned gefnogol a rhagor o wybodaeth.
- Hydref 2024
- Medi 2024
- Awst 2024
- Gorffennaf 2024
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Mawrth 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018