Cwrdd â’r Gwirfoddolwr – Glyn Lloyd
26 Chwefror 2021Mae Glyn Lloyd (LLB 2002, MSc 2003, PGDip 2007, PhD 2008) yn Bartner a Sylfaenydd Newfields Law yng Nghaerdydd. Cwmni sy’n arbenigo mewn cyfraith mewnfudo. Gan ei fod wedi gwirfoddoli fel myfyriwr, mae Glyn wedi parhau i wneud hynny ar ôl graddio, gan rannu ei brofiad a’i arbenigedd er mwyn helpu myfyrwyr i wireddu eu potensial, ni waeth beth yw eu cefndir.
Beth wnaeth eich ysbrydoli i gynnig eich amser i gefnogi’r Brifysgol?
Rwy’n dod o gefndir heb addysg uwch yn bersonol a gallaf gydymdeimlo â’r heriau sy’n dod law yn llaw â hynny. Doedd gen i ddim cysylltiadau proffesiynol nag unrhyw deulu yn y sector cyfreithiol, a doeddwn i ddim wir yn deall beth oedd gyrfa yn y gyfraith yn ei gynnwys tan i mi ddechrau gwneud ceisiadau am gontractau hyfforddi ar ôl graddio.
Mae hyn yn sicr wedi newid fy agwedd a nawr fel cyflogwr fy hun, rwy’n teimlo’n arbennig o gryf ynghylch hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn y gyfraith. Mae’n hanfodol ein bod yn cefnogi darpar gyfreithwyr drwy godi ymwybyddiaeth o’r cyfleoedd yn y proffesiwn.
A allwch chi ddweud ychydig wrthym am y gwaith gwirfoddol rydych chi wedi’i wneud i’r Brifysgol?
Fel myfyriwr, gwirfoddolais yn y tîm ehangu cyfranogiad yn y Brifysgol, a oedd yn ceisio chwalu’r rhwystrau i addysg uwch a helpu myfyrwyr i wireddu eu potensial. Ar ôl treulio rhyw bum mlynedd mewn practis preifat fel cyfreithiwr, dychwelais i’r Brifysgol i ymgymryd â rôl y Pennaeth Cyngor yn y gwasanaethau Cefnogi Myfyrwyr. Drwy fy nghylch gorchwyl des i yn ôl mewn cysylltiad â grwpiau a chymunedau myfyrwyr o wahanol gefndiroedd, gan roi cymorth penodedig i’r rhai hynny sy’n ymuno â’r Brifysgol ac i fyfyrwyr presennol.
Ers gadael y Brifysgol, rwyf wedi sefydlu fy nghwmni fy hun, ond rwyf yn angerddol o hyd am ehangu cyfranogiad a pharhau i gydweithio ag Ysgol y Gyfraith. Rwyf yn siarad mewn digwyddiadau fel gwirfoddolwr ac yn ymgysylltu â myfyrwyr drwy fentrau amrywiol sy’n codi ymwybyddiaeth o astudio’r gyfraith a dilyn gyrfa yn y proffesiwn cyfreithiol.
Trwy Newfields, rwyf wedi gallu cynnig lleoliadau profiad gwaith yn ychwanegol at gyflogaeth â thâl i’r rhai hynny sy’n astudio ym Mhrifysgol Caerdydd, gan gynnwys ei graddedigion. Yn ogystal â chefnogi’r myfyrwyr, mae ein cydweithrediadau wedi helpu i amrywio’r busnes sy’n golygu y gall ein cleientiaid uniaethu’n well â’n cynghorwyr. Mae’n wych gallu gweithio mewn amgylchedd sy’n chwalu’r hierarchaethau traddodiadol sy’n dal i fodoli mewn nifer o sefydliadau cyfreithiol a rhai nad ydynt yn gyfreithiol.
Sut mae gwirfoddoli wedi eich helpu neu fod o fudd i chi yn bersonol ac yn broffesiynol?
Cymerais ran mewn nifer o gyfleoedd gwirfoddoli pan oeddwn yn fyfyriwr ac ar ôl graddio. Mae’r cyfuniad o’r profiadau hyn wedi llywio fy mhersbectif, a nhw yw’r rhesymau dros pam ein bod, fel cwmni, yn gwneud pob ymdrech i gynnig cyfleoedd i eraill. Mae’r rhain yn cynnwys lleoliad gwaith, gwasanaethau pro bono a chyfleoedd am waith â thâl. Rydym wedi ymgysylltu â myfyrwyr i’n cefnogi ar brosiectau TG a’r we, gan gynnwys rolau cefnogol ar gyfer ein cynghorwyr. Rwyf yn cyflwyno ein staff iau i lawer o fentrau a materion gwaith y byddai’n gyfyngedig i lefel uwch-bartner mewn cwmnïau cyfreithiol confensiynol. Mae sicrhau bod gwirfoddolwyr a staff ar bob lefel yn ymgysylltu â’i gilydd yn wych ar gyfer morâl ac mae’n cael gwared ar hierarchaethau gan sicrhau bod pawb yn cael chwarae teg. Nid yn unig y bydd pawb yn rhannu cyfrifoldebau ac atebolrwydd, ond byddant hefyd yn rhannu’r clod ar gyfer y gwaith rydym yn ei wneud. Mae gweld tîm hapus sy’n cynnwys amrywiaeth o gefndiroedd sy’n cydweithio tuag at nodau a rennir yn ysbrydoledig. Yn ddiweddar, fe wnaethom ni ennill Cwmni Cyfreithiol y Flwyddyn Boutique yng Ngwobrau Cyfreithiol Cymru, ac mae hynny oherwydd ymrwymiad y tîm, heb os nac oni bai.
Beth wnaeth i chi ddod i astudio yng Nghaerdydd?
Aeth y rhan fwyaf o fy ffrindiau i brifysgol arall, ond mae gan Ysgol y Gyfraith Caerdydd enw rhagorol. Gwnaeth hynny, a Diwrnod Agored heulog fy helpu i ddewis Caerdydd ym 1999. Ar ôl graddio, fe wnes i barhau gyda’m hastudiaethau drwy astudio MSc, PhD ac LPC. Mae Caerdydd yn ddinas fach ond bywiog, ac mae ganddi gymaint i’w gynnig ac rwyf bellach yn byw ac yn gweithio yno. Dwi wir heb edrych yn ôl ers gwneud y penderfyniad i symud i brifddinas Cymru.
Beth yw eich hoff bethau am Gaerdydd neu eich atgofion gorau ohoni?
Roeddwn i’n ddigon ffodus i ddechrau yng Nghaerdydd yn ystod Cwpan Cwpan Rygbi’r Byd. Fe wnes i fwynhau gwneud ffrindiau oes, gan adael y sefydliad yn hyderus i ddefnyddio fy nghrefft!
Beth ydych chi’n mwynhau ei wneud yn eich amser hamdden?
Rwy’n treulio gymaint o fy amser gyda’r cwmni bellach. Mewn pedair blynedd fer, mae Newfields wedi tyfu o bractis dan arweiniad un ymarferydd i gwmni â naw aelod o staff, wedi’i leoli yng Nghaerdydd ac yn Hong Kong. Mae’r daith wedi bod yn anhygoel. Mae twf mewn unrhyw bandemig yn rhyfeddol, ac rwy’n rhoi’r clod i fy nhîm gwych, ein hymagwedd a’n harbenigedd. Y tu allan i’r gwaith rwy’n mwynhau gwylio rygbi, heicio yn y bryniau, a threulio amser yn yr awyr agored gyda fy nwy ferch anhygoel.
Beth fyddech chi’n ei ddweud wrth gynfyfyriwr arall sy’n ystyried rhoi ei amser i gefnogi’r Brifysgol a’i myfyrwyr?
Ar ôl sefydlu a rheoli fy musnes fy hun, rwy’n teimlo dyletswydd i rannu fy ngwybodaeth a’m profiad i helpu’r genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol. Rydym yn byw mewn cyfnod heb ei debyg o’r blaen ac ni fydd y daith ymadfer ar ôl y pandemig yn un hawdd. Mae’r angen i gefnogi myfyrwyr ar ei fwyaf. Byddwn yn annog unrhyw gyflogwr i ystyried cynnig cyfleoedd. Mae’n brofiad gostyngedig a gwobrwyol. Rydych yn teimlo eich bod wirioneddol yn gwneud gwahaniaeth.
Os hoffech chi gymryd rhan a gwirfoddoli ar ran Prifysgol Caerdydd, gallwch wneud hyn mewn sawl ffordd, a bydd croeso i chi bob amser yn rhan o dîm Prifysgol Caerdydd.
- Hydref 2024
- Medi 2024
- Awst 2024
- Gorffennaf 2024
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Mawrth 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018