Skip to main content

DonateNewyddion

Perthnasoedd newydd, cyllid newydd a dull newydd o asesu plant

17 Medi 2020

Mae Uned Asesu Niwroddatblygiad Prifysgol Caerdydd yn paratoi’r ffordd ar gyfer dyfodol asesiadau ymddygiad plant ac yn darparu cymorth y mae ei angen yn fawr ar deuluoedd, ysgolion a phlant. Gyda chymeradwyaeth grant COVID-19 UKRI newydd, mae ei waith gwerthfawr yn parhau yng nghyd-destun y pandemig presennol.  

Yng nghanol môr o adeiladau concrit, mae Uned Asesu Niwroddatblygiad Prifysgol Caerdydd, sydd ychydig oddi ar Park Place prysur, wedi bod wrthi yn dawel yn croesawu plant a’u teuluoedd am y tair blynedd diwethaf.  

Seicolegydd biolegol sy’n gweithio yn Ysgol Seicoleg Caerdydd yw’r Athro Stephanie van Goozen. Mae’n un o bedair menyw a ddechreuodd yr NDAU, ac mae ei brwdfrydedd dros y maes ymchwil hwn yn amlwg.  

Wrth i ni gyfarfod ar-lein, mae’n gwthio ei sbectol i fyny, ac yn pwyso ymlaen tuag at y camera, yn barod i ddadbacio’r prosiect yn ei geiriau ei hun. 

A headshot of Professor Stephanie van Goozen

“O safbwynt ymchwil, gwyddom fod y rhan fwyaf o broblemau iechyd meddwl yn dechrau’n gynnar mewn bywyd – iselder, anhwylderau bwyta, ADHD a phroblemau iechyd meddwl hirdymor oedolion. Gwyddom fod ymddygiadau hyn fel arfer yn dechrau’n gynnar mewn bywyd, a gwyddom hefyd fod gwneud rhywbeth yn gynt yn llawer gwell i blant ac y gall atal problemau rhag codi’n ddiweddarach. Mae’r rhan fwyaf o ymchwil yn canolbwyntio ar grwpiau hŷn gan ei bod yn haws esbonio pethau ac mae’n haws profi plant wrth iddynt fynd yn hŷn oherwydd datblygiad eu llafar. Ond drwy weithio gyda phlant rhwng 4 a 7 oed, rydym yn eu cyrraedd ar adeg dyngedfennol, tra bônt yn dal i ddatblygu sgiliau pwysig.”   

Ar ôl gweithio yn yr Iseldiroedd a dod i Gymru, darganfu Stephanie nad oedd ymchwil i broblemau emosiynol ac ymddygiadol mewn plant ifanc iawn yn faes oedd yn cael llawer o sylw nac yn cael llawer iawn o gyllid.  

Mae’n esbonio bod angen i blant ifanc ddatblygu prosesau a sgiliau ar gyfer delio â straen, problemau iechyd meddwl ac adfyd, ac mae angen yr offer hyn arnynt i’w helpu yn yr ysgol ac i feithrin cyfeillgarwch a gwydnwch. 

Mae hefyd yn esbonio, er y gall rhai rhieni gael atgyfeiriad at feddyg teulu, mai ychydig iawn o opsiynau sydd ar gael i rieni sy’n pryderu am ymddygiad a datblygiad eu plentyn.  

Adeiladu perthnasoedd newydd gydag ysgol a rhieni 

Yn yr ysgol, mae plant yn datblygu eu sgiliau cymdeithasol ac mae Stephanie yn credu bod ymyrryd yn gynnar gyda chymorth staff ysgol yn llawer mwy cost-effeithiol ac y gall gael gwell effeithiau hirdymor nag ymyrryd yn ddiweddarach mewn bywyd.   

“Mae athrawon yn dda iawn am nodi pryd mae plant yn cael problemau. Dyna pam y sefydlwyd y berthynas atgyfeirio gwaith gyda’r ysgolion a dyna sut y dechreuodd yr NDAU. Gwelsom y cyfle hwn yng Nghymru a gwyddem fod gennym y mewnwelediad a’r wybodaeth glinigol ac y gallem ganolbwyntio ar blant iau.” 

Mae hyn wrth wraidd yr NDAU: gweithio gydag ysgolion, cynnal ymchwil ac asesiadau trylwyr, a darparu arweiniad i blant unigol a chymorth parhaus ar gyfer problemau emosiynol, gwybyddol ac ymddygiadol. Cyfunwch hyn gyda chyllid hael gan Sefydliad Waterloo ac mae’r tîm wedi creu system effeithiol iawn o asesu ac ymchwil.    

“Rydym yn asesu’r plant, yn cyfweld â’r rhieni ac yn gwneud proffil eang iawn o’r ffordd y mae’r plentyn yn datblygu, gan ganolbwyntio ar faterion cymdeithasol, gwybyddol, ymddygiadol, emosiynol a’r math o brosesau sy’n bwysig yn ein barn ni wrth ddatblygu problemau iechyd meddwl. Yna, rydym yn ysgrifennu adroddiad yn seiliedig ar yr asesiadau hyn ac mae’r adroddiad hwnnw’n mynd yn ôl i’r ysgol gyda chyngor ar yr hyn y gallant ei wneud. Yna, maent yn gwybod beth yw prif anghenion a phroblemau’r plant a hefyd eu cryfderau. Yn aml gallwch weithio gyda chryfderau plentyn er mwyn cyflawni newid mewn ymddygiad.” 

Mae’r NDAU wedi helpu 300 o blant a theuluoedd ers iddo gael ei agor am y tro cyntaf ac, o wybodaeth a gafwyd mewn cyfweliadau ac atgyfeiriadau, mae’r ymchwilwyr wedi darganfod bod llawer o’r plant ar lwybr sy’n debygol o arwain at broblemau iechyd meddwl.  

“Mae gennym gronfa ddata o sut mae’r plant hyn yn gweithredu a’r problemau y maent yn eu hwynebu. Defnyddir rhan o’n cyllid i ddarparu seicolegydd addysg sy’n rhoi argymhellion ar sut y gall yr ysgol helpu’r plant hyn.”  

Datblygu dull newydd o asesu 

Child being assessed at the NDAU unit, using technological tests

Mae Stephanie yn awyddus i symud tuag at system newydd sy’n canolbwyntio llai ar ddiagnosis a mwy ar yr agweddau ar ymddygiad sy’n arwain at ddiagnosis.  

“Mae system newydd mae angen i ni symud tuag at ble y dylai pobl anghofio am roi diagnosis oherwydd bod y label honno yn awgrymu un ateb. Mewn ychydig iawn o achosion mae i un broblem un ateb. Mae angen inni ganolbwyntio ar broblemau gwirioneddol plant, er enghraifft anawsterau gydag empathi neu sylw. Dyna yn union beth rydym yn ei wneud yn yr NDAU. Rydym yn gweithio o fewn y fframwaith newydd hwn ac yn canolbwyntio ar broblemau a phrosesau y gellir dylanwadu arnynt a’u cefnogi, megis problemau gyda’r cof neu broblemau gyda diffyg amynedd ac iaith.” 

“Yr hyn rydym yn ei wneud yw adeiladu tuag at y dull newydd hwn. Dydyn ni ddim yn rhoi diagnosis i rieni nac i athrawon, ond rydyn ni’n rhoi trosolwg iddyn nhw a phroffil o sut mae eu plant yn gweithredu o ran y prosesau hyn: gwybyddol, emosiynol, llafar, ac ati. Daw’r plant hyn am bum neu chwe awr o asesiad fel y gallwn gasglu data cynhwysfawr a chyfoethog iawn i’n helpu i nodi materion a deall pam mae plant yn profi ac yn arddangos problemau.”  

Gyda’r asesiadau hyn, mae Stephanie yn credu y gallai fod yn well i rieni ac ysgolion fynd i’r afael â’r materion hyn mewn modd pragmatig ac o bosibl sicrhau gwell canlyniadau i bawb.  

“Gellir helpu plant yn well mewn cyd-destun ysgol, yn enwedig ar adeg pan fyddan nhw’n datblygu sgiliau iaith, gwybyddol a pherthnasoedd pwysig ac yn dysgu am emosiynau ynddynt eu hunain ac mewn pobl eraill.”   

Er mai peth cyffredin yw i seicolegwyr ddefnyddio dull gweithredu unigol, mae’r NDAU yn unigryw oherwydd ei ffocws ar asesiadau manwl, gan roi cyfle prin i rieni gael gafael ar y math hwn o gymorth.   

“Mae’r NDAU yn unigryw oherwydd ein hadnoddau. Fel arfer, ni chewch fynediad at chwe awr o asesiad gan seicolegydd addysgol neu glinigol!” 

Cyllid newydd a phosibiliadau newydd  

Ers y cyllid cychwynnol gan Sefydliad Waterloo, derbyniodd yr NDAU gymeradwyaeth ym mis Gorffennaf 2020 ar gyfer cyllid UKRI ar gyfer grant sy’n benodol i COVID.    

“Rwy’n ddiolchgar iawn i Sefydliad Waterloo gan fod ganddynt ffydd yn y prosiect o’r cychwyn cyntaf. Roedd eu cyllid yn caniatáu i ni sefydlu’r Uned, a chanfod a oedd y math hwn o asesiad yn ddichonadwy ac yn gweithio. Mae arnom angen elusennau fel Sefydliad Waterloo oherwydd dyna sut y mae ymchwil newydd, arloesol yn digwydd. Dydw i ddim yn gwybod am lawer o sefydliadau y gallwch fynd atyn nhw a dweud ‘mae gennym syniad, gawn ni roi cynnig arni?’. Roeddent yn rhan annatod o gael hyn i ddechrau.”  

O ganlyniad i’r cymorth i ddechrau’r gwaith gan Waterloo, mae cronfa ddata’r NDAU bellach yn hynod o fanwl ac mae wedi arwain at lwyddiant cyllid pellach gan UKRI.  

“Ni yw’r unig uned ymchwil yn y DU sydd â chronfa ddata mor helaeth o blant â phroblemau sy’n dod i’r amlwg ac mae hynny’n golygu bod hwn yn gyfle unigryw i ddeall yr hyn y mae COVID yn ei wneud i’r teuluoedd mwyaf agored i niwed. Dyna oedd cryfder ein cynnig. Gallwn fonitro sut mae plant yn ymdopi dros y flwyddyn i ddod ac mae gennym y data i ddarganfod pa ffactorau sy’n helpu plant a theuluoedd i ymdopi, a phwy sy’n cael y trafferthion mwyaf.” 

Erbyn hyn, mae Stephanie a’i chyd-ymchwilwyr yn yr NDAU yn cynnal cyfweliadau fideo gyda chymaint â phosibl o’r 300 o deuluoedd cyn iddynt ddychwelyd i’r ysgol a byddant yn parhau i’w hasesu dros y flwyddyn, gan gynnal cyfweliad manwl arall ar ddiwedd y flwyddyn academaidd nesaf.   

“Bydd gennym dri thon o ddata – cyn-COVID, yn ystod COVID, ac ôl-COVID. Byddwn yn gallu nodi pa mor dda y mae teuluoedd gwahanol yn ymdopi, a beth yw’r ffactorau i esbonio hyn.” 

Mae Stephanie hefyd yn gobeithio defnyddio rhywfaint o’r cyllid i sefydlu gwefan a rhoi cymorth ac arweiniad ymarferol ar-lein i ysgolion a theuluoedd. 

“Gobeithio, gyda chyllid UKRI, y gallwn sefydlu gwefan gydag adnoddau, opsiynau hyfforddi, gwybodaeth a chysylltiadau fideo. Rydym am ddatblygu hon fel y bydd gan rieni, tra eu bod yn aros i’w plentyn gael ei weld gan feddyg neu seicolegydd, fynediad at adnoddau a ddylai eu helpu.” 

Mae brwdfrydedd Stephanie dros y prosiect wedi tyfu dros amser ac mae’n edrych ymlaen at allu croesawu mwy o blant, gyda mesurau ymbellhau cymdeithasol ar waith, drwy ddrws adeilad yr NDAU eleni.  

Mae’n gwthio ei sbectol i fyny unwaith eto, gan symud i ffwrdd o’i desg ac yn gwenu, mae ganddi gynlluniau mawr ar gyfer y dyfodol eisoes.  

“Byddai’n dda gennyf pe gallem wneud mwy! Ond rwy’n gweld llawer o bosibiliadau a chyfleoedd i beri newid sylweddol a pharhaol gyda’r ymchwil hon.”    

Darganfyddwch fwy am sut y gallwch gefnogi ymchwil niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl Prifysgol Caerdydd.