Myfyrio ar Fywyd – Dino Willox (BA 1996, MA 1999, PhD 2003)
17 Awst 2020Dino Willox yw’r cyfarwyddwr ar gyfer cyflogadwyedd myfyrwyr Prifysgol Queensland ac mae wedi bod mewn sawl rôl ym Mhrifysgol Caerdydd, gan gynnwys Pennaeth Cofnodion Myfyrwyr a Chofrestrydd Cynorthwyol. Roedd Dino hefyd yn fyfyriwr Prifysgol Caerdydd dair gwaith ac mae wastad wedi hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant mewn Addysg Uwch. Yma, maen nhw’n adlewyrchu ar eu gyrfa, hel atgofion am Gaerdydd, a chynnig cipolwg gwerthfawr.
Mae fy atgofion cynharaf o Hong Kong, lle roeddwn yn byw tan oeddwn yn 5 oed, ac o deithio rhwng fanno a’r DU. Fe wnaeth y profiad yma o ddadleoliad corfforol yn bendant effeithio fy nghysyniad o gartref ac fy synnwyr o’n hunain, ac yn sicr fy ngwerthfawrogiad o dywydd cynnes llaith! Roedd yn golygu fy mod yn awyddus i grwydro llefydd newydd a rhoddodd awydd teithio i mi.
Roedd yna sawl rheswm pam dewisais Brifysgol Caerdydd. Ar gyfer fy astudiaethau israddedig, roedd gan Gaerdydd enw da iawn am athroniaeth ac roedd hefyd yn un o’r ychydig brifysgolion yn y Good University Guide a dynnodd sylw yn benodol at sîn queer ffyniannus! Wrth gwrs, roedd fy mhenderfyniadau ar y pwynt yma yn fy mywyd yn canolbwyntio ar gydbwysedd…
Roeddwn wrth fy modd â Phrifysgol Caerdydd, fel myfyriwr ac fel aelod o staff. Mae gennyf i faner y Brifysgol wrth fy nesg yn y gwaith o hyd. Ym Mhrifysgol Caerdydd, dysgais i fod yn ddiymhongar a bod â pharodrwydd i roi cynnig ar rywbeth, hyd yn oed os nad yw’n gweithio fel y disgwyl. Hynny, a meddwl yn feirniadol. Rwy’n credu dylai pawb astudio athroniaeth am amryw o resymau, ond yn enwedig er mwyn meddwl am bethau’n feirniadol ac yn greadigol o bob safbwynt. Rhaid rhoi sylw arbennig i’r Athro Alessandra Tanesini, fy ngoruchwyliwr PhD a lwyddodd i dynnu gwaed o garreg!
At Cardiff, I realised I had the power to positively influence change. Not only through my work, but also through the things that I’m passionate about. I was proud to have helped Cardiff University become the first UK university to achieve Stonewall Diversity Champion status, and to have been a founding member of the Enfys network for LGBT+ network for staff and postgraduate students.
Yng Nghaerdydd, sylweddolais fod gennyf y pŵer i ddylanwadu ar newid er gwell. Nid yn unig drwy fy ngwaith, ond hefyd drwy’r pethau rwy’n angerddol amdanynt. Roeddwn yn falch o fod wedi helpu Prifysgol Caerdydd i fod y brifysgol gyntaf yn y DU i gael statws fel un o Hyrwyddwyr Amrywiaeth Stonewall, ac o fod yn un o sylfaenwyr rhwydwaith Enfys sef rhwydwaith LGBT+ ar gyfer staff a myfyrwyr ôl-raddedig.
Hoffem roi sylw i fy ffrind Karen Harvey-Cook, sy’n dal i wthio’r mentrau hyn ac yn bwrw targedau yn ddyddiol!
Credaf ei bod hi ond yn bosibl olrheinio llwybrau gyrfa wrth edrych yn ôl. Pan rwy’n edrych yn ôl, gallaf weld sut wnes i gyrraedd y rôl rwyf ynddi rŵan, ond ar y pryd, fe wnes ‘ddewisiadau gyrfa’ yn seiliedig ar ble roeddwn eisiau byw yn gorfforol. Fe wnes i adael Cymru er mwyn symud i’r Alban gan fy mod wedi cychwyn perthynas â rhywun o Glasgow, ac roedd teithio rhwng dwy wlad yn ddrud ac yn flinedig. Yna, fe wnaethon ni symud i Brisbane oherwydd, a bod yn onest, ydych chi wedi gweld y Gaeaf yn Glasgow? Mae’n ymddangos fy mod yn cael fy mhweru gan yr haul, felly yng nghanol haul Queensland oedd y lle i fod!
Pob tro wnes i symud, fe wnes newid fy ffocws gwaith o fewn addysg uwch. O Brifysgol Caerdydd, i Ysgol Fusnes Strathclyde, i Brifysgol Queensland. Rwy’n parhau i weithio mewn prifysgolion gan y credaf mai addysg yw’r ffordd orau i newid y byd, ac i ryddhau pobl rhag tlodi. Ac mae fy mhrofiadau allgyrsiol a gwirfoddol yn werthfawr iawn ym mhob rôl newydd, nid fy nghymwysterau a phrofiad gwaith yn unig.
Fel person queer anneuaidd, rwyf wastad wedi bod yn ymwybodol iawn o’r rhwystrau sy’n bodoli ar gyfer y rheiny nad ydynt mewn grym. Rwyf hefyd yn gwybod pa mor werthfawr mae fy mhrofiadau bywyd wedi bod i ddatblygu fy ngalluoedd, dealltwriaeth, a ffyrdd o feddwl. Mae amrywiaeth yn bwysig ar gyfer arloesedd – mae’n hanfodol cael cymaint â phosibl o wahanol feddyliau, syniadau, a ffyrdd o fyw, os ydych wir eisiau dod o hyd i atebion creadigol i broblemau cas!
Rwyf yn angerddol dros wneud yn siŵr fod pobl o bob math o hanes, diwylliant, a phrofiadau bywyd yn gallu cyflawni eu llawn botensial mewn addysg. Mae hyn yn golygu herio rhagdybiaethau a chwalu rhwystrau, gan gynnwys codi pwysigrwydd safbwynt holistaidd o’r profiad addysgol – a rhoi gwerth i bob agwedd o fywyd a phrofiad fel rhan o’r ymdrech addysgol.
Fy nghyngor i raddedigion diweddar fyddai sylweddoli’r gwerth yn eich *holl* brofiadau. Nid eich cymwysterau neu brofiad gwaith yn unig, ond eich holl brofiadau bywyd. Mae angen eu hadnabod a gwireddu eu gwerth drwy hunanfyfyrio, yna meddyliwch sut fyddai mynegi hynny yn y ffordd orau i ddarpar gyflogwyr (neu aelodau tîm os byddwch yn sefydlu busnes eich hun). Gallwch wneud hyn drwy lunio astudiaethau achos o beth rydych wedi’i ddysgu – crëwch gasgliad o brofiadau y gallwch ei ddatblygu er mwyn arddangos eich hun fel person (cyfeiriad digywilydd at Gwrs Ar-lein Agored Enfawr Employ101x, sy’n gallu dangos i chi sut i wneud hyn).
Rhowch werth ar greadigrwydd ac amrywiaeth, a chwiliwch am brofiadau sy’n eich gwthio tu hwnt i’ch ffiniau cyfforddus. Dyna le mae addysg yn digwydd. A gwrando ar gymaint o leisiau a phrofiadau gwahanol a phosibl – dyna le mae gwybodaeth. A pheidiwch â disgwyl i unrhyw beth fod yn berffaith – yn yr ymylon garw a’r gofodau blêr mae darganfod arloesedd a chyffro.
- Hydref 2024
- Medi 2024
- Awst 2024
- Gorffennaf 2024
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Mawrth 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018