Adeiladu dyfodol cynaliadwy ar gyfer yr amgylchedd ynghyd â’r economi
17 Awst 2020Mae Gerwyn Holmes (BSc 2005), sylfaenydd y busnes newydd arobryn Ecoslurps, yn siarad â ni am ein dibyniaeth ar blastig untro, gwersi a ddysgwyd mewn busnes, effeithiau COVID-19 a’i gyngor ar gyfer Graddedigion 2020.
Fel Cymro balch roeddwn eisiau astudio a byw ym mhrifddinas ein gwlad. Mae Ysgol Busnes Caerdydd yn cael ei chydnabod ymhlith y rhai gorau yn y DU, ac er i mi symud yma i astudio, rwyf erbyn hyn yn ei ystyried fel fy nghartref. Rwyf wrth fy modd â’r ddinas hon a chredaf fod ganddi botensial enfawr i ehangu yn y dyfodol.
Rwyf wastad wedi bod yn frwdfrydig am ailgylchu. Rhoddodd fy swydd gyntaf fel rheolwr marchnata ar gyfer busnes ailgylchu newydd fewnwelediad ardderchog i mi o faint ydym yn dibynnu ar blastig untro yn ein bywydau bob dydd, a chymhlethdodau ailgylchu plastig. Yn ogystal, fe ddes i ddeall nad oedd ailgylchu yn mynd i fod yn ddigon. Er mwyn adeiladu dyfodol cynaliadwy mae angen i ni ddibynnu llai ar gynnyrch plastig untro a dechrau defnyddio cynnyrch bioddiraddadwy sydd angen llai o egni i’w gynhyrchu.
Cenhadaeth Ecoslurps yw bod yn garbon bositif. Rydym yn cynnig dewisiadau eco-gyfeillgar fel dewis arall yn lle cynnyrch plastig untro i’n cwsmeriaid, megis brwsys dannedd bambŵ, ffyn gwlân cotwm, a chwpanau coffi y gellir eu hailddefnyddio. Mae gennym ddyheadau i ehangu ein cynnyrch amrywiol i gynnwys cynnyrch wedi eu gwneud o ffurfiau newydd o eco-blastig, sydd yn pydru ynghynt na’r rhai traddodiadol pan maent yn cael eu hanfon i’r tomenni sbwriel. Yn ogystal â hyn, am bob cynnyrch rydym yn ei werthu, rydym yn addo plannu coeden. Nid yn unig yw hyn yn cefnogi rhaglenni ailgoedwigo ar draws y byd, ond hefyd yn ein helpu i wrthbwyso’r ôl-troed carbon gafodd ei greu yn ystod y gweithgynhyrchu a’r cludo.
Fel busnes newydd, mae pob dydd yn cyflwyno her newydd. Y wers fwyaf rwyf wedi ei dysgu hyd yma yw, byddwch y cyntaf, byddwch yn well neu byddwch y rhataf. Yn y farchnad ar-lein orlawn, os nad ydych yn un o’r categorïau yma, bydd eich cynnyrch yn methu.
Mae’n hanfodol eich bod yn gwneud eich ymchwil ac yn defnyddio data i wneud penderfyniadau synhwyrol. Os rhowch eich cwsmer yn gyntaf ym mhopeth rydych yn ei wneud, bydd gennych fusnes llwyddiannus. Ond rwyf hefyd wedi dysgu na allwch wneud popeth eich hun. Er mwyn tyfu busnes yn ddigonol mae angen i chi ddefnyddio mwy o wasanaethau allanol ac awtomeiddio gweithrediadau lle bo’n bosibl.
Mae bod yn entrepreneur yn gallu bod yn brofiad unig ar adegau. Rydych yn gyfrifol am gymaint o bethau ac yn rhy aml mae llwyddiant yn fyrhoedlog wrth i’ch her nesaf lanio. Mae ennill a chyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobrau yn golygu cael eich cydnabod gan banel o arbenigwyr am wneud gwaith da. Mae’n rhoi gymaint o falchder i mi ac yn cynyddu ymwybyddiaeth o’n busnes yn y gymuned ehangach.
Gobeithio y gallwn ddefnyddio’r llwyddiant cadarnhaol yma i helpu i gynnal y momentwm wrth edrych ymlaen. Ar hyn o bryd rydym yn gwerthu’n uniongyrchol i ddefnyddwyr, ond buaswn wrth fy modd yn gweithio gyda rhai o’r masnachwyr mawr sy’n rhannu fy angerdd am leihau gwastraff plastig a chefnogi ailgoedwigo. Rwyf hefyd yn benderfynol o ehangu i fod yn frand byd-eang erbyn diwedd y flwyddyn a dechrau gwerthu yn yr UDA, Awstralia, Dwyrain Canol a Chanolbarth America.
Mae’r ymateb byd-eang i COVID-19 wedi dangos fod newid yn bosibl. Gan weld pa mor gyflym mae llywodraethau wedi cyflwyno cyfyngiadau symud a phecynnau economaidd sylweddol i gefnogi busnesau a’u gweithwyr, mae’n gwneud i ni ystyried pam nad yw’r lefel hon o weithredu brys heb gael ei rhoi ar waith i fynd i’r afael â’r argyfwng newid hinsawdd. Rydym yn gwybod beth sydd i ddod, ac rydym yn gwybod na fyddwn mewn sefyllfa i’w wrthdroi dros nos. Mae angen llawer mwy o ymrwymiad a gweithredu. Mae angen cynnig mwy o gefnogaeth i helpu i greu economi gynaliadwy werdd.
Mae’n amlwg fod COVID-19 am greu llawer o heriau ar gyfer graddedigion eleni. Ond mae rhai pethau y gall pawb eu gwneud i helpu i ddatblygu eu profiad, cysylltiadau a hyder. Ni allaf bwysleisio digon ar bwysigrwydd rhwydweithio. Defnyddiwch wefannau fel Eventbrite a Meetup i gychwyn integreiddio mewn i wahanol gymunedau ac adeiladu eich rhestr o gysylltiadau. Gallech fod yn gweithio gyda rhai o’r cysylltiadau yma yn y dyfodol ac fe wnewch ddysgu llawer drwy wrando ar wahanol arbenigwyr yn eu meysydd.
Dechreuwch fusnes bach yn eich amser eich hun a dechreuwch werthu eich sgiliau yn syth. Mae gwefannau fel Upwork yn cysylltu busnesau â gweithwyr llawrydd. Wrth symud tuag at weithio o bell a defnyddio gwasanaethau allanol, rwy’n ei ddefnyddio yn aml ar gyfer pob math o dasgau gwahanol, ac mae’n ffordd wych o amrywio eich sgiliau heb fod angen cyflogwr.
Yn bwysicaf oll, ceisiwch wneud rhywbeth rydych yn angerddol amdano. Mae’r bobl hapusaf rwy’n eu adnabod yn treulio eu diwrnodau yn gweithio mewn swyddi maent yn eu mwynhau. Ceisiwch ddod o hyd i sefydliad sy’n cyd-fynd â’ch gwerthoedd chi fel person ac ewch ati. Os ydych yn barod i weithio’n galed ac addysgu, byddwch ymhell ar eich ffordd ar eich llwybr gyrfa yn fuan iawn.
- Hydref 2024
- Medi 2024
- Awst 2024
- Gorffennaf 2024
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Mawrth 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018