Delio â chofgolofnau dadleuol yn Estonia a thu hwnt
23 Gorffennaf 2020Mae Federico Bellentani (PhD 2018) yn rheolwr ymchwil digidol i bartner Google Cloud yn yr Eidal. Mae ei ymchwil PhD am gofgolofnau dadleuol wedi dod yn fwyfwy perthnasol o ganlyniad i brotestiadau rhyngwladol a galwadau i dynnu cerfluniau i lawr. Mae’n trafod ei ddarganfyddiadau o Estonia a’i safbwyntiau ar ddelio â chofgolofnau dadleuol ledled y byd.
During Federico’s time as a PhD student at Cardiff University, he was looking at monuments and memorials as built forms which communicate certain values and ideas.
Yn ystod amser Federico fel myfyriwr PhD ym Mhrifysgol Caerdydd, roedd yn edrych ar gofgolofnau a chofebion fel ffurfiau adeiledig sy’n cyfathrebu gwerthoedd a syniadau penodol.
“Byddwn yn mynd heibio cofgolofnau a cherfluniau Caerdydd pob dydd, yn enwedig wrth fynd i adeilad Morgannwg â’r cofebion rhyfel gyfagos. Fe wnaeth yr amgylchedd hwn fy helpu gyda’m hastudiaethau.”
“Mae Cymru yn debyg i wledydd eraill sy’n mynd trwy gyfnod o newid. Mae ei pherthynas gyda’r DU wedi bod yn anodd ar adegau. Fy astudiaeth achos oedd Estonia, ond roedd ei gwneud yng Nghaerdydd yn ystyrlon.”
Yn ddiweddar, mae cynghorau Cymreig wedi bod yn troi eu sylw at gofgolofnau a chofebion lleol ac yn asesu p’un a ddylid eu tynnu i lawr. Mae Federico yn pwysleisio pwysigrwydd y drafodaeth a chymhlethdod y mater.
Mae ei ymchwil yn arddangos sut mae gwledydd ôl-sofietaidd wedi ceisio strategaethau gwahanol i leihau effaith cofgolofnau drwy eu tynnu i lawr, eu hadleoli neu, mewn rhai achosion, eu cuddio yn eu hamgylchedd cyfagos hyd yn oed.
“Hoffwn bwysleisio – mae pob cenedl a phob cerflun â’i chyd-destun ei hun. Nid yw tynnu cofgolofn Sofietaidd i lawr yn Estonia yr un peth â thynnu cofgolofn Cydffederal i lawr yn yr UDA. Mae arferion cynllunio gwahanol iawn a syniadau gwahanol iawn o fethodolegau dylunio.”
Yn seiliedig ar ei ddarganfyddiadau, mae Federico wedi datblygu set o strategaethau ar gyfer delio gyda chofgolofnau, o’u gadael fel y maent a delio gyda’r ffurf faterol, i’w dinistrio yn llwyr.
Ar lefel y wladwriaeth, rwyf yn annog cyfranogiad â chymysgedd o bobl – artistiaid, penseiri, cynllunwyr, athronwyr a dinasyddion cyffredin. Mae’n bwysig asesu’r broblem hon ac mae’n gymhleth oherwydd bod llawer o emosiynau’n gysylltiedig.”
Ar yr wyneb, mae tynnu cofgolofnau i lawr yn ymddangos yn syml, ond eglurai Federico fod tynnu cofgolofn i lawr yn gallu achosi ymateb annisgwyl weithiau.
“Yng ngwledydd y Baltig, mae problemau wedi bod ynglŷn â symud ffurfiau adeiledig Sofietaidd oedd wedi cael eu derbyn am flynyddoedd. Nid oes twristiaeth o’u cwmpas a darnau gweithredol o’r amgylched adeiledig oeddynt yn unig. Eto, cawsant eu tynnu i lawr drwy wario swm enfawr o arian. Yn aml, cawsant eu rhoi mewn amgueddfa lle byddai pobl yn dechrau eu gweld. Rhoddodd fywyd newydd iddynt.
“Fe wnaeth eu symud achosi tensiynau gyda chymydog dadleuol (Rwsia Putin) hefyd, a oedd yn pendroni pam oeddynt yn cael eu symud. Felly, mewn rhai achosion, gallwch greu problem ddwys a all arwain at sancsiynau economaidd, cael gwared ar lysgenadaethau ac, ar lefel eithafol, rhyfela hybrid.”
Yn yr achos hwn, fe wnaeth tynnu cofgolofn i lawr achosi mwy o broblemau. Ond, fel pwysleisia Federico, mae pob cofgolofn neu gofeb yn wahanol
“Mae Estonia wedi datblygu ffyrdd gwych o gynnwys pobl wrth ddylunio cofgolofnau. Yn 2018, fe adeiladon nhw gofeb i ddioddefwyr comiwnyddiaeth, a’i fwriad yw ehangu rhagor o’r cyhoedd i gymryd rhan drwy ddefnyddio offer digidol. Gerllaw y mae cofeb Sofietaidd arall na chafodd ei thynnu i lawr, felly maent yn byw gyda’i gilydd ac yn cydfodoli.
“Nid yw’n dileu’r gorffennol nac yn ychwanegu tensiwn. Fe weithiodd y llywodraeth gyda chynllunwyr, dylunwyr a phobl a allai roi ateb o fath penodol, gan arwain at brosiect homogenaidd mae pobl, yn gyffredinol, yn ei hoffi.
Mae Federico ar hyn o bryd yn gweithio i un o bartneriaid Google Cloud yn yr Eidal sy’n arbenigo mewn deallusrwydd artiffisial ac offer cydweithio. Wrth edrych i’r dyfodol, mae ganddo ddiddordeb mewn cyfuno ei arbenigedd a chanolbwyntio ar gofebion digidol.
“Wrth feddwl am gofebion, maen nhw’n rhywbeth materol iawn ac yn bethau y gallwch eu cyffwrdd. Mae’r pandemig presennol wedi dangos fod coffâd yn bosibl heb gael neb yn gorfforol bresennol i goffáu eich anwyliaid. Dychmygwch faint o bobl ar draws y byd mewn cymunedau gwahanol allai ymgysylltu â chofeb pe na fyddai’r angen i fynd yno’n gorfforol?”
Am fwy o wybodaeth am ymchwil a syniadau Federico gallwch ddarllen ei bapurau cyhoeddedig neu ei lyfr a gyhoeddir cyn bo hir.
- Ionawr 2025
- Hydref 2024
- Medi 2024
- Awst 2024
- Gorffennaf 2024
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Mawrth 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018