Cadw pobl mewn cysylltiad gyda chelf – I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr
22 Mehefin 2020Mae’r artist a’r pensaer, Katherine Jones (BSc 2011, MArch 2013, PGDip 2015), yn egluro sut ellir ymgorffori grym hiraeth a’n hawydd i ymgysylltu mewn adeiladau a’r celf sy’n eu darlunio.
Rwyf wrth fy modd â chelf ers pan oeddwn yn ifanc. Rwyf wastad wedi mwynhau arlunio ynghyd â chasglu eitemau megis cerrig a chregyn o’r traeth neu grefftau lleol o wyliau tramor. Dyma wnaeth fy sbarduno i astudio pensaernïaeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Un o’r prif resymau y dewisais Ysgol Pensaernïaeth Cymru oedd ei phwyslais ar arlunio a gwneud modelau. Roedd gen i hyd yn oed brosiect oedd wedi’i leoli yn Trieste, yr Eidal, lle bûm yn creu cyfres o ddarnau ‘celf gwrthrych’ am hanes masnach yn y ddinas. Roedd astudio ym Mhrifysgol Caerdydd yn brofiad hyfryd ac mae wir wedi paratoi’r ffordd ymlaen ar gyfer fy ngyrfa.
Mae fy nghefndir mewn pensaernïaeth wedi dylanwadu fy ngwaith celf yn aruthrol – fel pensaer rydych yn cael eich hyfforddi i fod yn fanwl a chywir, sef yn union beth yw fy nghelf. Mae fy narluniau yn cynrychioli lleoedd cyfarwydd mewn ffyrdd unigryw. Fel artist, rwyf yn ceisio dod o hyd i’r harddwch, manylder a phatrwm mewn lleoliadau cyfarwydd a gwrthrychau yn barhaol, a’u hail-ddehongli i mewn i’m gwaith celf. Mae’n waith hynod fanwl a chymhleth a all ddal ysbryd a harddwch lle neu berson, sy’n aml yn golygu bod fy narnau gyda llawer o atgofion ac arwyddocâd i’r rheiny sy’n eu mwynhau. Rwyf wrth fy modd yn clywed straeon ynglŷn â pham fod celf mor bwysig i bobl. Er enghraifft, rhoddodd gwsmer fy narlun o eiddo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Gerddi Dyffryn, fel anrheg pen-blwydd priodas i’w merch a briododd yno y llynedd. Rhoddodd gwsmer arall fy narlun o Ddinbych y Pysgod yn anrheg i’w mam, oherwydd dyna lle wasgaron nhw lwch ei thad.
Fy hoff adeiladau i arlunio yw’r rhai sydd â llawer o fanylder, mae’r rheiny yn rhoi her i mi! Un enghraifft yw fy narlun o’r Brif Adeilad ar gyfer Prifysgol Caerdydd – roedd yn sicr yn un o fy narluniau mwyaf cymhleth. Mae’n boblogaidd ymysg y rheiny sydd wedi astudio ym Mhrifysgol Caerdydd, gan ei fod yn eu hatgoffa o’r amseroedd da gawson nhw yma. Mae gan lawer o bobl atgofion melys o’u dyddiau prifysgol. Yn aml, dyma yw’r lle y maent yn cwrdd â phartneriaid a ffrindiau oes, ac mae cael darlun i’w hatgoffa o’r cyfnod yn eu helpu i ail-fyw’r dyddiau hynny!
Mae celf yn atgoffa pobl o’r lleoedd neu’r anwyliaid na allent ymweld â hwythau bellach, sydd yn arbennig o berthnasol a phwysig yn ystod y sefyllfa bresennol rydym yn ei wynebu. Mae ymdeimlad o hiraeth sydd, yn ystod y cyfnod rhyfedd hwn, wedi bod yn ffordd bwysig i bobl gysylltu gyda theulu, ffrindiau a’r llefydd arbennig hynny na allant ymweld â hwythau ar y funud. Rwy’n hapus bod fy nghelf yn gallu helpu i wneud i hyn ddigwydd ac mae’n fy ngwneud yn hynod falch o’r gwaith rwy’n ei wneud.
Gallwch weld gwaith Katherine ar ei gwefan a’i thudalen Instagram @katherinejonesartist
Dywedwch wrthym beth sy’n bwysig i chi
Rydym wedi cyflwyno ‘I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr’ gan nad oes neb yn adnabod ein cymuned o gynfyfyrwyr gystal â chi! Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych i gael eich syniadau ar gyfer erthyglau neu ddigwyddiadau ar-lein sydd o ddiddordeb i chi, neu rai y gallwch roi mewnwelediad iddynt, neu efallai mai CHI yw’r stori! Edrychwch ar ein rhestr lawn o erthyglau, a gwyliwch ein rhestr o ddigwyddiadau byw eto.
- Hydref 2024
- Medi 2024
- Awst 2024
- Gorffennaf 2024
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Mawrth 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018