Cerflun ar gyfer Arglwyddes Rhondda – I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr
13 Mai 2020Mae Julie Nicholas (MSc 2005) yn egluro pam ei bod yn codi arian ar gyfer cerflun newydd o gyn-lywydd Prifysgol Caerdydd, Arglwyddes Rhondda, yn ei dinas genedigol yng Nghasnewydd.
Margaret Haig Thomas, Arglwyddes Rhondda, oedd un o fenywod amlycaf yr ugeinfed ganrif – yn ymgyrchydd hawliau menywod a dylanwad diwylliannol am sawl degawd. Mae ei CV anhygoel yn cynnwys bod yn garcharor swffragét, sefydlu a golygu’r cyfnodolyn amlycaf rhwng y rhyfeloedd, Time & Tide, ac yn 1950 dod yn Llywydd Coleg Prifysgol De Cymru a Sir Fynwy; y sefydliad a fyddai’n dod yn Brifysgol Caerdydd1. Dywedodd y pennaeth ar y pryd, Anthony Steele, fod ei hetholiad ‘yn nhraddodiad gorau’r peidio gwahaniaethu yn ôl rhyw sydd yn y coleg’.
Y tro cyntaf i mi glywed am Arglwyddes Rhondda oedd mewn sylw a wnaeth siaradwr wrth fynd heibio yng Ngŵyl y Gelli yn 2013. Roedd Margaret Haig Mackworth (née Thomas) wedi sefydlu’r gangen Swffragét leol yng Nghasnewydd ac wedi ffrwydro fy mlwch postio lleol, fel rhan o’r ymgyrch llosgi bwriadol cenedlaethol gan Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Menywod (WSPU). Mae bywyd Arglwyddes Rhondda yn llawn digwyddiadau arwyddocaol ac arloesi ffeministaidd; goroesodd suddo’r Lusitania, cymerodd yr awenau i ymerodraeth fusnes rhyngwladol ei thad, ac yn 1926 cafodd ei hethol yn llywydd benywaidd cyntaf yr Institute of Directors. Yn ei blynyddoedd diweddarach, brwydrodd i fod y fenyw gyntaf i gael sedd yn Nhŷ’r Arglwyddi. Mae ei phortread yn hongian yn ystafell fwyta Tŷ’r Arglwyddi heddiw. Ni allwn ddeall pam nad oeddwn wedi clywed am Arglwyddes Rhondda ynghynt; fel rhywun sydd â diddordeb mewn hanes lleol a chyfiawnder cymdeithasol, sut gallai menyw gyda chymaint o lwyddiant ac arwyddocâd gael ei anghofio mor gyflym?
Penderfynais wneud cofeb o flodau a baneri yn 2013 wrth y blwch postio i ddathlu can mlynedd ers y diwrnod tyngedfennol hwnnw. Cafodd cysylltiadau ei gwneud – diolch i fy niweddar AS rhagorol, Paul Flynn – gyda Jayne Bryant, a fydd yn Aelod Cynulliad cyn bo hir, ac AS Dwyrain Casnewydd Jessica Morden, y ddwy ohonynt yn hoff iawn o Arglwyddes Rhondda. Cysylltais â chofiannydd Arglwyddes Rhondda, yr Athro Angela V John, y gwneuthurwr ffilmiau Amy Morris, a llawer o fenywod lleol eraill, a daeth pawb ynghyd i ffurfio criw o selogion Arglwyddes Rhondda.
Cafodd cynllun ei drefnu i sicrhau cofeb fwy parhaol; fe gydlynais ymgyrch codi arian i gael plac glas. Yn 2015 fe wnaethom ddadorchuddio’r plac wrth y blwch postio a roddodd Arglwyddes Rhondda ar dân, y gofeb gyhoeddus hir-ddisgwyliedig cyntaf i Arglwyddes Rhondda yn ei thref genedigol, Casnewydd.
Yn 2018, wedi’n hysbrydoli gan y nifer o gerfluniau oedd yn ymddangos ar draws Lloegr i ddathlu canrif o bleidlais i fenywod, cysylltom ninnau – ‘y criw o selogion Arglwyddes Rhondda’ – â mudiad ‘Monumental Welsh Women’ drwy ymgyrch Menywod Mawreddog y BBC, mudiad sy’n anelu i godi arian ar gyfer pump o gerfluniau newydd o fenywod ar draws Cymru yn y bum mlynedd nesaf. Yn 2019 fe anwyd yr ymgyrch ‘Statue for Lady Rhondda’.
Diolch i Lywodraeth Cymru, fe dderbynion swm hael o £20,000 tuag at ein targed o £100,000. Cafodd llawer o sefydliadau eu heffeithio gan athrylith a chefnogaeth Arglwyddes Rhondda yn ystod ei hoes, ac rydym yn ddiolchgar iawn i’r sefydliadau hynny sy’n gallu cyfrannu’n uniongyrchol neu gefnogi’r ymgyrch. Hoffwn ddiolch yn bersonol i Brifysgol Caerdydd am rodd tuag at y cerflun ac ystyriaeth iddi ar gyfer yr ymgyrch Enwau Nodedig (fe bleidleisiais i dros Lady R, gan iddi hithau frwydro dros fy mhleidlais!).
Rwy’n darganfod rhywbeth newydd am Arglwyddes Rhondda yn weddol reolaidd. Fel rhywun sydd wedi cael gradd Meistr mewn Materion Tai ym Mhrifysgol Caerdydd ac wedi gweithio mewn gwasanaethau Tai Cymdeithasol a Digartrefedd ers dros 20 mlynedd, roeddwn yn arbennig o falch o glywed fod y grŵp Women’s Pioneer Housing wedi darganfod ei bod yn un o’r noddwyr gwreiddiol i’r sefydliad. Yn dilyn y Rhyfel Byd Cyntaf, fel oedd y genedl yn sicrhau cartrefi ar gyfer arwyr y rhyfel, roedd Arglwyddes Rhondda yn cefnogi mynediad menywod at dai da, fforddiadwy hefyd. Roedd hithau yno ar gychwyn y mudiad maes tai modern.
Wrth i mi ysgrifennu’r erthygl hon, nid oes cerflun cyhoeddus o fenyw wedi’i henwi yng Nghymru, ond y newyddion da yw bod llawer ar y gweill, diolch i grwpiau lleol fel ‘Statue for Lady Rhondda’. Mae menywod Cymreig dylanwadol yn haeddu cael eu dathlu a’u cofio, yn enwedig i helpu ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o arweinwyr, crewyr a meddylwyr o’r ddau ryw. Mae ‘Statue for Lady Rhondda’ yn anelu unioni’r cam presennol yn erbyn menywod. Ewch ati i ddysgu mwy am yr Ymgyrch ‘Monumental Welsh Women’ a’r grŵp ‘Statue for Lady Rhondda’ ac ymunwch. Gallwn wneud hyn!
1 Turning the Tide: The Life of Lady Rhondda, Angela V John, Parthian:2013
Dywedwch wrthym beth sy’n bwysig i chi
Rydym wedi cyflwyno ‘I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr’ gan nad oes neb yn adnabod ein cymuned o gynfyfyrwyr gystal â chi! Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych i gael eich syniadau ar gyfer erthyglau neu ddigwyddiadau ar-lein sydd o ddiddordeb i chi, neu rai y gallwch roi mewnwelediad iddynt, neu efallai mai CHI yw’r stori! Edrychwch ar ein rhestr lawn o erthyglau, a gwyliwch ein rhestr o ddigwyddiadau byw eto.
- Hydref 2024
- Medi 2024
- Awst 2024
- Gorffennaf 2024
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Mawrth 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018