Skip to main content

Cyswllt CaerdyddDigwyddiadauEin Cyn-fyfyrwyr

Beth y mae’r Urdd yn golygu i fi

31 Mai 2019
Urdd Eisteddfod 2019

Yr wythnos hon, mae Eisteddfod yr Urdd – gŵyl ieuenctid sy’n dathlu’r Gymraeg a’i diwylliant – yn ymweld â Bae Caerdydd. Dywedodd Nia Eyre (Cymraeg 2017-), Myfyrwraig Prifysgol Caerdydd, gwirfoddolwr a chystadleuydd wrthym beth y mae’r Urdd yn golygu iddi. 

Cafodd Bae Caerdydd ei drawsnewid yn faes bywiog ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol Awst y llynedd, a’r Urdd sydd wedi meddiannu’r lleoliad yr wythnos hon.

Mae gwersylloedd yr Urdd yn llefydd gwych ac unigryw hefyd. Mae yna bedwar gwersyll, un yn y Bae yng Nghaerdydd, Llangrannog, Glan-Llyn ac un llai adnabyddus ym Mhentre Ifan yn Sir Benfro. Rwy’n falch i allu dweud fy mod wedi aros ym mhob un o’r pedwar gwersyll.

Rydw i’n siŵr bod pawb sydd wedi aros yn Llangrannog yn cofio ofni’r ‘Black Nun’ – rhyw draddodiad rhyfedd gan y plant hyn o fynd o amgylch ffenestri’r llefydd aros liw nos wedi gwisgo mewn du a chodi ofn ar y plant Iau! Wnes i fyth, wrth gwrs.

Nawr, fel myfyrwraig ym Mhrifysgol Caerdydd, rydw i wrth fy modd yn gweld yr Eisteddfod yn dod i’r Bae.

Roedd perfformio ar lwyfan Canolfan y Mileniwm gydag Aelwyd y Waun Ddyfal yn ystod y gyngerdd agoriadol yn brofiad anhygoel, er ychydig yn frawychus! Rwy’n edrych ymlaen yn fawr i fod yng nghanol y cystadlu ar ddydd Sadwrn olaf yr Eisteddfod.

Rydw i wedi cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd bron bob blwyddyn ers i fi gofio ac rwy’n gobeithio’n fawr y byddwn ni’n maeddu’r aelwydydd eraill mewn cystadleuaeth neu ddwy eto eleni!

Ond nid ennill yw’r peth pwysicaf: rydw i’n eithaf cyfforddus wrth siarad yn gyhoeddus neu gyflwyno unrhyw beth, a’r ffaith fy mod wedi camu ar lwyfan yr Urdd ers yn blentyn bach yn yr ysgol Gynradd sydd wedi rhoi’r hyder hwnnw i mi.

Mae’r Urdd wedi fy helpu i ddatblygu. Es i i Langrannog sawl gwaith yn blentyn, ond roedd hi’n brofiad gwahanol iawn mynd fel swog yno gyda phlant blwyddyn 7 pan oeddwn i yn y chweched dosbarth. Roedd hynny yn brofiad gwych i ddatblygu sgiliau arweinyddiaeth, bugeiliol a chefnogaeth i enwi ond ychydig, ac rwy’n siŵr y byddwn yn dysgu rhywbeth newydd yno bob tro.

Eisteddfod yr Urdd rhwng 27 Mai a 1 Mehefin Bae Caerdydd.