Skip to main content

Cyswllt CaerdyddPam Prifysgolion?

Mae Prifysgolion yn achub, newid a chyfoethogi bywydau

17 Rhagfyr 2018

Ymchwilydd ieithyddol yw’r Athro Alison Wray a’i ffocws yw sut mae cyfathrebu â phobl sy’n dioddef o ddementia

Professor Alison Wray with Sir Tony Robinson

Gall gwaith ymchwilydd academaidd fod yn unig a llafurus: darllen; meddwl; ymchwilio; ysgrifennu. Mae’r cyfan yn werth chweil pan welir effaith gadarnhaol ein hymchwil y tu hwnt i’r Byd Academaidd a gallem ddweud “Rwy’n gwneud gwahaniaeth go iawn”.

Mae rhywun yn datblygu dementia bod 3 munud yn y DU. Mae Prifysgol Caerdydd yn ymateb i’r her drwy waith gwirioneddol ysbrydoledig ym maes Geneteg a Niwrowyddoniaeth. Er hynny, mae’n dod i’r amlwg bod angen mynd i’r afael â chyflyrau o’r fath o gyfeiriadau gwahanol. Mae fy ngwaith i yn Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth Prifysgol Caerdydd yn dangos bod modd cael effaith gadarnhaol ar ddementia gan ddefnyddio dulliau gwahanol i’r Gwyddorau Biolegol.

Mae cyfathrebu yn gallu peri llawer o ofid i’r 850,000 o bobl sy’n dioddef o ddementia yn y DU. Gallent fod yn ddryslyd ac yn aflonydd wrth iddynt golli eu cof. Gall fod yn rhwystredig iawn i’r rheiny sy’n ceisio cael sgwrs gyda nhw. Mae fy ngwaith ar gyfathrebu â phobl sy’n dioddef o ddementia wedi dangos bod newidiadau bach iawn yn gallu gwneud gwahaniaeth enfawr.

Mae yna ambell beth ymarferol y gellir gwneud, fel awgrymu pwy ydych chi a beth rydych chi’n ceisio ei gyflawni, bod yn amyneddgar, yn bwyllog a dangos empathi yn gallu bod yn bwerus iawn ac yn gallu ysgafnhau’r rhyngweithio gyda phobl sy’n dioddef o ddementia.

Yn ddiweddar, cefais y pleser o fynd i stiwdio recordio gyda Syr Tony Robinson (Hon 2012), a recordiodd y sain ar gyfer dwy ffilm wedi’u hanimeiddio a wnes i ar gyfathrebu â phobl â dementia.

Mae ymchwil glinigol mewn geneteg a thriniaethau cyffuriau yn hanfodol, ond weithiau mae’r datblygiadau mwyaf sy’n effeithio profiadau bywyd yn cael eu gwneud drwy newid ein ffordd o feddwl. Mae prifysgolion yn darparu awyrgylch unigryw ar gyfer casglu syniadau er mwyn ymgymryd â phrif heriau cymhleth ein hoes.

Darllenwch yr erthygl nesaf am Pam Prifysgolion?:
Mae Prifysgolion yn ysgogi twf economaidd ledled y byd

Hefyd yn y gyfres: