Callum Davies (BA 2013)
22 Tachwedd 2018Bu Callum Davies (BA 2013) yn astudio Ffrangeg a Chymraeg ac mae e’n dweud mai i’r Ysgol Ieithoedd Modern y mae’r clod am ei helpu i sicrhau ei rôl bresennol fel Swyddog Cyswllt Chwaraewyr ar gyfer Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd.
Fe wnes i dyfu i fyny yng nghymoedd De Cymru, ac roeddwn i bob amser wrth fy modd yn mynd i Gaerdydd gyda’m teulu. Roedd bod yn gyfarwydd â’r ddinas yn help pan oeddwn i’n ystyried pa brifysgol y dylwn i fynd iddi. Roeddwn i wedi gwneud llawer o waith ymchwil ar yr amrywiol gyrsiau roedd prifysgolion eraill yn eu cynnig, ond fe ges i fy nenu gan y diwrnod agored y bues i’n ei fynychu yng Nghaerdydd. Roeddwn i’n astudio Cymraeg fel ail iaith ar y pryd, ac unwaith roeddwn i’n gwybod mod i’n gallu cyfuno dwy iaith yng Nghaerdydd, bu hynny’n ddylanwad mawr ar fy mhenderfyniad.
Fe wnes i fwynhau cwrdd â phobl o bob rhan o’r Deyrnas Unedig a’r tu hwnt, a gwneud ffrindiau gwych ar hyd y ffordd. Roedd fy mlwyddyn gyntaf yn agoriad llygad, ac yn yr ail flwyddyn roedd llawer mwy o ffocws i bopeth, ond yn fy marn i, fy atgof gorau yw astudio dramor yn Montpellier yn ne Ffrainc.
Roedd y flwyddyn dramor yn brofiad a newidiodd fy mywyd, ac yn rhywbeth na ddylid ei golli. Roeddwn i’n ffodus yn yr ystyr fy mod wedi cael cyfle i fyw mewn ardal a oedd yn debyg i Gaerdydd, yn yr ystyr ei bod yn fywiog ac yn ifanc, ond gyda mwy o heulwen!!
Roedd Caerdydd yn cynnig peth cymorth ardderchog i’w disgyblion oedd yn astudio mewn gwlad dramor, ond doedd dim angen llawer o help arnaf fi, gan fod y flwyddyn yn un wych a’m helpodd i ddatblygu’n bersonol ac yn ieithyddol.
Ar ôl graddio fe es i’n syth i gyflogaeth yng nghlwb pêl-droed Dinas Caerdydd. Wrth i mi nesáu at fy arholiadau terfynol, cysylltodd y clwb â’r adran Ffrangeg mewn ymgais i gael hyd i siaradwyr Ffrangeg i helpu’r adran i recriwtio. Bûm yn gweithio ar rai swyddi cyfieithu yn wirfoddol am rai misoedd cyn sicrhau swydd amser llawn wrth i’r clwb gychwyn ar ei dymor cyntaf yn yr Uwch Gynghrair.
Mae fy rôl yn eang iawn ac yn sicr yn fy nghadw ar flaenau fy nhraed.
Rwy’n defnyddio fy sgiliau iaith bob dydd a gall hynny gynnwys unrhyw beth o gyfieithu sgyrsiau tîm ein chwaraewyr tîm cyntaf i gynllunio teithiau er mwyn i’n sgowtiaid chwilio am y chwaraewyr mawr nesaf. Yn y bôn mae angen i mi ofalu am les y chwaraewyr a sicrhau eu bod yn gallu canolbwyntio eu hegni i gyd ar chwarae pêl-droed.
Rydw i’n helpu i gael hyd i eiddo ar gyfer chwaraewyr newydd, ac yn eu helpu nhw’n weinyddol gyda bancio, fisâu a threthi pan fyddan nhw’n cyrraedd am y tro cyntaf.
Petawn i’n gallu rhoi cyngor i fyfyrwyr presennol byddwn i’n dweud wrthyn nhw am siarad cymaint o Ffrangeg a Chymraeg ag y gallwch chi y tu allan i’r darlithoedd a’r seminarau. Mae sgiliau iaith wedi bod mor bwysig i mi yn y gwaith a’r tu allan, ac mae’n dal yn wych gweld ymateb pobl i mi pan fydda i’n siarad Ffrangeg. Rwy’n dal i feddwl mod i ddim yn rhugl 100%, felly mae siarad mwy a mwy mewn gwahanol sefyllfaoedd o fudd mawr i chi.
Roeddwn i wrth fy modd gyda’r profiad o fynd i’r brifysgol, a byddwn i’n dwlu cael gwneud y cyfan eto! O gymryd popeth i ystyriaeth, mae’r ddinas a’r brifysgol yn lle perffaith i fyw ac i ddysgu.
Callum Davies (BA 2013)
22 Tachwedd 2018Callum Davies (BA 2013) studied French and Welsh and credits the School of Modern Languages with helping him secure his current role as a Player Liaison Officer for Cardiff City Football Club. (rhagor…)
- Ionawr 2025
- Hydref 2024
- Medi 2024
- Awst 2024
- Gorffennaf 2024
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Mawrth 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018