Y rhodd a fydd yn trawsnewid bywydau
31 Hydref 2018Yn ei rodd o £1.1m i ariannu darlithfa 550 sedd yng Nghanolfan Bywyd y Myfyrwyr, bydd y dyngarwr Cymreig, Syr Stanley Thomas OBE (Hon 2011) yn cyfrannu at brofiad myfyrwyr a fydd yn byw ac astudio yng Nghaerdydd am flynyddoedd i ddod.
Dechreuodd yr adeiladu ym mis Medi, gyda Kirsty Williams OBE AM, yr Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg a’r Is-Ganghellor, yr Athro Colin Riordan yn dechrau ar y gwaith adeiladu.
Dywedodd Syr Stanley fod y ddarlithfa “yn hanfod, nid braint”, a bydd y safle ar Blas y Parc yn gartref i wasanaethau Cefnogi a Lles Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd o 2020-21. Bydd yn galluogi gwasanaethau ar-lein cyfwerth i bob myfyriwr (yng Nghaerdydd a gweddill y byd) yn ogystal â mynedfa 24/7 i reoli holl ymholiadau anacademaidd myfyrwyr.
Yn ganolbwynt i’r ganolfan fydd man dysgu ac addysgu modern a man cyfarfod wedi’i enwi ar ôl y dyn busnes blaenllaw, Syr Stanley. Mae ei rodd, yr un fwyaf y mae un person wedi’i rhoi i Brifysgol Caerdydd hyd yma, yn caniatáu i‘r datblygiad fynd yn ei flaen.
Bydd y lleoliad hefyd yn gallu croesawu ymwelwyr a chynnal partïon i ysgolion lleol yn rhan o raglen y brifysgol i ehangu’r mynediad at addysg uwch.
“Mae’n bwysig iawn i ni ym Mhrifysgol Caerdydd bod cefnogaeth myfyrwyr ar gael i bawb ac yn cyfrannu at fyfyrwyr i berfformio hyd eithaf eu gallu a llwyddo.” meddai Ben Lewis Cyfarwyddwr Cymorth i Fyfyrwyr a Lles Myfyrwyr. “ Bydd Canolfan Bywyd y Myfyrwyr yn cael effaith drawsnewidiol ar yr hyn yr ydym yn gallu gwneud dros ein myfyrwyr ac i gymuned y Brifysgol yn ehangach.”
“Rydym wedi dyfeisio strategaeth gynhwysfawr ar gyfer anghenion poblogaeth heddiw ac i’r dyfodol ac mae’r rhodd yma yn garreg filltir yn natblygiad y Ganolfan.”
Yn awr â chartref priodol, bydd y Brifysgol yn gallu trawsnewid ei gwasanaethau ymgynghori i fyfyrwyr er mwyn arwain y sector, gyda’r Ganolfan yn darparu isadeiledd ffisegol a digidol er mwyn gwella hyblygrwydd, gwaith grŵp a chefnogaeth tymor hir mewn gwagle mwy priodol.
“Ni fyddai uchelgais o’r fath yn gallu cael ei wireddu heb haelioni Syr Stanley. Bydd ôl ei garedigrwydd yn amlwg ar ein campws a fydd yn cael effaith go iawn a thrawsnewidiol ar fywydau pobl am genedlaethau i ddod.” meddai Ben.
Cafodd ei sylwadau ei gadarnhau gan Simon Wright, sy’n Gofrestrydd Academaidd (LLB 1995), sy’n credu bod rhodd o’r fath yn chwarae rhan annatod drwy ddyfnhau ymrwymiad Prifysgol Caerdydd i gymorth myfyrwyr a darparu profiad myfyrwyr eithriadol.
“Mae rhodd Syr Stanley yn ein helpu i wireddu ein gweledigaeth o wasanaethau i fyfyrwyr a fydd yn gynhwysol, hygyrch a chyfannol,” meddai. “Ein prif flaenoriaeth fel Prifysgol yw iechyd a gallu deallusol, lles a ffyniant ein myfyrwyr, ac mae’n bwysig peidio gorbwysleisio effaith cyfraniad Syr Stanley, a phob cyfrannwr arall.”
Cewch fwy o wybodaeth am roi rhodd.
- Hydref 2024
- Medi 2024
- Awst 2024
- Gorffennaf 2024
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Mawrth 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018