Skip to main content

Mehefin 2018

“Bydd y ddinas yn dod yn fyw gyda bwrlwm y graddio”

“Bydd y ddinas yn dod yn fyw gyda bwrlwm y graddio”

Postiwyd ar 29 Mehefin 2018 gan Alex Norton

Dros y 135 mlynedd diwethaf, mae Caerdydd wedi dyfarnu graddau i gannoedd o filoedd o raddedigion. Mae defodau Wythnos Graddio wedi newid ychydig ers 1883, ond yng nghanol mis Gorffennaf - fel sawl haf blaenorol - bydd dinasyddion prifddinas Caerdydd yn croesawu mewnlifiad lliwgar o raddedigion, academyddion, teulu a ffrindiau.

Beth yw eisteddfod?

Beth yw eisteddfod?

Postiwyd ar 29 Mehefin 2018 gan Jon Barnes (BA 2007)

Gŵyl o lenyddiaeth, cerddoriaeth a pherfformio yw eisteddfod, sy’n dathlu iaith a diwylliant Cymru. Mae’n aml yn ddigwyddiad cystadleuol, gyda chorau, beirdd, cantorion, cerddorion a dawnswyr yn perfformio am wobrau.

Eich Dathlu Chi

Eich Dathlu Chi

Postiwyd ar 28 Mehefin 2018 gan Jon Barnes (BA 2007)

"Mewn bywyd, gallwn fod yn hunanol mewn llawer o ffyrdd," - dyna mae’r entrepreneur Lyndon Wood yn ei ysgrifennu. "Rydym ni’n ceisio peidio â bod yn hunanol drwy roi." Trawodd neges Lyndon nodyn priodol ar Ddiwrnod Caerdydd, uchafbwynt ar galendr y Brifysgol, lle gwahoddir rhoddwyr, codwyr arian a gwirfoddolwyr Caerdydd i dderbyn diolch o galon a chlywed am effaith eu cyfraniadau.

Y GIG yn 70: “Profiad na welir mewn unrhyw werslyfr” – Alex Gordon (Medicine 2014-)

Y GIG yn 70: “Profiad na welir mewn unrhyw werslyfr” – Alex Gordon (Medicine 2014-)

Postiwyd ar 28 Mehefin 2018 gan Jon Barnes (BA 2007)

Mewn un ffordd neu'i gilydd rwyf i wedi bod yn rhan o'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) ers 2012, ar ôl dechrau fy ngyrfa fel Nyrs Cynorthwyol cyn dechrau astudio yn Ysgol Meddygaeth Caerdydd.

Beth oedd y gig gorau i chi ei weld yn ystod eich amser ym Mhrifysgol Caerdydd?

Beth oedd y gig gorau i chi ei weld yn ystod eich amser ym Mhrifysgol Caerdydd?

Postiwyd ar 22 Mehefin 2018 gan Jon Barnes (BA 2007)

Pan ddewch i’r brifysgol, dyw eich addysg ddim yn dechrau ac yn gorffen wrth ddrws y theatr ddarlithio. I lawer ohonom ni, roedd dod i Gaerdydd yn ddechrau ar chwyldro cerddorol – a thrac sain ein cyfnod yn y brifysgol wedi’i liwio gan ba bynnag fandiau oedd yn digwydd bod yn pasio drwy Undeb y Myfyrwyr ar y pryd.

Pam rwy’n rhedeg: Stori #TeamCardiff Nicola

Pam rwy’n rhedeg: Stori #TeamCardiff Nicola

Postiwyd ar 4 Mehefin 2018 gan Jon Barnes (BA 2007)

Mae rhedwyr #TeamCardiff eisoes yn paratoi ar gyfer Hanner Marathon Caerdydd / Prifysgol Caerdydd. Fe wnaethom ofyn i Nicola Benallick, aelod o staff Prifysgol Caerdydd – ac un o aelodau #TeamCardiff am y trydydd tro – ddweud ychydig yn rhagor wrthym pam mae’n rhedeg a sut mae’n paratoi.