Nature and Nurture: neuroscience and mental health research on display
22 Mai 2018Roedd Prifysgol Caerdydd wrth ei bodd yr wythnos ddiwethaf i gael ymweld â’r Gymdeithas Frenhinol yn Llundain a chyflwyno ‘Nature and Nurture? Mining the human genome for mental health discoveries’, arddangosiad o ymchwil niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl sy’n flaenllaw drwy’r byd, i gynulleidfa eang o gyn-fyfyrwyr, gwesteion a’r cyhoedd.
Yr her
Cyflwynodd yr Is-Ganghellor yr Athro Colin Riordan y maes ymchwil fel un lle’r oedd “Caerdydd yn iawn i ddweud ein bod yn ‘taflu ein pwysau y tu ôl i hyn’,” safbwynt a ategwyd gan yr Athro Syr Mike Owen, Cyfarwyddwr Emeritws Sefydliad Ymchwil y Niwrowyddorau ac Iechyd Meddwl Caerdydd (NMHRI).
Dywedodd fod iechyd meddwl yn cyfrif am bump o’r deg cyflwr a restrir ar y Baich Clefyd Byd-eang, gan effeithio ar y cylch bywyd cyflawn: anhwylderau niwroddatblygol (ar oedran cynnar), seicosis ac anhwylderau affeithiol mawr (oedolion) ac anhwylderau niwroddirywiol (henoed).
Yn waeth fyth, “ychydig o ddatblygiad a welwyd o ran triniaethau mewn seiciatreg dros y pedair degawd ddiwethaf”.
Cloddio’r genom
“Bellach,” dywedodd Syr Mike, “rydym ni’n gwneud cynnydd gwirioneddol.” Wrth graidd hyn mae gwaith blaenllaw Caerdydd ar ddeall geneteg a hefyd genomeg, sef y deunydd a geir mewn organeb fyw. Drwy fabwysiadu dull cyfannol, roedd y Brifysgol eisoes wedi nodi ffactorau risg ar gyfer sgitsoffrenia, anhwylder deubegynnol, ADHD a chlefyd Alzheimer.
Daeth yr Athro Jeremy Hall (Cyfarwyddwr NMHRI) i’r blaen i bwysleisio bod yr ymennydd wedi’i gynllunio i ddod dan effaith ffactorau amgylcheddol. “Mewn rhai ffyrdd,” dywedodd “byddai’n syndod pe na bai eich ugeiniau a’ch tridegau’n effeithio ar eich iechyd meddwl.”
Y wir broblem gyda’r ymennydd oedd ei fod yn anhygyrch, dywedodd. Ni allwn nodi’n union eto pa ffactorau genetig a genomig sydd wrth wraidd ein hiechyd meddwl, ac adlewyrchir hynny yn llwyddiant cymysg ein meddyginiaethau.
Strategaeth Caerdydd
Caiff cyfrinachau cudd yr ymennydd eu datgelu’n rhannol o leiaf drwy bŵer y sganiwr MRI 3T Connectom (“sy’n cyfateb i long danfor niwclear”) yng Nghanolfan Ymchwil Delweddu’r Ymennydd ym Mhrifysgol Caerdydd. “Y cyfleuster gorau o’i fath yn Ewrop mae’n debyg,” meddai’r Athro Hall.
Mae’r Ganolfan, a agorwyd gan Ei Mawrhydi y Frenhines yn 2016, yn datrys un o anawsterau diagnostig traddodiadol iechyd meddwl: tra bo ymweliad â’r meddyg teulu’n gallu rhoi diagnosis o beswch fel symptom o niwmonia gan arwain at ragnodi triniaeth yn unol â hynny, bernir mai achos iselder yw: iselder.
Wrth allu cael mynediad i’r ymennydd na welwyd ei debyg o’r blaen, gall Caerdydd wneud cynnydd wrth wneud diagnosis o achosion sylfaenol y symptom a chyfrannu at driniaethau wedi’u targedu. “Rydym ni’n gwneud cynnydd ar faterion oedd yn ymddangos yn annealladwy yn fy oes i,” dywedodd, wrth gyfeirio at ddatblygiadau yn nhriniaeth syndrom Rett.
Dyfodol iechyd meddwl
Ymunodd Cyfarwyddwr Ymchwil MQ Dr Sophie Dix (PhD 2001) â’r academyddion o Gaerdydd am sesiwn holi ac ateb, a soniodd am ei balchder yn graddio o sefydliad â’r fath fri cynyddol byd-eang – a’r ffaith fod Caerdydd yn ymrwymo cymaint i faes ymchwil sydd yn hanesyddol wedi bod yn brin o adnoddau. “Rhaid i rywun wneud hyn,” dywedodd.
Pan ofynnwyd iddi am ei dymuniad o ran cyfeiriad ymchwil y dyfodol, cyfeiriodd Dr Dix yn ôl at sleid Syr Mike yn dangos bod problemau iechyd meddwl wrth graidd y Baich Clefydau Byd-eang, a soniodd am ei hawydd i’w weld yn cael ei drin felly gan bob rhanddeiliad yn y diwydiant ymchwil meddygol.
“Fy un dymuniad fyddai sicrhau cydraddoldeb,” dywedodd. “Cydraddoldeb gyda phob cyflwr arall ar bob lefel: cyllido, ymchwil a thriniaethau.”
Fel y byddai pawb a ymunodd â ni yn Llundain yn tystio, mae’n ddymuniad y mae Caerdydd yn gweithio’n galed i’w wireddu.
- Ionawr 2025
- Hydref 2024
- Medi 2024
- Awst 2024
- Gorffennaf 2024
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Mawrth 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018