Gwersi mewn bywyd gan Leonardo da Vinci – I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr
14 Gorffennaf 2021Mae Rose Sgueglia (BA 2008, PGDip 2009) yn awdur, newyddiadurwr ac ymgynghorydd marchnata wedi’i lleoli yng Nghaerdydd. Sefydlodd Miss Squiggles, cylchgrawn digidol ac asiantaeth marchnata cynnwys ac mae ei gwaith wedi’i gyhoeddi yn GQ, La Repubblica, Yahoo a WI Life. Yma mae hi’n disgrifio’r gwersi bywyd annisgwyl a ddysgodd gan ddyn a oedd yn byw dros 500 mlynedd yn ôl.
Os yw’r pandemig hwn wedi dysgu unrhyw beth i ni, os dymunwn, gallwn archwilio ac ymddiddori mewn amrywiaeth o bethau. O bobyddion bara banana i gariad newydd at yr awyr agored, a gyrfaoedd newydd sbon yn dilyn angerdd yn hytrach na dyletswyddau, mae’r flwyddyn ddiwethaf hon wedi dangos i ni, os nad ydym yn hoffi pwy ydym ni, lle’r ydym ni, neu’r hyn yr ydym yn ei wneud gyda’n bywydau, gallwn symud, newid ac esblygu.
Arloesodd Leonardo da Vinci y cysyniad hwn fwy na 500 mlynedd yn ôl. Roedd yn dalentog, yn glyfar a gyda meddwl chwyldroadol, ac eto roedd yn un o’r artistiaid mwyaf anghyson sydd wedi byw erioed …. neu a oedd e? Gellid dadlau ei fod yn hynod angerddol am wahanol bethau. Roedd yn mwynhau dysgu am gysyniadau newydd, hynod ddiddorol a byddai’n astudio am oriau maith.
Yn ôl yn 2019 pan ddechreuais ysgrifennu fy llyfr am y tro cyntaf, rwy’n cofio bod braidd yn ansicr am ei bersona a’i gymeriad. Roedd Leonardo yn wych mewn sawl ffordd, ond yn aml fe’i hystyriwyd yn ddifflach, yn anghyson ac yn anodd gweithio gyda fe. Er gwaethaf hyn, rwy’n medru uniaethu â Leonardo. Roedd yn wych ond eto dim ond person dynol ydoedd wedi’r cyfan. Yn ystod y cyfnod clo hir, cefais fy nghymell trwy ysgrifennu amdano, ei anturiaethau, ei ddarganfyddiadau a’i weithiau. Fe ddysgodd sawl gwers bywyd i mi
Fy hoff wersi bywyd gan Leonardo yw’r canlynol:
Peidiwch â bod ofn arbrofi
Hynny yw, rhowch gynnig ar wahanol bethau. Cymrwch amser i ddysgu a deall yr hyn rydych chi’n ei hoffi. Arlunydd, pensaer, awdur a pheiriannydd oedd Leonardo. Roedd hefyd yn gynllunydd tref, yn athronydd ac yn anatomegydd ymhlith sawl peth arall. Ef oedd dyn quintessential y Dadeni, rhywun a fyddai’n cymysgu ac yn paru gwahanol broffesiynau trwy fod yn anhygoel o graff ond hefyd trwy fod yn fyfyriwr yn gyntaf. Byddai’n rhoi cynnig ar unrhyw beth yr oedd yn apelio ato. Gellid ystyried bod hyn yn anymarferol heddiw ond gallai hynny ddatgloi rhai talentau nad ydym hyd yn oed wedi eu darganfod eto.
Sefydlwch grŵp cymorth
Nid oedd Leonardo yn arbennig o agos at ei deulu gwreiddiol, ond daeth ei ffrindiau’n deulu iddo a gyda nhw cafodd yr anturiaethau mwyaf rhyfeddol a’r prosiectau gwaith mwyaf diddorol. Gweithiodd gyda’r gwleidydd, awdur ac aelod arall o gyfnod y Dadeni, Niccolo Machiavelli ar strategaeth ar gyfer dargyfeirio Afon Arno. Fe wnaeth hyd yn oed agor bwyty gyda Sandro Botticelli yn Fflorens a symud i Ffrainc gyda Francesco Melzi, un o’i fyfyrwyr yr oedd yn ymddiried ynddo fwyaf.
Gweithio gyda mentor da
Roedd yr arlunydd a’r cerflunydd Andrea del Verrocchio yn fentor eithriadol i Leonardo da Vinci ac i sawl artist arall ar y pryd gan gynnwys Sandro Botticelli. Yn ôl y chwedl, ni chododd frwsh eto ar ôl gweld angel Leonardo wedi paentio yn un o’i weithiau.
Dywedwch na, yn amlach
Gwrthododd Leonardo gwblhau neu hyd yn oed ddechrau rhai o’i weithiau celf, gan gynnwys Brwydr enwog Anghiari. Ar gyfer y paentiad penodol hwn, roedd am arbrofi gyda thechneg lliw newydd wedi’i seilio ar gwyr, ond ni lwyddodd ei gynllun. Er gwaethaf maint y prosiect a chael sawl person yn ei erlid ac yn ceisio ei orfodi i orffen y prosiect, gwrthododd yn lân. Roedd yn ystyfnig, roedd ganddo bersonoliaeth gref a byddai’n gwrthod a chamu’n ôl pe bai’n penderfynu gwneud hynny.
Cydnabod yr ofn, ac yna ei wthio o’r neilltu
Yn ei nodiadau, mae Leonardo yn ysgrifennu am bennod benodol. Pan oedd yn ifanc, roedd ar goll yn anialwch Vinci (cartref ei blentyndod) ac ysgrifennodd am weld ogof dywyll. Cyfaddefodd ei ofn, nid oedd am fentro ac archwilio’r ogof gan nad oedd yn gwybod beth oedd wedi’i guddio y tu mewn, ac eto ni allai droi yn ôl a’i adael. Roedd e’n awyddus i ddysgu ac yn chwilfrydig tu hwnt. Yn ôl ei gyfnodolion, gwnaeth ddarganfod ffosil o forfil.
Nid oedd Leonardo yn ddyn perffaith, ac mae llawer yn credu ei fod yn fedrus am wastraffu amser yn hytrach nag yn athrylith angerddol. Er gwaethaf hyn, mae wedi rhoi syniadau gwerthfawr i fi am fywyd a dealltwriaeth ohonynt. Credaf yn gryf ei fod yn dipyn o’r ddau, a thrwy fod mor ddynol ac amherffaith, daeth yn anorchfygol. Pe bai wedi bod yn fwy cyson, byddai wedi ein gadael gyda nifer helaeth o weithiau celf ond, yn anffodus, dim ond llond llaw sydd gennym. Pe bai wedi bod yn fwy cyson, fodd bynnag, ni fyddai wedi bod yn Leonardo da Vinci.
Cyhoeddir llyfr newydd Rose, The Real Leonardo da Vinci, ym mis Awst 2021 a gallwch weld mwy o’i gwaith yma.
Dywedwch wrthym beth sy’n bwysig i chi
Rydym wedi cyflwyno ‘I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr’ gan nad oes neb yn adnabod ein cymuned o gynfyfyrwyr gystal â chi! Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych i gael eich syniadau ar gyfer erthyglau neu ddigwyddiadau ar-lein sydd o ddiddordeb i chi, neu rai y gallwch roi mewnwelediad iddynt, neu efallai mai CHI yw’r stori! Edrychwch ar ein rhestr lawn o erthyglau, a gwyliwch ein rhestr o ddigwyddiadau byw eto.
- Ionawr 2025
- Hydref 2024
- Medi 2024
- Awst 2024
- Gorffennaf 2024
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Mawrth 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018