Skip to main content

Newyddion

Y prawf llygaid sy’n mapio eich ymennydd

27 Tachwedd 2018

Menter sy’n cynnig cyllid sbarduno i ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa ym Mhrifysgol Caerdydd yw ‘arweinwyr ymchwil niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl y dyfodol.’ Mae rhoddion i’r fenter yn galluogi ymchwilwyr fel Dr Kathryn Peall i fesur symudiadau llygaid a fydd yn ei harwain at ran o’r ymennydd sy’n ymwneud ag anhwylder o’r enw dystonia.

Cyflwr nag ŵyr neb fawr amdano ac nad yw’n cael ei ddeall yn llawn yw dystonia. Mae’r symptomau’n cynnwys cyfangiadau poenus yn y cyhyrau sy’n para, yn ogystal â symudiadau a chryndodau annormal. Mae’r diffyg dealltwriaeth hwn yn ysgogydd mawr i Dr Kathryn Peall:

“A minnau’n glinigydd, rwy’n canfod fy hun yn ymddiheuro i gleifion am y wybodaeth gyfyngedig sy’n gysylltiedig â dystonia. Rwy’n rhoi diagnosis ohono, ond ar hyn o bryd mae’r driniaeth yn canolbwyntio ar y symptomau yn hytrach na gwraidd niwrolegol y broblem. Mae angen i ni gamu i’r adwy a gwneud rhywbeth.”

Wrth ymweld â’i chlinig, mae ei gwaith ymchwil yn ymddangos yn gyfarwydd, sy’n rhyfedd, oherwydd ei fod yn chwilio am ran gudd yn yr ymennydd sy’n achosi’r anhwylder niwrolegol hwn. Mewn gwirionedd, mae’n debyg i brawf llygaid eithaf safonol.

“Diolch i gyllid gan Arweinwyr y Dyfodol, rwy’n olrhain symudiadau cynnil mewn llygaid cleifion sydd â dystonia, ac yn defnyddio’r symudiadau hyn i ddod o hyd i’r man y mae dystonia’n tarddu ohono yn yr ymennydd. Dyma gam mawr ymlaen i ddata o ran y ffordd mae’r clefyd yn gweithio a sut y gallwn ei drin.”

Wrth siarad â chleifion dystonia sy’n cymryd rhan yn ei gwaith ymchwil, mae’n amlwg nad ymarfer casglu data yn unig yw hwn. I Rhiannon Gray, hap a damwain oedd cael diagnosis:

“Pan oeddwn i’n 35 ac yn feichiog gyda fy nhrydydd mhlentyn, dechreuais gael cryndod yn fy mraich chwith. Nid oedd y Meddyg Teulu yn gallu dod o hyd i ddiagnosis, ac nid oedd fy ffisiotherapydd yn deall chwaith o ble roedd y boen yn dod. Digwydd bod gwnaeth fy ffisio gyfarfod â niwrolegydd a oedd â diddordeb yn fy achos ac a oedd yn gallu rhoi diagnosis o ddystonia i mi mewn pum munud.”

Roedd cael diagnosis o ddystonia yn ei galluogi i reoli ei symptomau (meddyginiaethau megis botox a chyffuriau Parkinson yn cael eu defnyddio ar hyn o bryd) yn ogystal â’i hysgogi i feddwl am ddioddefwyr eraill yn ei theulu.

“Rwyf yn y drydedd genhedlaeth o’m teulu sy’n dioddef o hyn. Roedd gan fy nhad-cu glefyd niwronau motor ac mae fy mam wedi dioddef o gryndod ers iddi fod yn ei thridegau. Rwy’n ymwybodol iawn y gallai unrhyw un o’m mhlant ei gael hefyd.

“Mae bod yn rhan o ymchwil Dr Peall yn golygu fy mod i’n gwneud yr hyn a allaf i fy mhlant a’u plant nhw, i ddod o hyd i driniaethau gwell a ffyrdd o’i wella hyd yn oed.”

Nid yw Dr Peall yn anghofio am y cyswllt hwnnw gyda chleifion, a’r effaith ar eu bywydau a’u teuluoedd.

“Pan fydd cleifion yn dod o bellteroedd hir i gymryd rhan yn fy ngwaith ymchwil, yn daer i ddeall mwy am yr hyn sy’n digwydd iddynt, rwy’n cael fy nghymell gan yr effaith y bydd y prosiect hwn yn ei chael ar fywydau go iawn.”

Drwy gymorth rhoddwyr, mae Dr Peall yn credu’n gryf y bod yna obaith y bydd yr ymchwil yn gwneud cynnydd:

“Oherwydd y rhoddion gan Arweinwyr y Dyfodol rydym wedi sicrhau cyllid pellach i ddilyn yr arweiniad hwn. Rydym eisiau olrhain data am gwsg, a defnyddio delweddau o’r ymennydd i weld a yw ein canfyddiadau’n cyd-fynd â gweithgarwch yr ymennydd.”

“Rwy’n credu y cawn driniaeth well ar gyfer dystonia yn ystod fy oes.”

Gallwch gefnogi ymchwilwyr fel Dr Kathryn Peall drwy roi i Brifysgol Caerdydd, a nodi eich bod yn dymuno i’ch rhodd fynd tuag at niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl