Skip to main content

Cyswllt CaerdyddNewyddionStraeon cynfyfyrwyr

Gwobrau (tua)30 – ble maen nhw nawr?

26 Mai 2026

Bum mlynedd yn ôl, fe aethon ni ati i ddathlu cyn-fyfyrwyr Caerdydd sy’n gwneud gwahaniaeth – y rhai sy’n herio’r drefn, yr arloeswyr, y rhai sydd am newid pethau er gwell, y rhai sy’n barod i rebelio a’r torwyr ffiniau.

Ers hynny, rydym wedi cael dros 1,000 o enwebiadau (hyd yma) ac wedi cydnabod tua 150 o enillwyr rhagorol o 22 o wledydd a 21 o genhedloedd.

Ydych chi’n meddwl eich bod chi neu rywun rydych chi’n ei adnabod yn perthyn i’n carfan nesaf o gyn-fyfyrwyr (tua)30? Mae amser gennych chi o hyd i brofi hynny – cyflwynwch eich enwebiad cyn 21 Mehefin 2026.

Wrth inni nodi ein pumed flwyddyn o wobrau (tua)30, cawsom air â rhai o’n henillwyr blaenorol i weld beth maen nhw’n ei wneud erbyn hyn.

Will Hayward (BScEcon 2011, MA 2017)

Colofnydd yn The Guardian, golygydd The Will Hayward Newsletter, ac awdur sy’n archwilio gwleidyddiaeth, lle, a bywyd cyhoeddus.

Enillydd (tua)30 yn 2024

“Ers imi ennill y wobr mae fy nghwmni cyfryngau wedi tyfu’n sylweddol. Erbyn hyn, mae gennym dros 11k o danysgrifwyr, swyddfa, a sawl aelod o staff. Ar ben hynny, rydw i newydd ryddhau fy nhrydydd llyfr. “Who Cares About Wales”.

Mae’r cyfan yn teimlo’n eithaf swreal, i fod yn onest. Hyd yn oed nawr rydw i’n parhau i ddefnyddio’r sgiliau sylfaenol y gwnes i eu mireinio ym Mhrifysgol Caerdydd bob dydd yn rhan o fy nghwrs newyddiaduraeth.”

Roha Nadeem (MA 2022)

Gohebydd a newyddiadurwr chwaraeon, yn hyrwyddo dulliau adrodd straeon cynhwysol ac yn rhoi mwy o lais i bobl heb gynrychiolaeth ddigonol ym myd y cyfryngau chwaraeon.

Enillydd (tua)30 yn 2024

“Wrth edrych yn ôl, rwy’n falch o ddweud fy mod i wedi bod yn brysur gyda fy mhodlediad a chynnwys digidol. Ar hyn o bryd rwy’n gweithio ar Uwch-gynghrair Pacistan (PSL) ac yn creu cynnwys ar draws ystod o blatfformau o’i chwmpas. Ychydig fisoedd yn ôl, dechreuais weithio gyda Wisden – un o blatfformau criced mwyaf y DU yn ogystal â’r un mwyaf credadwy. Mae archwilio sut i bontio cysylltiadau rhwng Pacistan a’r DU drwy griced ac adrodd straeon wedi bod yn broses mor gyffrous. Mae fy sioe chwaraeon fyw ar PTV Sports, sianel wladwriaethol Pacistan, hefyd wedi bod yn fy nghadw’n brysur.”

Jack Collard (BSc 2021)

Cyd-sylfaenydd British Roundnet ac Uwch-gynllunydd yn Lichfields, yn cyfuno arloesedd ym myd chwaraeon â chynllunio trefol.

Enillydd Gwobr (tua)30 yn 2022

“Ers bod yn rhan o’r gwobrau (tua)30 yn 2022, mae fy ngwaith gwirfoddol yn arwain British Roundnet yn dal i ffynnu. Fe wnaethon ni gynnal pencampwriaethau y byd Roundnet 2024 yn Surrey yn llwyddiannus gyda thîm o 30 ac 800 o athletwyr yn bresennol o 34 o wledydd. Mae’r gamp wedi tyfu o ganlyniad, ac rydyn ni newydd lofnodi cytundeb nawdd gyda FatFace i helpu i hyrwyddo ein camp ymhellach fyth ar lefel y tîm cenedlaethol a’r lefel sylfaenol.

Rwyf hefyd yn dal i ddefnyddio fy ngradd o Brifysgol Caerdydd yn fawr yn fy swydd bob dydd a des i’n gynlluniwr tref siartredig gyda’r Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol ym mis Chwefror 2026.”

Sheilla Mamona (BSc 2016)

Hyfforddai gydag ITV News sy’n dilyn gyrfa gynyddol addawol ym maes gohebu a newyddiaduraeth sgrin.

Enillydd Gwobr (tua)30 yn 2022

“Ers derbyn fy Ngwobr (tua)30, rydw i wedi cael lle ar raglen hynod gystadleuol Hyfforddeiaeth ITV News, fel un o 12 a ddewiswyd o blith miloedd o ymgeiswyr. Ers hynny, rydw i wedi dechrau cynhyrchu a gohebu ar gyfer y teledu, ac mae nifer o eitemau wedi cael eu darlledu. Ar ben hynny, rydw i’n parhau i ganolbwyntio ar adrodd straeon sy’n cynrychioli pobl o liw yn well mewn newyddion prif ffrwd. Mae wedi bod yn gam cyffrous iawn i faes newyddiaduraeth y teledu, ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weld ba mor bell y medra i fynd.”

Sagnik Basu (MA 2019)

Crëwr a Chynhyrchydd Amlgyfrwng Gweithredol yn The Washington Post, yn cefnogi dulliau arloesol a arweinir gan grewyr ym meysydd y cyfryngau digidol ac adrodd straeon.

Enillydd (tua)30 yn 2024

“Rydw i bellach y Cynhyrchydd Gweithredol yn y Washington Post, ac yn arwain gwaith amlgyfrwng wrth gyflwyno safbwyntiau. Ceir cydnabyddiaeth gynyddol ym maes y cyfryngau prif ffrwd/traddodiadol bod angen iddyn nhw newid eu tactegau er mwyn aros yn berthnasol ar adeg pan fo crewyr mor ddylanwadol. Fy rôl i yw bod yn ddolen gyswllt yn y newid hwn. Rwy’n creu fy nghynnwys fy hun hefyd ar Instagram sy’n sefydlu fy mhresenoldeb newydd yn y cyfryngau. Rwy’n angerddol am greu gyrfa newydd imi fy hun, rhywbeth sydd wedi’i wneud gan entrepreneuriaid cyfryngau yn unig – y swyddog gweithredol sydd hefyd yn grëwr. Dw i’n hoffi creu ac mi fydda i bob amser yn gwneud hynny wrth helpu pobl a chwmnïau eraill.”

He (River) Huang (MA 2013)

Cyd-sylfaenydd PingPong Digital Ltd, yn defnyddio dulliau adrodd straeon gweledol i archwilio diwylliant, hunaniaeth, a safbwyntiau byd-eang.

Enillydd Gwobr (tua)30 yn 2023

“Ers derbyn y wobr yn 2023, rydw i a PingPong Digital wedi gallu cynnal momentwm ac ehangu’n sylweddol.

Carreg filltir rwy’n arbennig o falch ohoni yw cael Prifysgol Caerdydd (fy mhrifysgol fy hun!) fel cleient allweddol, gan arwain ei strategaeth marchnata digidol Tsieineaidd ac ymgysylltu â myfyrwyr.
Dros y ddwy flynedd diwethaf, rydym hefyd wedi ehangu ein maes gwaith y tu hwnt i addysg uwch, gan weithio gyda brandiau fel Uber Eats ac LNER i’w helpu i gyrraedd cynulleidfaoedd Tsieineaidd yn well a cheisio eu denu.

Yn fwyaf diweddar, rydym wedi bod yn paratoi pennod nesaf y busnes – gan ddefnyddio ein harbenigedd mewn marchnata trawsffiniol a’i gymhwyso i’r gwrthwyneb i gynorthwyo cwmnïau o Tsieina wrth iddyn nhw ehangu’n rhyngwladol drwy gynnig strategaethau wedi’u teilwra sy’n benodol i’r farchnad. Mae wedi bod yn daith gyffrous o ehangu, arallgyfeirio ac ailddiffinio sut mae marchnata trawsddiwylliannol yn gweithio.”

Maleena Awn (MSc 2017)

Cyfarwyddwr Gweithrediadau yn Meridian Maritime Services Ltd, yn arwain gweithrediadau strategol yn y sector morwrol.

Enillydd Gwobr (tua)30 yn 2025

“Mae wedi bod yn nifer o fisoedd hynod lwyddiannus ers ennill y Wobr (tua)30 y llynedd. Rwyf wedi cael y cyfle i helpu i yrru cydweithrediad rhyngwladol rhwng corff addysgol a chymdeithas forwrol ieuenctid. Y bwriad yw gwella mynediad at ddysgu, rhwydweithio a chyfleoedd i weithwyr proffesiynol morwrol ifanc ledled y byd. Mae gweld ei effaith wedi bod yn arbennig o werth chweil.

Ar ben hynny, rydw i wedi cael y fraint o fentora myfyrwyr y brifysgol sy’n dilyn llwybrau tebyg i’r rhai y gwnes i eu dilyn yn ystod fy amser yng Nghaerdydd. Mae cefnogi ac annog myfyrwyr wrth iddyn nhw ddod o hyd i’w ffordd o gwmpas eu hastudiaethau a’u gyrfaoedd cynnar wedi cwblhau’r cylch mewn modd gwirioneddol ystyrlon. Mae’r cyfnod cyffrous hwn o dwf, dysgu a chydweithio wedi bod yn fraint, ac rwy’n edrych ymlaen at yr hyn a ddaw yn y blynyddoedd i ddod.”

Sam MacGregor (BSc 2020) a Danni Diston (BA 2019)

DJs Radio 1 y BBC yn hyrwyddo diwylliant a chreadigrwydd drwy ddarlledu.

Enillwyr (tua)30 yn 2024 a’r cyflwynwyr yn 2025

“Pen-blwydd Hapus Gwobrau (tua)30! Roedd cael ein henwi’n enillwyr yn y categori Newyddiaduraeth a’r Cyfryngau yn 2024 yn anrhydedd enfawr, a phleser pur oedd cael y gwahoddiad i ddod yn ôl yn 2025 i gyflwyno’r digwyddiad! Mae Prifysgol Caerdydd yn golygu llawer inni gan mai yno y gwnaethon ni sioe radio gyda’n gilydd am y tro cyntaf. Ers ennill y wobr, rydym wedi cyrraedd llawer o gerrig milltir y tu hwnt i’r hyn yr oedden ni wedi gobeithio eu cyrraedd.

Mae’r rhain yn cynnwys darlledu ein sioe Weekend Afternoon arferol ar Radio 1 yn fyw o ŵyl Glastonbury a threulio haf 2025 yn cyflwyno’r slot Drive Time enwog (Mynd Adref) ar yr orsaf. Does gennym ni ddim bwriad gorffwys ar ein rhwyfau cyn bo hir! Mae Gwobrau (tua)30 yn noson sy’n llawn hwyl ac mae’n wych clywed am y pethau anhygoel y mae cyn-fyfyrwyr eraill wedi’u cyflawni a rhannu ein cariad at Gaerdydd”

Ydych chi wedi cael eich ysbrydoli ac am ymuno â’r criw unigryw o enillwyr (tua)30? Cyflwynwch eich cais ar gyfer gwobrau 2026 cyn 21 Mehefin.