Skip to main content

Cyswllt CaerdyddI Gynfyfyrwyr, Gan GynfyfyrwyrNewyddionStraeon cynfyfyrwyr

Rosacea a Chynrychiolaeth Asiaidd: datblygu ymwybyddiaeth gynhwysol o iechyd y croen

14 Chwefror 2025

Mae Dr Chloe Cheung (PgDip 2023, Dermatoleg Ymarferol 2024-) yn Feddyg Gofal Sylfaenol sydd â diddordeb arbennig mewn dermatoleg. Mae wedi sefydlu elusen y Gymdeithas Rosacea Asiaidd gyda grŵp o weithwyr proffesiynol amlddisgyblaethol i helpu cleifion sydd wedi cael diagnosis anghywir, fel ei mam.

Graddiais yn ddiweddar gyda diploma mewn Dermatoleg Ymarferol o Brifysgol Caerdydd. Sefydlais yn ddiweddar hefyd y Gymdeithas Rosacea Asiaidd, aelod newydd o Siambr Fasnach Prydain yn Tsieina. Gan ddefnyddio’r llwyfan hwn, rwy’n bwriadu datblygu addysg a rhoi cymorth seicolegol i bobl Asiaidd â rosacea – cyflwr croen cronig, y mae ei brif nodweddion yn cynnwys cochni yn yr wyneb, pibellau gwaed amlwg ac, mewn rhai achosion, smotiau tebyg i acne. Rwy’n credu, un diwrnod, na fydd neb yn cael llai o sylw oherwydd lliw eu croen.

Cafodd fy mam ei diagnosis gen i, ac iddi hi y mae’r gwaith rwy’n ei wneud. Hwyrach oherwydd ei blas ar win coch a’i hoffter o siocled o bryd i’w gilydd y datblygodd symptomau o rosacea. I ddechrau, cafodd y rhain eu diystyru’n symptomau ‘ecsema’, ‘alergeddau’ ac ‘anoddefiad i alcohol’, ond roedd y berthynas amserol yn teimlo’n ormod o gyd-ddigwyddiad. Felly, i fy mam y mae’r gwaith hwn, yn llafur cariad gan obeithio y gall y rheini sydd â’r un broblem fod yn rhan o gymuned cymorth ddiogel.

Yn draddodiadol, mae rosacea wedi bod yn gysylltiedig â phobl Cawcasaidd yn bennaf, sydd wedi arwain at ddiffyg ymchwil gynhwysfawr i’r ffordd y mae’n ymddangos mewn grwpiau ethnig eraill, yn bennaf ymhlith pobl Asiaidd. Mae’r bwlch o ran ymwybyddiaeth ddermatolegol ac addysg yn aml yn arwain at ddiagnosis anghywir a thriniaeth annigonol i bobl Asiaidd – mae fy mam yn un enghraifft.

Mae ein dealltwriaeth o rosacea mewn pobl Asiaidd yn aml yn gyfyngedig oherwydd cynrychiolaeth annigonol mewn astudiaethau clinigol. Gallai natur anghyffredin ymddangosiadol y cyflwr yn y boblogaeth Asiaidd gyfrannu at hyn, ond y gwir amdani yw bod rosacea’n gallu, ac yn cael, effaith ar unigolion o gefndir Asiaidd (er efallai mewn ffyrdd gwahanol). Er enghraifft, er bod cochni ymhlith symptomau arferol rosacea, gall fod yn anoddach ei weld ar groen tywyllach. Yn lle, gallai wyneb pobl fod yn cosi’n barhaus ac yn llosgi, ac mae’r symptomau hyn yn gallu cael eu camgymryd am gyflyrau eraill megis acne vulgaris neu ecsema.

Mae addysg yn chwarae rhan allweddol wrth fynd i’r afael â’r camsyniadau hyn. Felly, rwy’n cydnabod pwysigrwydd addysgu a grymuso cleifion yn fy ngwaith. Mae’r Gymdeithas Rosacea Asiaidd yn ceisio datblygu deunyddiau a gweithdai sy’n helpu cleifion i ddeall eu cyflwr, rheoli eu symptomau yn effeithiol a cheisio gofal addas. Rydyn ni hefyd yn bwriadu trefnu prosiectau ar y cyd â chymdeithasau ac elusennau lleol, gan gynnwys Hong Kong St John Ambulance.

Rwy’n ddiolchgar iawn am y sgiliau a’r wybodaeth y mae Prifysgol Caerdydd wedi’u rhoi i mi i gyflawni’r genhadaeth bwysig hon. Drwy roi cyfle i unigolion rannu eu profiadau a chysylltu ag eraill sy’n wynebu heriau tebyg, gallwn ni roi terfyn ar y tawelwch sy’n gysylltiedig â rosacea mewn cymunedau Asiaidd. Hefyd, drwy hybu gwaith ymchwil amrywiol a chreu rhwydwaith cefnogol, rydyn ni’n ymdrechu i godi safonau gofal.

Am ragor o wybodaeth a manylion cyfleoedd i gydweithio, gallwch chi ddilyn y Gymdeithas Rosacea Asiaidd yma a mynd i’w gwefan newydd yma.

Ydych chi’n barod i gysylltu â chyn-fyfyrwyr eraill o Brifysgol Caerdydd, fel Chloe? Ymunwch â’r rhwydwaith swyddogol ar LinkedIn.