
Mae Canolfan y Cyngor Ymchwil Feddygol ar gyfer Geneteg a Genomeg Niwroseiciatrig ym Mhrifysgol Caerdydd yn gyfleuster unigryw. Am ddegawd, mae wedi dod ag ymchwilwyr o’r radd flaenaf at ei gilydd i ymchwilio’r prif ffactorau cyfrannol tu ôl i faterion iechyd meddwl.
Er mwyn dynodi deng mlynedd o gyfraniadau arloesol i iechyd y cyhoedd yn y Ganolfan, fe wnaethom gynnal arddangosfa ymchwil arbennig: Ailystyried Salwch Meddwl. Dyma chwe pheth a ddysgon ni.
Ar ôl chwe degawd, mae yna botensial ar gyfer datblygiadau o ran triniaeth
Cyn y datblygiadau diweddar, roedd diffyg ymchwil wedi’i dargedu wedi arwain at driniaethau ar bresgripsiwn ar gyfer amryw o anhwylderau yn aros fwy neu lai yn ddinewid am dros hanner canrif.
Dim ond dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf y mae ymchwil geneteg debyg i honno a gynhelir yn y Brifysgol wedi meithrin gwell dealltwriaeth o ffactorau sy’n achosi afiechyd niwroseiciatrig, a nodi cynnydd newydd ar gyfer datblygu triniaethau newydd, yn ôl yr Athro Michael Owen.

Mae 80% o broblemau iechyd meddwl yn dod i’r amlwg cyn 25 oed
Datgelodd y seiciatrydd plant a’r glasoed, yr Athro Anita Thapar CBE (MBBCh 1985, PhD 1995) fod materion iechyd meddwl ymhlith pobl ifanc yn cael eu diystyru yn aml pan ddechreuodd hi arbenigo yn y 1990au cynnar.
O ganlyniad i welliannau mewn ymchwil, mae cydnabyddiaeth erbyn hyn fod pedwar o bob pum cyflwr iechyd meddwl yn dod i’r amlwg cyn cyrraedd 25 oed. Y canlyniad? Diagnosis cynt, a chanlyniadau gwell.

Mae anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD) yn gyflwr genynnol
Aeth yr Athro Thapar ymlaen i esbonio bod ADHD yn aml yn gyflwr sy’n cael ei gamddeall.
Cafodd ADHD ei gydnabod am y tro cyntaf ganrifoedd yn ôl, ac ond ei gategoreiddio’n fwy diweddar fel anhwylder niwroddatblygiadol. Mae dadansoddiad genetig a gynhaliwyd gan y Ganolfan wedi amlygu cyfraniad ffactorau risg genetig, a’r nodwedd o fod yn gorgyffwrdd ag awtistiaeth. Mae hynny’n herio camdybiaethau cyson am y cyflwr.
Gall seicosis leihau disgwyliad oes gan 20 mlynedd
Tra gall y rhan fwyaf o bobl sy’n profi seicosis wella, nydd y rhan fwyaf o achosion yn codi eto dros gwrs bywyd. Gall ffactorau bywyd sy’n gysylltiedig â’r cyflwr a thriniaethau sy’n bodoli eisoes (e.e. diet gwael, ysmygu’n drwm) gael effaith ddramatig ar ddisgwyliad oes.
Fel arfer, bydd person â seicosis yn marw 15-20 o flynyddoedd yn gynharach na rhywun heb y cyflwr, yn ôl yr Athro Owen. Mae ystadegyn o’r math yma yn darparu ysgogiad enfawr ar gyfer yr ymchwil a gynhelir yn y Brifysgol.
Samplau mwy o faint, gwell canlyniadau
Mae’r Athro James Walters (MSc 2005, PhD 2012) – a fydd yn cymryd yr awenau oddi wrth yr Athro Owen fel Cyfarwyddwr y Ganolfan – yn credu y gall datblygiadau’r dyfodol ddeillio, yn syml, o ehangu ein hymchwil.
Drwy ddyblu maint sampl mewn un astudiaeth i 70,000 (llai na Stadiwm Principality llawn), fe eglurodd, roedd ymchwilwyr yn y Brifysgol yn gallu nodi ffactorau risg genynnol newydd ar gyfer anhwylderau seicolegol.

Meddygaeth ‘fanwl’ yw’r dyfodol
Cred yr Athro Walters mai drwy gynyddu meintiau sampl, rhannu data a chamau dilyniannau ymhellach mewn dealltwriaethau biolegol ynghylch canlyniadau genetig, gallwn fynd ati i deilwra meddygaeth i gyfansoddiad genynnol unigryw pobl yn y ddeng mlynedd nesaf. Gall hyn arwain at ddiwedd ar y canlyniadau anrhagweladwy a’r sgîl-effeithiau sy’n gysylltiedig â thriniaethau ‘un math yn addas i bawb’.