Skip to main content

Blogiau diweddaraf

Meithrin Ymdeimlad o Berthyn yn y Gymuned Ddysgu

Meithrin Ymdeimlad o Berthyn yn y Gymuned Ddysgu

Postiwyd ar 14 Mai 2026 gan

Mae Fframwaith Addysg Gynhwysol Prifysgol Caerdydd yn pwysleisio rôl ganolog perthyn o fewn arfer cynhwysol, gan ei gysylltu â phresenoldeb, cyfranogiad a phrofiad ar hyd taith y myfyriwr.

‘Ymwneud â ni? Cofiwch ni’ – gweithio ar y cyd â’n myfyrwyr

‘Ymwneud â ni? Cofiwch ni’ – gweithio ar y cyd â’n myfyrwyr

Postiwyd ar 6 Mai 2026 gan

Mae Lisa Gallone, Swyddog Prosiectau Myfyrwyr, yn myfyrio ar arddangosfa’r posteri eleni ac yn tynnu sylw at gynllun Partneriaid Profiad y Myfyrwyr.

Addysg gynhwysol yn nhîm addysgu bydwreigiaeth Caerdydd

Addysg gynhwysol yn nhîm addysgu bydwreigiaeth Caerdydd

Postiwyd ar 30 Ebrill 2026 gan

Cyd-destun Yn 2023, dechreuon ni ddefnyddio pecyn cymorth Dad-drefedigaethu Addysg Fydwreigiaeth Coleg Brenhinol y Bydwragedd ym mhob rhan o’n rhaglen. Dyma oedd dechrau taith sydd wedi ein hannog i barhau […]

Ystyried lliwddallineb

Ystyried lliwddallineb

Postiwyd ar 28 Ebrill 2026 gan

Ysgrifennwyd y post blog hwn gan Jordan Lloyd, Dylunydd Dysgu yn nhîm Addysg Ddigidol yr Academi Dysgu ac Addysgu.

Dylunio Cyffredinol ar gyfer Dysgu ym Mhrifysgol Caerdydd: Dulliau ymarferol

Dylunio Cyffredinol ar gyfer Dysgu ym Mhrifysgol Caerdydd: Dulliau ymarferol

Postiwyd ar 27 Ebrill 2026 gan

Y cyd-destun   Mae Dylunio Cyffredinol ar gyfer Dysgu (UDL) yn cynnig fframwaith ar gyfer creu amgylcheddau dysgu sy’n diwallu anghenion pob myfyriwr mewn modd rhagweithiol. Wedi’i ddatblygu gan y Ganolfan Newid […]

Gwiriwch cyn i chi rannu: Defnyddio offer integredig i wella hygyrchedd

Gwiriwch cyn i chi rannu: Defnyddio offer integredig i wella hygyrchedd

Postiwyd ar 15 Ebrill 2026 gan ,

Ysgrifennwyd y blog hwn gan Heather Pennington ac Alex Stewart o'r Academi Dysgu ac Addysgu. Mae gwirwyr hygyrchedd wedi'u hymgorffori yn llawer o'r offer digidol rydych chi eisoes yn eu […]

Fy nhaith at ddod yn Brif Gymrawd

Fy nhaith at ddod yn Brif Gymrawd

Postiwyd ar 14 Ebrill 2026 gan Charlotte Tinnuche

Dr Emma Yhnell sy'n rhannu ei phrofiad o ddod yn Brif Gymrawd.

Cwis Heb Gwestiynau

Cwis Heb Gwestiynau

Postiwyd ar 30 Mawrth 2026 gan

Ysgrifennwyd gan Gemma Hackman, Technolegydd Dysgu yn yr Academi Dysgu ac Addysgu. Mae'n fore Llun oer, llwyd pan mae cwrdd â rhywun ar hap yn sbarduno syniad. Gyda choffi yn […]

Prif flog: Christabel Gono

Prif flog: Christabel Gono

Postiwyd ar 25 Mawrth 2026 gan

Prif flog: Christabel Gono Myfyriwr BSc Ffarmacoleg Feddygol Gwybodaeth am yr interniaeth Roedd fy interniaeth yn cynnwys cynllunio a chyflwyno gweithgareddau allgymorth cynhwysol gyda'r nod o feithrin ymddiriedaeth y cyhoedd […]

Addysg Gynhwysol ar gyfer Cyfiawnder Cymdeithasol a Thegwch

Addysg Gynhwysol ar gyfer Cyfiawnder Cymdeithasol a Thegwch

Postiwyd ar 24 Mawrth 2026 gan Rachel Johns

Mae addysgeg gynhwysol yn iterus, yn adfyfyriol ac yn canolbwyntio ar newid. Nid yn unig y mae’n gofyn i ni gefnogi myfyrwyr unigol, ond hefyd i gwestiynu'r systemau a'r arferion sy'n llunio eu profiad.   Ym mhob rhan o addysg uwch, mae sgyrsiau am gynhwysiant yn fwyfwy seiliedig ar syniadau o gydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol. Mae hyn yn golygu cydnabod nad yw ein hamgylcheddau dysgu yn bodoli mewn gwactod, fel y cyfryw. Maen nhw’n adlewyrchu strwythurau cymdeithasol ehangach sy'n rhoi mantais i rai myfyrwyr ac yn gadael eraill ar y cyrion. Nid byrdwn addysgeg gynhwysol, felly, yw cynnig cefnogaeth yn unig; y bwriad yw dylunio proses ddysgu sy’n fwriadol yn tarfu ar annhegwch ac yn ehangu cyfleoedd i gymryd rhan mewn modd ystyrlon.   I gydweithwyr ym Mhrifysgol Caerdydd, mae llawer o'r meddylfryd hwn yn gysylltiedig â'r gwaith ar Feddylfryd Cynhwysol a drafodir ym Mhecyn Cymorth Datblygu Addysg Caerdydd, sy'n ein gwahodd i feddwl am amrywiaeth, anghydraddoldeb a braint, ac i gydnabod ein rôl wrth lunio profiadau dysgu tecach.   Mae addysgeg gynhwysol yn dechrau gyda chwestiwn syml ond pwerus: I bwy mae'r dysgu hwn wedi'i gynllunio - a phwy y gallai ei eithrio'n anfwriadol?   Yn ymarferol, mae addysgeg gynhwysol yn cynnwys gwneud penderfyniadau dylunio sy'n rhagweld gwahaniaethau ac yn lleihau rhwystrau strwythurol. Gall hyn olygu:   Ystyried amrywiaeth i fod yn fantais academaidd, gan dynnu ar gefndiroedd a phrofiadau amrywiol myfyrwyr i gyfoethogi trafodaethau a chyd-adeiladu gwybodaeth.   Dylunio proses ddysgu, wedi'i ategu gan egwyddorion Dylunio Cyffredinol ar gyfer Dysgu (UDL), sy'n caniatáu sawl ffordd o ymwneud, ymateb a chyfrannu – gan gydnabod bod cymryd rhan yn cael ei siapio gan nifer o ffactorau gwahanol fel hyder, diwylliant, iaith, anabledd, a phrofiadau addysgol blaenorol.   Strwythuro cwricwlwm sy'n herio rhagfarn, mynd i'r afael â thangynrychiolaeth (e.e. mewn rhestrau darllen ac astudiaethau achos), ac archwilio'n feirniadol sut mae gwybodaeth yn cael ei chynhyrchu.   Creu amgylcheddau dysgu cyson, rhagweladwy, lle mae disgwyliadau'n glir, mae deunyddiau yn hygyrch ac ar gael ymlaen llaw, a lle mae gan fyfyrwyr ddewis o ran sut maen nhw'n ymwneud â gweithgareddau dysgu.   Mae'r syniadau hyn yn pwysleisio bod addysgeg gynhwysol yn berthynol yn y pen draw; y nod yw sut rydyn […]