Skip to main content

Fy nhaith at ddod yn Brif Gymrawd

14 Ebrill 2026
Portrait image

Dr Emma Yhnell sy’n rhannu ei phrofiad o ddod yn Brif Gymrawd.

Mae Prif Gymrodoriaeth Advance HE (PFHEA) yn cydnabod unigolion profiadol iawn y mae eu gwaith yn dangos arweinyddiaeth strategol barhaus mewn dysgu o ansawdd uchel, gydag effaith sy’n ymestyn ymhell y tu hwnt i’w cyd-destun eu hunain. Pan ddarllenais i’r disgrifiad am y tro cyntaf, fe oedais, oherwydd roedd yn teimlo’n eithaf brawychus. Dwi’n cofio meddwl tybed a oeddwn i’n barod i roi fy hun ymlaen ar y lefel honno.

Peidiwch â’ch diystyru eich hun

Mae PFHEA yn ddyfarniad mawreddog a gydnabyddir yn allanol. Roeddwn i eisoes yn meddu ar Gymrodoriaeth Uwch (SFHEA), felly dyma’r cam naturiol nesaf. Ac eto, roeddwn i’n dal i amau fy hun. Oeddwn i wir yn gweithio ar y lefel honno? Oedd gen i ddigon o dystiolaeth o effaith? Allwn i gyfiawnhau’r amser y byddai’n ei gymryd?

Ar ôl siarad â mentoriaid, cydweithwyr a ffrindiau, sylweddolais ei bod yn debygol nad y meini prawf oedd y rhwystr mwyaf wrth wneud cais am PFHEA, ond fi fy hun. Roeddwn i’n fy niystyru fy hun, ac roedd hynny braidd yn eironig i rywun sy’n treulio llawer o amser yn hyrwyddo eraill yn eu harweinyddiaeth a’u hannog i gydnabod eu cryfderau unigryw.

Rhoddais ffenestr fer i mi fy hun i ddrafftio pwyntiau bwled yn erbyn y meini prawf. Er mawr syndod i mi, roedd llawer mwy o dystiolaeth nag yr oeddwn i’n ei ddisgwyl. Roedd yr ymarfer yn ddefnyddiol; ysgogodd fi i beidio â phetruso a helpodd fi i fagu hyder. Penderfynais ei fod yn werth rhoi cynnig arni.

Yna, wrth gwrs, daeth bywyd i ymyrryd. Aeth pethau’n brysur a disgynnodd fy nghais oddi ar y rhestr o bethau i’w gwneud; roedd yn rhaid blaenoriaethu addysgu, marcio, gweinyddu a chymorth myfyrwyr. Mae’n gas gen i ddweud bod blwyddyn gyfan wedi mynd heibio cyn i ebost atgoffa awtomataidd lanio yn fy mewnflwch. Dyna’r hwb oedd ei angen arnaf i. Hefyd fe gefais i sgwrs bwysig gyda mentor a heriodd fi am y rhesymau pam roeddwn i’n ymgeisio. Anogodd fi i ystyried nid yn unig y cais ei hun, ond pam fy mod i’n ei wneud a beth roeddwn i’n dymuno ei gael o’r profiad. Daeth hynny’n drobwynt go iawn i mi flaenoriaethu ysgrifennu a bwrw iddi.

Meddwl pam

Newidiodd popeth ar ôl i mi feddwl pam. Fe ail-fframiodd fy ymagwedd a helpodd fi i flaenoriaethu. Nid gwneud cais am deitl neu gydnabyddiaeth allanol fawreddog yn unig oeddwn i. Er bod hynny’n bwysig, nid oedd yn uchel ar fy rhestr pam. Roeddwn i’n gwneud cais am fy mod i’n falch iawn o’r gwaith dwi wedi’i wneud.

Fel academydd sy’n canolbwyntio ar addysgu ac ysgolheictod, gall rhai pobl ystyried peth o’n gwaith yn anhraddodiadol ac weithiau hyd yn oed “ddim yn ddigon academaidd.” Roedd y PFHEA yn cynnig cyfle i wneud cais am gydnabyddiaeth allanol, ond yn bwysicach, roedd yn gyfle i mi fyfyrio ar arweinyddiaeth sylweddol sydd weithiau’n llai gweladwy, ond yr un mor effeithiol.

Nid cydnabyddiaeth allanol oedd yr unig gymhelliant, ond mae’n bwysig. Mae’n arwydd bod arweinyddiaeth addysgol yn cael ei pharchu y tu hwnt i’r bobl o’n cwmpas. Mae’n atgyfnerthu bod addysgu a dysgu’n ymrwymiadau ysgolheigaidd a strategol sy’n deilwng o sylw a chydnabyddiaeth ledled y sector.

Mae’r astudiaethau achos a ysgrifennais ar gyfer y PFHEA yn adlewyrchu’r hyn sy’n fy ysgogi: arweinyddiaeth ryngwladol ystyrlon o ran cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant mewn dysgu ac addysgu; ymgorffori EDI ar draws y sefydliad i wella addysg; ac arweinyddiaeth addysgol ddinesig a diwylliannol strategol ochr yn ochr â mentora ledled y sector.

Dwi bob amser wedi credu yng ngwerth dinesig dwfn Addysg Uwch. Trwy rolau allanol, gan gynnwys gweithio gyda Chymdeithas Niwrowyddoniaeth Prydain, Ffederasiwn Cymdeithasau Niwrowyddoniaeth Ewrop ac Amgueddfa Cymru, dwi wedi gweithio i sicrhau nad yw prifysgolion yn systemau caeedig. Dylai eu gwybodaeth, creadigrwydd ac arweinyddiaeth fod o fudd i gymdeithas yn ehangach, ac mae fy rolau arwain allanol bob amser wedi hyrwyddo hyn.

Nid yw cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn ychwanegion nac yn bethau dymunol yn unig. Maen nhw’n hollol sylfaenol i fy ngwaith. Maen nhw wedi’u hymgorffori ym mhopeth dwi’n ei wneud, o addysgu a mentora i arweinyddiaeth, llywodraethu a chyfathrebu gwyddoniaeth.

Y gwaddol rydych chi am ei adael

Efallai mai elfen fwyaf gwerth chweil fy ngwaith yw mentora. Mae’n fraint bod yn rhan o daith rhywun arall, gan wrando, herio’n adeiladol a chefnogi dilyniant mewn ffyrdd sy’n bwysig iddyn nhw, a’u helpu i deimlo eu bod yn cael eu gweld a’u clywed.

Roedd mentora yn rhan enfawr o fy nghais PFHEA. Mae’n fraint helpu eraill i gredu ynddyn nhw eu hunain; cynnig lle i fyfyrio a bod yn rhywun i ymddiried ynddo am gyngor a chefnogaeth. Mae llawer o gydweithwyr a myfyrwyr dwi wedi’u mentora bellach yn mentora pobl eraill. Nid yn unig hynny, ond maen nhw hefyd wedi mynd ymlaen i gyflawni pethau anhygoel. Maen nhw’n arwain mentrau, yn siapio diwylliannau ac yn dylanwadu ar eu cymunedau eu hunain mewn ffyrdd sy’n ymestyn ymhell ac yn eang. Mae’r effaith honno’n ystyrlon iawn, ac ydy, weithiau mae’n gwneud i mi deimlo’n hen, ond mae’n anrhydedd gweld eraill yn dysgu, yn symud ymlaen a newid y byd yn eu ffyrdd unigryw eu hunain.

Beth nesaf?

Mae cael PFHEA yn garreg filltir arwyddocaol yn fy ngyrfa. Mae’n cydnabod cyfraniad parhaus ac effaith strategol. Ond yn fwy tawel, cadarnhaodd rhywbeth nad oeddwn yn siŵr ohono wrth ddarllen y disgrifiad PFHEA hwnnw am y tro cyntaf: roeddwn i’n barod. Roeddwn i’n gweithio ar y lefel honno ac roedd gen i ddigon o dystiolaeth.

Mae arweinyddiaeth addysgol yn galw am feddwl strategol, dyfalbarhad a gostyngeiddrwydd. Mae hefyd angen bod â’r hyder i gamu ymlaen, rhoi cynnig ar rywbeth, rhoi eich hun ymlaen a pharhau i ddysgu’r un pryd.

Felly, y tro nesaf y byddwch chi’n darllen meini prawf ac yn meddwl tybed ydych chi’n barod, byddwn yn eich annog i oedi, myfyrio, ceisio cyngor gan ffrindiau, mentoriaid neu gydweithwyr ac, yn bwysicaf oll, i beidio â’ch diystyru eich hun yn rhy gyflym.