Cwis Heb Gwestiynau
30 Mawrth 2026
Ysgrifennwyd gan Gemma Hackman, Technolegydd Dysgu yn yr Academi Dysgu ac Addysgu.
Mae’n fore Llun oer, llwyd pan mae cwrdd â rhywun ar hap yn sbarduno syniad. Gyda choffi yn fy llaw a’m cot yn dyn amdanaf, rwy’n dechrau sgwrsio â rhywun yng nghanol y stryd – un o’r sgyrsiau hynny sy’n crwydro trwy bopeth a dim byd. Yn y pen draw, rydyn ni’n cyrraedd yr her oesol honno: sut ar wyneb y ddaear ydyn ni’n cael myfyrwyr i ymgysylltu yn yr ystafell ddosbarth?
Fe wnaethon ni siarad am y realiti cyfarwydd y mae llawer o addysgwyr yn ei wynebu, sef y wal o ddistawrwydd. Efallai y cewch chi ddau neu dri llais hyderus, ond mae’r mwyafrif yn aros yn dawel, yn cuddio y tu ôl i’r rhwystr anweledig hwnnw. Wrth gwrs, mae strategaethau amlwg i’w defnyddio: cwestiynau wedi’u cynllunio, gweithgareddau strwythuredig, arolygon barn parod. Ond dyw’r darlithydd o’m blaen ddim yn berson llym sy’n cynllunio popeth ymlaen llaw. Maen llawn egni, yn wych, yn frwdfrydig ac yn gwneud pethau ar hap. Byddai pecyn cwestiynau parod yn ei gyfyngu.
A dyna le cefais fflach o ysbrydoliaeth.
Beth pe gallen ni greu cwisiau byw… heb unrhyw gwestiynau o gwbl?
Mae’r syniad yn syml iawn, un sleid Mentimeter wag.
Gan ddefnyddio un côd QR parhaus ar eich sleidiau PowerPoint, un sy’n aros yr un fath drwy gydol sesiwn gyfan, gallwch chi ofyn unrhyw gwestiwn, ar unrhyw adeg, heb baratoi dim ymlaen llaw. Wrth i chi addysgu, rydych chi’n holi eich cwestiwn digymell, yn gwahodd myfyrwyr i sganio’r cod, ac yn gwylio eu hymatebion yn ymddangos yn ddienw mewn amser real. Dim dwylo i fyny, dim pwysau, dim wal o dawelwch.
Gyda llwybr byr bysellfwrdd cyflym (Alt + Tab), gallwch chi neidio o’ch PowerPoint yn syth i Mentimeter, edrych ar atebion y myfyrwyr, trafod y rhesymeg y tu ôl iddynt, ac yna clirio’r canlyniadau gydag un clic cyn neidio yn ôl i’ch sleidiau. Di-dor, hylifol, ac yn gwbl gyson â sut mae rhai darlithwyr yn addysgu’n naturiol.
A dyma un o fy hoff rannau o fod yn Dechnegydd Dysgu, sef dod o hyd i’r offeryn cywir ar gyfer y sefyllfa gywir a’r person cywir. Paru technoleg nid yn unig â thasg, ond ag arddull rhywun, eu cryfderau, a’r ffordd maen nhw’n addysgu’n naturiol – dyna pryd mae popeth yn gweithio gyda’i gilydd go iawn.
Ond mae’r hud go iawn yn digwydd yn y diwedd.
Gallwch chi ofyn i fyfyrwyr beth sy’n peri trafferth iddyn nhw, pa dermau allweddol maen nhw eisiau i chi eu hegluro, neu ba gysyniadau sydd angen eu hailystyried. Yna gellir lawrlwytho eu cyfraniadau dienw fel taenlen, a chael cipolwg dilys a chyflym o anghenion dysgwyr.
O’r fan honno mae’r broses hyd yn oed yn haws. Rhowch y rhestr yn Copilot i gynhyrchu diffiniadau, ac yna fformatio’r allbwn ar gyfer offer fel Quizlet y gellir eu hymgorffori’n uniongyrchol yn ein hamgylchedd dysgu rhithwir (VLE). O fewn munudau, rydych chi wedi creu gemau adolygu a chymhorthion astudio yn gwbl seiliedig ar yr hyn y dywedodd eich myfyrwyr chi eu bod eu hangen.
A hynny oll o gwis heb gwestiynau.
Weithiau mae fy syniadau gorau yn dod o foreau Llun llwyd, coffi cynnes, a sgwrs ar ymyl y ffordd.
Eisiau rhoi cynnig arni neu ddysgu rhagor?
Os hoffech chi ddysgu rhagor am y syniad hwn, rhoi cynnig arni eich hun neu sgwrsio am sut i droi eich rhinweddau addysgu eich hun yn atebion digidol, cysylltwch ag Arbenigwr Addysg Ddigidol. Rydyn ni wrth ein boddau’n helpu pobl i baru’r offer cywir â’r syniadau cywir a gwireddu’r syniadau hynny. Cysylltwch â ni drwy e-bostio [email protected]