Prif flog: Christabel Gono
25 Mawrth 2026
Prif flog: Christabel Gono
Myfyriwr BSc Ffarmacoleg Feddygol
Gwybodaeth am yr interniaeth
Roedd fy interniaeth yn cynnwys cynllunio a chyflwyno gweithgareddau allgymorth cynhwysol gyda’r nod o feithrin ymddiriedaeth y cyhoedd yn y ffordd mae data treialon clinigol yn cael ei ddefnyddio. Roedd y cyfle hwn yn golygu llawer i mi – nid yn unig yn fyfyriwr Ffarmacoleg Feddygol, ond yn rhywun sy’n angerddol am wneud gwyddoniaeth yn hygyrch, yn foesegol, ac yn rhywbeth sy’n canolbwyntio ar bobl.
Wrth weithio yn y Ganolfan Treialon Ymchwil i werthuso effaith digwyddiadau allgymorth yn y byd go iawn, roedd yn ddiddorol dysgu, tyfu a chyfrannu at brosiect sy’n dod â gofal iechyd, cyfathrebu ac ymddiriedaeth ynghyd.
Cyfleoedd
Fe ges i’r cyfle i fynd i’r Ŵyl Iechyd Digidol yn rhan o’m interniaeth – ac roedd yn brofiad mor werthfawr!
Wedi’i gynnal gan Ganolfan Iechyd Digidol LEAP ac Ymchwil Data Iechyd y DU (HDR UK), daeth y diwrnod â phobl sy’n gweithio ym meysydd ymchwil, polisi a thechnoleg ynghyd i drafod sut gallwn ni wneud data iechyd ac arloesedd digidol yn fwy cynhwysol, yn fwy effeithiol, ac yn rhywbeth sy’n canolbwyntio ar y claf yn fwy.
Fel rhywun sy’n gweithio ar brosiect ymgysylltu â’r cyhoedd sy’n trafod y defnydd o ddata mamolaeth arferol, roedd yn ysbrydoledig clywed gan eraill sy’n mynd i’r afael â heriau tebyg o ran tegwch, ymddiriedaeth a thryloywder mewn ymchwil iechyd.
Y profiad mwyaf diffiniol o’m interniaeth gyda’r Ganolfan Treialon Ymchwil oedd cynnal stondin ymgysylltu â’r cyhoedd yn y digwyddiad Bywydau Iach yn Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd!
Yn rhan o’m prosiect ar ymgysylltu cynhwysol ac amrywiol ynghylch data iechyd mamolaeth arferol, datblygais gyfres o weithgareddau rhyngweithiol wedi’u cynllunio i ennyn chwilfrydedd a sgwrs ynghylch sut mae data iechyd arferol yn cael ei ddefnyddio mewn treialon clinigol a pham mae cynrychiolaeth, ymddiriedaeth a hygyrchedd yn bwysig ym mhob cam.
Ymhlith y gweithgareddau roedd:
Jig-so enfawr i gael gwybod am hanes data arferol
Wal droi “Myth neu Ffaith” i herio rhagdybiaethau ynghylch defnyddio data iechyd
Senarios “Ditectif Data” lle’r oedd unigolion yn paru data â gwahanol fathau o ddata arferol.
Wal iaith ddwyieithog i fyfyrio ar dermau allweddol yn Saesneg a Chymraeg
Jariau tocynnau gwerthuso i gasglu adborth mewn ffordd weledol a hygyrch
Yn ystod fy interniaeth, dysgais i fod yn fwriadol ynglŷn â chynrychiolaeth ym mhob agwedd ar ymgysylltu â’r cyhoedd. Boed drwy ddewis delweddaeth gynhwysol ac amrywiol ar gyfer fy mhosau, neu drwy ddylunio gwahanol fformatau, megis jig-sos sy’n addas i blant neu fersiynau mwy manwl i oedolion, fy nod oedd creu pwyntiau mynediad ystyrlon i bob math o gynulleidfaoedd. Helpodd hyn i ehangu lefel ein sgyrsiau a’u math, gan sicrhau bod y gweithgareddau’n hygyrch ac yn ysgogi meddwl pawb a gymerodd ran.
Roedd yn brofiad mor werthfawr gweld teuluoedd, pobl ifanc, ac aelodau’r gymuned yn ymgysylltu â phynciau megis ymddiriedaeth, cydsynio, cynhwysiant, ac amrywiaeth data mewn ffordd greadigol ac ystyrlon. Tynnodd y digwyddiad hwn sylw at bwysigrwydd gwneud i ymchwil deimlo’n berthnasol, yn ddynol, ac yn groesawgar i bob cymuned – ac yn hwyl hefyd!
Heb os, dyma oedd y profiad mwyaf gwerth chweil o’r profiad wyth wythnos, rhywbeth roeddwn i wedi bod yn gweithio tuag ato ac yn edrych ymlaen ato o’r cychwyn cyntaf. Mae ei weld yn dod yn fyw, a gweld yr effaith a gafodd mewn amser real, wedi bod yn hynod foddhaol.
Digwyddiad arddangos posteri
Fe ges i’r cyfle i gyflwyno prosiect fy interniaeth dros yr haf o’r enw Ymwneud y Cyhoedd â Gwyddor Data Iechyd: Dylunio Allgymorth ar gyfer Effaith a Chynhwysedd yn nigwyddiad arddangos posteri Interniaethau ar y Campws gyda’r Ganolfan Treialon Ymchwil. Roedd yn brofiad mor werth chweil.
Roedd cyflwyno’r gwaith hwn yn yr arddangosfa wedi caniatáu i mi fyfyrio ar sut gall ymgysylltu ystyrlon a chynhwysol rymuso cymunedau a chryfhau hyder y cyhoedd mewn ymchwil iechyd. Roedd hefyd yn ysbrydoledig gweld yr ystod o brosiectau trawiadol a gafodd eu cyflwyno gan fyfyrwyr eraill.
Yr effaith
Drwy’r interniaeth hon, fe ges i gyfle hefyd i ddysgu rhagor am rôl data iechyd mamolaeth arferol a sut gall amlygu bylchau ac anghydraddoldebau mewn gofal. Mae ymgysylltu â’r gwaith hwn wedi fy ysbrydoli i ystyried opsiynau ôl-raddedig ym maes iechyd cyhoeddus a ffyrdd o wneud y maes hwn yn rhan o’m llwybr yn y dyfodol. Rwy’n arbennig o frwdfrydig i gyfrannu at wella canlyniadau mamolaeth i famau du a grwpiau mwyafrif byd-eang eraill, lle mae anghydraddoldebau clir yn dal i fodoli a lle mae angen newid ystyrlon ar frys.
Diolch yn fawr iawn i’m goruchwylwyr, Kim Munnery a Fiona Lugg- Widger, am eu cefnogaeth drwy gydol y prosiect, ac i Linda Adara am ei chymorth yn ystod y digwyddiad ymgysylltu â’r cyhoedd.