Addysg Gynhwysol ar gyfer Cyfiawnder Cymdeithasol a Thegwch
24 Mawrth 2026
Mae addysgeg gynhwysol yn iterus, yn adfyfyriol ac yn canolbwyntio ar newid. Nid yn unig y mae’n gofyn i ni gefnogi myfyrwyr unigol, ond hefyd i gwestiynu’r systemau a’r arferion sy’n llunio eu profiad.
Ym mhob rhan o addysg uwch, mae sgyrsiau am gynhwysiant yn fwyfwy seiliedig ar syniadau o gydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol. Mae hyn yn golygu cydnabod nad yw ein hamgylcheddau dysgu yn bodoli mewn gwactod, fel y cyfryw. Maen nhw’n adlewyrchu strwythurau cymdeithasol ehangach sy’n rhoi mantais i rai myfyrwyr ac yn gadael eraill ar y cyrion. Nid byrdwn addysgeg gynhwysol, felly, yw cynnig cefnogaeth yn unig; y bwriad yw dylunio proses ddysgu sy’n fwriadol yn tarfu ar annhegwch ac yn ehangu cyfleoedd i gymryd rhan mewn modd ystyrlon.
I gydweithwyr ym Mhrifysgol Caerdydd, mae llawer o’r meddylfryd hwn yn gysylltiedig â’r gwaith ar Feddylfryd Cynhwysol a drafodir ym Mhecyn Cymorth Datblygu Addysg Caerdydd, sy’n ein gwahodd i feddwl am amrywiaeth, anghydraddoldeb a braint, ac i gydnabod ein rôl wrth lunio profiadau dysgu tecach.
Mae addysgeg gynhwysol yn dechrau gyda chwestiwn syml ond pwerus: I bwy mae’r dysgu hwn wedi’i gynllunio – a phwy y gallai ei eithrio’n anfwriadol?
Yn ymarferol, mae addysgeg gynhwysol yn cynnwys gwneud penderfyniadau dylunio sy’n rhagweld gwahaniaethau ac yn lleihau rhwystrau strwythurol. Gall hyn olygu:
- Ystyried amrywiaeth i fod yn fantais academaidd, gan dynnu ar gefndiroedd a phrofiadau amrywiol myfyrwyr i gyfoethogi trafodaethau a chyd-adeiladu gwybodaeth.
- Dylunio proses ddysgu, wedi’i ategu gan egwyddorion Dylunio Cyffredinol ar gyfer Dysgu (UDL), sy’n caniatáu sawl ffordd o ymwneud, ymateb a chyfrannu – gan gydnabod bod cymryd rhan yn cael ei siapio gan nifer o ffactorau gwahanol fel hyder, diwylliant, iaith, anabledd, a phrofiadau addysgol blaenorol.
- Strwythuro cwricwlwm sy’n herio rhagfarn, mynd i’r afael â thangynrychiolaeth (e.e. mewn rhestrau darllen ac astudiaethau achos), ac archwilio’n feirniadol sut mae gwybodaeth yn cael ei chynhyrchu.
- Creu amgylcheddau dysgu cyson, rhagweladwy, lle mae disgwyliadau’n glir, mae deunyddiau yn hygyrch ac ar gael ymlaen llaw, a lle mae gan fyfyrwyr ddewis o ran sut maen nhw’n ymwneud â gweithgareddau dysgu.
Mae’r syniadau hyn yn pwysleisio bod addysgeg gynhwysol yn berthynol yn y pen draw; y nod yw sut rydyn ni’n dylunio, yn rhyngweithio, cyfathrebu ac yn gwneud lle i fyfyrwyr ddysgu mewn ffordd sy’n driw iddyn nhw ei hunain.
Mae llawer o ymchwil yn dangos bod myfyrwyr yn teimlo’n fwy abl i gyfrannu, yn fwy hyderus wrth ymdrin â disgwyliadau academaidd ac yn fwy cysylltiedig â’r gymuned ddysgu. Mae addysgeg gynhwysol yn helpu i sicrhau nad cefndir neu amgylchiadau sy’n sail i lwyddiant mewn addysg uwch. Yn hytrach, mae’n creu llwybrau hyblyg, tecach i bob myfyriwr gael ffynnu.
Yr hyn sy’n drawiadol yw bod y newidiadau lleiaf wrth ddylunio yn aml yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf, er enghraifft, defnyddio ystod ehangach o enghreifftiau, cynnig cyfarwyddiadau cliriach, neu greu cyfleoedd bwriadol i fyfyrwyr gael mynegi eu hunain. Does dim angen gwaith ailgynllunio sylweddol i gynnwys newidiadau hyn; yn syml iawn, maen nhw’n gofyn i ni ystyried ein hamgylcheddau dysgu drwy lygaid y sawl sy’n profi rhwystrau nad ydyn ni bob amser yn sylwi arnyn nhw.
Myfyrdodau / Beth sydd nesaf?
Fel addysgwyr, mae modd i ni i gyd gymryd camau er mwyn addysgu mewn modd sy’n fwy cyfiawn yn gymdeithasol. Gall hyn gynnwys ystyried gwybodaeth pwy sy’n ganolog yn eich disgyblaeth, gwirio lle byddai gofyn i fyfyrwyr ‘ddadgodio’ disgwyliadau ensynedig, neu wahodd myfyrwyr i roi adborth ynghylch pa mor hygyrch y mae’r broses ddysgu’n teimlo iddyn nhw.
Man cychwyn
Fel sbardun, i gael syniadau i lifo, dyma ychydig o gwestiynau i’ch helpu i fyfyrio ar yr agwedd hon ar addysg gynhwysol yn eich cyd-destun eich hun:
- Ar leisiau pwy ydych chi’n canolbwyntio arnyn nhw yn eich modiwl – a phwy sydd ar goll, o bosib?
Meddyliwch am awduron, enghreifftiau, astudiaethau achos a safbwyntiau. Oes cyfle i ehangu cynrychiolaeth mewn ffordd ystyrlon?
- Ble fyddai myfyrwyr o bosib yn wynebu rhwystrau tawel neu gudd?
Ystyriwch sefyllfaoedd lle mae cyfarwyddiadau yn teimlo’n amwys, lle mae disgwyliadau’n rhai ensynedig yn hytrach na’n eglur, neu pan fo cymryd rhan yn dibynnu ar fod yn hyderus, ar wybodaeth flaenorol neu fynediad at adnoddau penodol.
- Pa newid bach allai wneud cymryd rhan yn decach?
A fyddai modd i chi gynnig ffordd arall o ymwneud â gweithgaredd, cynnig ateb enghreifftiol, arafu’r cyflymder, cyflwyno dull meddwl-parau-rhannu, neu roi dewis i fyfyrwyr o ran sut maen nhw’n cyfrannu? Archwilir y syniadau hyn ymhellach ym Mhecyn Cymorth Datblygu Addysg Prifysgol Caerdydd ac ar wefan CAST.