Skip to main content
Rachel Johns

Rachel Johns


Postiadau blog diweddaraf

Ymgorffori Addysg Gynhwysol wrth Ddylunio Rhaglenni a Modiwlau

Postiwyd ar 8 Medi 2026 gan

Cyd-destun Mae ymgorffori arferion addysg gynhwysol ar lefel rhaglenni a modiwlau yn ganolog i greu amgylcheddau dysgu teg lle gall pob myfyriwr ffynnu. Yn y byd addysg uwch yng ngwledydd […]

Cyd-greu a Phartneriaeth ar gyfer Dysgu Cynhwysol

Cyd-greu a Phartneriaeth ar gyfer Dysgu Cynhwysol

Postiwyd ar 11 Awst 2026 gan

Mae'r cofnod blog hwn yn tynnu sylw at sut mae cyd-greu a phartneriaeth rhwng staff a myfyrwyr yn meithrin profiadau addysgol mwy cynhwysol, ymatebol a chyfartal trwy werthfawrogi lleisiau myfyrwyr, rhannu penderfyniadau, a sicrhau bod gan bob dysgwr gyfleoedd ystyrlon i lunio addysgu, dysgu a datblygu rhaglenni.

Datblygu Meddylfryd Cynhwysol – ymhlith staff a myfyrwyr

Datblygu Meddylfryd Cynhwysol – ymhlith staff a myfyrwyr

Postiwyd ar 19 Mehefin 2026 gan

Ysgrifennwyd gan y tîm Addysg Ddigidol.

Meithrin Ymdeimlad o Berthyn yn y Gymuned Ddysgu

Meithrin Ymdeimlad o Berthyn yn y Gymuned Ddysgu

Postiwyd ar 14 Mai 2026 gan

Mae Fframwaith Addysg Gynhwysol Prifysgol Caerdydd yn pwysleisio rôl ganolog perthyn o fewn arfer cynhwysol, gan ei gysylltu â phresenoldeb, cyfranogiad a phrofiad ar hyd taith y myfyriwr.

Addysg gynhwysol yn nhîm addysgu bydwreigiaeth Caerdydd

Addysg gynhwysol yn nhîm addysgu bydwreigiaeth Caerdydd

Postiwyd ar 30 Ebrill 2026 gan

Cyd-destun Yn 2023, dechreuon ni ddefnyddio pecyn cymorth Dad-drefedigaethu Addysg Fydwreigiaeth Coleg Brenhinol y Bydwragedd ym mhob rhan o’n rhaglen. Dyma oedd dechrau taith sydd wedi ein hannog i barhau […]

Dylunio Cyffredinol ar gyfer Dysgu ym Mhrifysgol Caerdydd: Dulliau ymarferol

Dylunio Cyffredinol ar gyfer Dysgu ym Mhrifysgol Caerdydd: Dulliau ymarferol

Postiwyd ar 27 Ebrill 2026 gan

Y cyd-destun   Mae Dylunio Cyffredinol ar gyfer Dysgu (UDL) yn cynnig fframwaith ar gyfer creu amgylcheddau dysgu sy’n diwallu anghenion pob myfyriwr mewn modd rhagweithiol. Wedi’i ddatblygu gan y Ganolfan Newid […]

Addysg Gynhwysol ar gyfer Cyfiawnder Cymdeithasol a Thegwch

Addysg Gynhwysol ar gyfer Cyfiawnder Cymdeithasol a Thegwch

Postiwyd ar 24 Mawrth 2026 gan Rachel Johns

Mae addysgeg gynhwysol yn iterus, yn adfyfyriol ac yn canolbwyntio ar newid. Nid yn unig y mae’n gofyn i ni gefnogi myfyrwyr unigol, ond hefyd i gwestiynu'r systemau a'r arferion sy'n llunio eu profiad.   Ym mhob rhan o addysg uwch, mae sgyrsiau am gynhwysiant yn fwyfwy seiliedig ar syniadau o gydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol. Mae hyn yn golygu cydnabod nad yw ein hamgylcheddau dysgu yn bodoli mewn gwactod, fel y cyfryw. Maen nhw’n adlewyrchu strwythurau cymdeithasol ehangach sy'n rhoi mantais i rai myfyrwyr ac yn gadael eraill ar y cyrion. Nid byrdwn addysgeg gynhwysol, felly, yw cynnig cefnogaeth yn unig; y bwriad yw dylunio proses ddysgu sy’n fwriadol yn tarfu ar annhegwch ac yn ehangu cyfleoedd i gymryd rhan mewn modd ystyrlon.   I gydweithwyr ym Mhrifysgol Caerdydd, mae llawer o'r meddylfryd hwn yn gysylltiedig â'r gwaith ar Feddylfryd Cynhwysol a drafodir ym Mhecyn Cymorth Datblygu Addysg Caerdydd, sy'n ein gwahodd i feddwl am amrywiaeth, anghydraddoldeb a braint, ac i gydnabod ein rôl wrth lunio profiadau dysgu tecach.   Mae addysgeg gynhwysol yn dechrau gyda chwestiwn syml ond pwerus: I bwy mae'r dysgu hwn wedi'i gynllunio - a phwy y gallai ei eithrio'n anfwriadol?   Yn ymarferol, mae addysgeg gynhwysol yn cynnwys gwneud penderfyniadau dylunio sy'n rhagweld gwahaniaethau ac yn lleihau rhwystrau strwythurol. Gall hyn olygu:   Ystyried amrywiaeth i fod yn fantais academaidd, gan dynnu ar gefndiroedd a phrofiadau amrywiol myfyrwyr i gyfoethogi trafodaethau a chyd-adeiladu gwybodaeth.   Dylunio proses ddysgu, wedi'i ategu gan egwyddorion Dylunio Cyffredinol ar gyfer Dysgu (UDL), sy'n caniatáu sawl ffordd o ymwneud, ymateb a chyfrannu – gan gydnabod bod cymryd rhan yn cael ei siapio gan nifer o ffactorau gwahanol fel hyder, diwylliant, iaith, anabledd, a phrofiadau addysgol blaenorol.   Strwythuro cwricwlwm sy'n herio rhagfarn, mynd i'r afael â thangynrychiolaeth (e.e. mewn rhestrau darllen ac astudiaethau achos), ac archwilio'n feirniadol sut mae gwybodaeth yn cael ei chynhyrchu.   Creu amgylcheddau dysgu cyson, rhagweladwy, lle mae disgwyliadau'n glir, mae deunyddiau yn hygyrch ac ar gael ymlaen llaw, a lle mae gan fyfyrwyr ddewis o ran sut maen nhw'n ymwneud â gweithgareddau dysgu.   Mae'r syniadau hyn yn pwysleisio bod addysgeg gynhwysol yn berthynol yn y pen draw; y nod yw sut rydyn […]

Deall Addysg Gynhwysol: Egwyddorion Allweddol i Ymarfer

Postiwyd ar 6 Mawrth 2026 gan

Y Cyd-destun Pan rydyn ni'n siarad am addysg gynhwysol, rydyn ni mewn gwirionedd yn sôn am gynllunio dysgu fel bod pob myfyriwr, waeth beth fo'i gefndir, ei hunaniaeth neu ei […]

Addysg Gynhwysol ym Mhrifysgol Caerdydd: Ein hymrwymiad i ddysgu ystyrlon, hygyrch i bawb

Postiwyd ar 26 Chwefror 2026 gan , ,

Ym Mhrifysgol Caerdydd, mae cynhwysiant yn ganolog i greu profiadau dysgu sy’n ystyrlon, yn berthnasol ac yn hygyrch i bawb. Mae ein dull gweithredu yn cael ei lunio gan waith Hockings’ (2010), sy’n disgrifio dysgu ac addysgu yn gynllunio addysgeg, y cwricwlwm ac asesu yn feddylgar er mwyn i bob myfyriwr allu cymryd rhan yn llawn ac elwa ar addysg uwch.