Skip to main content

Addysg Gynhwysol

Addysg gynhwysol yn nhîm addysgu bydwreigiaeth Caerdydd

30 Ebrill 2026

Cyd-destun

Yn 2023, dechreuon ni ddefnyddio pecyn cymorth Dad-drefedigaethu Addysg Fydwreigiaeth Coleg Brenhinol y Bydwragedd ym mhob rhan o’n rhaglen. Dyma oedd dechrau taith sydd wedi ein hannog i barhau i ddysgu, myfyrio ac ailfeddwl am y profiad a gynigiwn i’n myfyrwyr.

Mae dad-drefedigaethu a chynhwysiant wedi dod yn gynyddol bwysig ym maes bydwreigiaeth, yn enwedig wrth i ddata marwolaethau ymysg mamau’r DU barhau i ddangos bod menywod Du a Brown yn fwy tebygol o farw wrth roi genedigaeth na menywod Gwyn. Er bod y gwahaniaeth hwn wedi lleihau, mae’n parhau i fod yn bryder difrifol. Yn ogystal â hyn, fe wnaethom gydnabod bod diffyg amrywiaeth yn bodoli o fewn ein carfannau o fyfyrwyr. Fe’n hanogwyd gan y ffactorau hyn oll i wneud newidiadau gyda’r nod o ehangu cyfranogiad, gwella cynrychiolaeth yn y proffesiwn, a chefnogi canlyniadau gwell i fenywod o’r Mwyafrif Byd-eang.

Gweithredu

Mae llawer o’r newidiadau rydyn ni wedi’u gwneud yn rhai ymarferol ond yn rhai grymus. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod gan y manicinau a ddefnyddir mewn dysgu efelychol, ynghyd â’r delweddau a’r senarios clinigol a ddefnyddir mewn addysgu, ystod o liwiau croen a’u bod yn cynrychioli cefndiroedd diwylliannol gwahanol. Rydyn ni’n rhoi pwyslais arbennig ar roi cyfle i fyfyrwyr i adnabod dirywiad clinigol a newidiadau yn y croen mewn lliwiau croen gwahanol, fel bod modd iddyn nhw ymateb yn gyflym ac mewn modd sy’n briodol yn ymarferol.

Mae gweithio mewn partneriaeth â myfyrwyr yn ganolog i’r dull hwn. A ninnau’n dîm o addysgwyr benywaidd Gwyn, rydym yn cydnabod ein bod yn dysgu oddi wrth ein myfyrwyr bob dydd. Dim ond nhw sy’n gwybod yn iawn sut mae eu profiad dysgu yn teimlo, a thrwy feithrin perthnasoedd agored rhwng oedolion, rydym yn gallu gwrando, dysgu a gweithio gyda’n gilydd i lunio profiad sy’n ystyrlon, yn gefnogol ac yn ymateb i’w hanghenion.

Effaith

Mae ein ffordd o feddwl wedi ehangu o ganolbwyntio’n llwyr ar fyfyrwyr o’r Mwyafrif Byd-eang, i feddwl yn ehangach ynghylch pa mor gynhwysol yw ein rhaglen i bob dysgwr, gan gynnwys y sawl sy’n niwroamrywiol neu sydd ag anghenion ychwanegol, p’un a ydyn nhw wedi cael diagnosis ffurfiol ai peidio.

Un o’r canlyniadau mwyaf pendant fu’r newid ym mha mor amrywiol yw’r garfan. Er mai dim ond 3.3% o fyfyrwyr yn y drydedd flwyddyn bresennol sy’n nodi eu bod yn Ddu, yn Asiaidd neu o gefndir ethnig amrywiol, mae’r ffigur hwn wedi cynyddu i 15% yn ein carfan flwyddyn gyntaf bresennol – mae’n gynnar, ond dyma dystiolaeth galonogol bod newid ystyrlon yn mynd rhagddo.

Myfyrdodau / Beth sydd nesaf?

Mae cynhwysiant bellach yn rhan o bob sgwrs a gawn a phob penderfyniad a wnawn fel tîm. Ym mis Ebrill eleni, cawsom ddyfarniad Aur yng nghynllun achredu Cymhwysedd Diwylliannol Diverse Cymru—yr unig sefydliad i dderbyn dyfarniad Aur allan o fwy nag 20 o ymgeiswyr. Mae’r gydnabyddiaeth hon wedi rhoi bri ein gwaith ac wedi cryfhau ein hymrwymiad i adeiladu cymuned gynhwysol sy’n cefnogi pawb, gyda’r nod yn y pen draw o wella deilliannau i fenywod a babanod ledled Cymru.

Man cychwyn

Mae cynhwysiant a dad-drefedigaethu yn broses hir, a’r cam cyntaf yw penderfynu bod y gwaith hwn yn bwysig, a rhoi caniatâd i chi’ch hun ddechrau’r sgwrs – fel tîm, fel cymuned ehangach, a chyda myfyrwyr. Un peth defnyddiol i’w gofio yw nad oes rhaid datrys hyn ar eich pen eich hun. Mae llawer o waith ystyrlon eisoes yn digwydd, a gall cysylltu ag eraill sy’n rhannu’r diddordeb hwn fod yn ffordd wych o’ch annog i barhau â’r gwaith.