‘Ymwneud â ni? Cofiwch ni’ – gweithio ar y cyd â’n myfyrwyr
6 Mai 2026
Mae Lisa Gallone, Swyddog Prosiectau Myfyrwyr, yn myfyrio ar arddangosfa’r posteri eleni ac yn tynnu sylw at gynllun Partneriaid Profiad y Myfyrwyr.
Arddangosfa bosteri flynyddol
Ddydd Mercher, 29 Ebrill, mae tîm Llais y Myfyrwyr a Phartneriaeth yn yr Academi Dysgu ac Addysgu yn eich gwahodd i ddathlu a dysgu rhagor am y prosiectau ysbrydoledig ac arloesol y mae ein myfyrwyr wedi bod yn rhan ohonyn nhw eleni, a gweld sut mae partneriaethau’n helpu i lunio’r profiad dysgu i bawb.
Mae partneriaethau a ‑chreu ar y cyd wrth wraidd yr hyn rydyn ni’n ei wneud. Mae Partneriaid Profiad y Myfyrwyr yn cael eu talu i weithio ar y cyd â’r staff ar brosiectau sy’n dyfnhau ein dealltwriaeth o brofiadau bywyd myfyrwyr a’u hanghenion sy’n newid gyda threigl amser.
Roedd yr ymwelwyr i’r arddangosfa yn gallu darllen 20+ o bosteri sy’n cyfleu dim ond rhai o’r prosiectau y mae’r cynllun wedi’u cefnogi eleni. Roedd Partneriaid Profiad y Myfyrwyr wrth law i sgwrsio am eu gwaith a rhoddodd sawl un gyflwyniad am effaith ei brosiect.
Roedd y prosiectau eleni yn trin a thrafod pynciau sy’n bwysig i fyfyrwyr a staff fel ei gilydd – dyma’r pynciau
- Creu canllawiau deallusrwydd artiffisial (DA) ar y cyd i fyfyrwyr: Mae offer DA yn newid bywydau myfyrwyr yn gyflym, ond mae canllawiau’r Brifysgol wedi bod ar ei hôl hi ar adegau. Mae angen gwybodaeth glir, onest ac ymarferol ddefnyddiol ar fyfyrwyr: nid rheolau yn unig, ond enghreifftiau go iawn o sut i ddefnyddio DA yn foesegol ac yn effeithiol yn eu hastudiaethau a’u gyrfaoedd.
- Cwricwlwm y Dyfodol: Canolbwyntiodd y prosiect hwn ar gynllunio a gwerthuso modiwl Dyfodol arloesol, a fydd yn rhoi’r hyn sydd ei angen ar fyfyrwyr israddedig i fynd i’r afael â heriau cymhleth, rhyngddisgyblaethol sy’n canolbwyntio ar y dyfodol, a lles y dyfodol yn enwedig. Drwy ddysgu ar y cyd mewn gweithdai, bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau meddwl yn feirniadol a chreadigol, gan feddwl am y dyfodol a gweithio mewn tîm ac ymateb i heriau yn y byd go iawn.
- Deall a gwella ymgysylltiad myfyrwyr â gweithgareddau cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn yr Ysgol Cemeg: Nid bodloni fframwaith sefydliadol yn unig yw ailymgeisio am wobr Athena Swan, ond myfyrio ar ba mor gynhwysol, hygyrch ac ymatebol yw’r Ysgol yn ymarferol hefyd. Mae mewnbwn y myfyrwyr felly yn hollbwysig, gan fod hyn yn helpu i sicrhau bod profiadau byw yn sail i gamau gweithredu a blaenoriaethau yn hytrach na rhagdybiaethau yn unig.
Wrth agor y digwyddiad, dywedodd Elgan Hughes, Rheolwr Llais Myfyrwyr a Phartneriaeth, fod y cynllun wedi dod yn un o fecanweithiau mwyaf effeithiol a thrawsnewidiol y Brifysgol at ddibenion newid, nid dim ond yr hyn y mae’n ei ddarparu, ond yr hyn y mae’n ei ddatblygu, a pha mor ddwfn y mae’n newid y gwaith rydyn ni’r staff yn ei wneud.

Y siaradwr gwadd oedd yr Athro Amanda Tonks, Dirprwy Is-Ganghellor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr, a ddywedodd “Wrth galon y cyfan, dyma fodel partneriaeth sy’n mynd ymhell y tu hwnt i ymgynghori. Mae’n ymwneud â ‑chreu ar y cyd, ymddiriedaeth a chydnabod myfyrwyr sy’n cyfrannu’n fedrus at waith sefydliadol. Yr hyn y mae’r dystiolaeth bellach yn ei ddangos yn glir iawn yw bod y model hwn yn rhoi gwerth eithriadol mewn dau gyfeiriad ar unwaith: mae’n datblygu myfyrwyr yn weithwyr proffesiynol hyderus a galluog, ac ar ben hynny mae’n cryfhau prosiectau’r staff mewn ffyrdd a fyddai’n amhosibl heb brofiad bywyd myfyrwyr.”
Wrth gloi’r digwyddiad, cyflwynodd yr Athro Tonks Wobrau Cyfraniad Eithriadol i ddau fyfyriwr sydd wedi bod yn allweddol i’r cynllun am yr ychydig o flynyddoedd diwethaf, gan fynd yr ail filltir yn y rôl ac yn gwbl haeddiannol o’r gydnabyddiaeth hon am eu heffaith a’u proffesiynoldeb.
Sut clywoch chi am Gynllun Partneriaid Profiad y Myfyrwyr
Bob blwyddyn, mae tua 35 o Bartneriaid hyfforddedig Profiad y Myfyrwyr yn gweithio ledled y Brifysgol ar brosiectau go iawn a chymhleth – boed yn addysg ddigidol a DA, hygyrchedd, datblygu polisïau a newidiadau strategol. Nid ymarferion efelychu yw’r rhain. Dyma ddarnau byw o waith sy’n golygu cryn dipyn yn y pen draw‑, ac mae’r myfyrwyr yn gwybod bod eu mewnbwn yn bwysig.
Mae canlyniadau’r myfyrwyr yn glir: sgiliau cryfach, hyder cryfach a chyflogadwyedd cryfach ond yr hyn sydd yr un mor bwysig – ac weithiau’n llai gweladwy yn gyhoeddus – yw’r effaith ar brosiectau’r staff a’r ymarfer sefydliadol.
Aeth Mandy yn ei blaen, “Mae staff sy’n defnyddio’r cynllun yn dweud yn gyson bod gweithio gyda Phartneriaid Profiad y Myfyrwyr yn gwella safon eu gwaith. Nid yw partneriaid yn dilysu syniadau yn unig; maen nhw’n herio rhagdybiaethau, yn datgelu materion na fydd y staff hwyrach yn eu gweld ac yn helpu prosiectau i fod ynghlwm wrth realiti profiad y myfyrwyr.
Rydyn ni’n cael deall nad gwella ar hyd yr ymylon yw cynllun Partneriaid Profiad y Myfyrwyr. Dyma ased strategol. Mae’n datblygu myfyrwyr yn raddedigion hyderus a medrus tra’n cryfhau safon, cynwysoldeb ac effeithiolrwydd prosiectau sefydliadol ar yr un pryd. Mae’n creu diwylliant lle bydd myfyrwyr a staff yn gweithio gyda’i gilydd ar sail partneriaid, nid yn gyfochrog, a lle bydd profiad bywyd yn llunio’r gwaith o ‑wneud penderfyniadau mewn ffordd ystyrlon.
Ac efallai yn bwysicaf oll, mae’n dangos beth mae myfyrwyr yn gallu ei wneud pan rydyn ni’n rhoi cyfrifoldeb ystyrlon, cefnogaeth briodol a dylanwad go iawn iddyn nhw.”


Gwneud cais am y cynllun
Mae Partneriaid Profiad y Myfyrwyr yn cael eu talu am eu gwaith, a daw’r arian o’r Academi Dysgu ac Addysgu.
Mae ceisiadau i ddefnyddio’r cynllun ar gau am eleni ond bydd modd ymgeisio unwaith eto ym mis Gorffennaf.