Skip to main content

Addysg Gynhwysol

Meithrin Ymdeimlad o Berthyn yn y Gymuned Ddysgu

14 Mai 2026

Gweithredu  

Mae ymdeimlad cryf o berthyn –teimlo eu bod yn cael eu cydnabod, eu gwerthfawrogi a’u bod mewn cysylltiad – yn sail i ddyfalbarhad, lles a llwyddiant academaidd myfyrwyr. Mae Fframwaith Addysg Gynhwysol Prifysgol Caerdydd yn pwysleisio rôl ganolog perthyn o fewn arfer cynhwysol, gan ei gysylltu â phresenoldeb, cyfranogiad a phrofiad ar hyd taith y myfyriwr. Mae ymchwil hefyd yn dangos bod perthyn yn rhagfynegydd allweddol o gymhelliant a chyrhaeddiad, yn enwedig ar gyfer grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol (Meehan a Howells, 2017; Gillen-O’Neel, 2019).  

Mae Pecyn Cymorth Datblygu Addysg Caerdydd yn cysyniadoli ymdeimlad o berthyn drwy fabwysiadu’r syniad o greu ‘cynefin’.   

Mae’r persbectif hwn yn gwahodd addysgwyr i fyfyrio ar sut y gall systemau sefydliadol, amgylcheddau dysgu ac arferion academaidd bob dydd naill ai feithrin neu danseilio ymdeimlad myfyrwyr o deimlo’n gartrefol yn ein mannau dysgu.

Implementation 

Mae meithrin ymdeimlad o berthyn yn gofyn am sylw i dri dimensiwn cydgysylltiedig; presenoldeb, cyfranogiad a phrofiad, a  gall pob un ohonyn nhw gael ei llywio gan rwystrau gweladwy ac anweledig.  

  1. Mae presenoldeb yn cyfeirio at allu myfyrwyr i gael mynediad at amgylcheddau dysgu mewn ffyrdd sy’n teimlo’n ddiogel ac yn groesawgar. Mae hyn yn tynnu sylw at effaith pontio (i mewn, er, ac allan o’r brifysgol) – lle gall perthnasoedd ac ymgysylltiad annog hyder a lleihau ansicrwydd (Thomas, 2012). Gall dylunio sy’n cyd-fynd â Dylunio Cyffredinol ar gyfer Dysgu (UDL), fel darparu sawl dull o ymgysylltu a chynnig gweithgareddau hyblyg, sicrhau y gall dysgwyr amrywiol ymgartrefu yn eu cymuned academaidd – o’r cychwyn cyntaf.   
  2.  Mae cymryd rhan yn cynnwys creu cyfleoedd ystyrlon i fyfyrwyr gyfrannu at ddysgu. Pan fydd cyd-greu wedi’i wreiddio, mae myfyrwyr yn datblygu perchnogaeth, cysylltiad ac ymgysylltiad cryfach. Mae dulliau sy’n ymatebol yn ddiwylliannol (sy’n cydnabod hunaniaethau a phrofiadau amrywiol myfyrwyr) yn helpu i sicrhau bod cyfranogiad yn deg i bawb.
  3. Mae profiad yn cwmpasu rhyngweithiadau o ddydd i ddydd myfyrwyr â’r cwricwlwm, staff a chyfoedion. Mae ysgolheictod yn arwydd y gall rhwystrau fel y cwricwlwm cudd (rheolau cudd, normau a disgwyliadau) peri anfantais anghymesur i fyfyrwyr niwroamrywiol, rhyngwladol a chenhedlaeth gyntaf. Mae gwneud disgwyliadau’n dryloyw ac egluro arferion academaidd yn glir yn helpu myfyrwyr i lywio bywyd prifysgol heb ofni gwneud camgymeriadau.   

Effaith  

Mae creu amodau ar gyfer perthyn yn cael effaith amrywiolmwy o ymgysylltiadperthnasoedd dysgu cryfach a gallu i gadw myfyrwyr. Mae ymchwil yn tynnu sylw at y ffaith bod perthyn yn hybu cymhelliant academaidd ac yn cyfrannu at brofiad cadarnhaol myfyrwyryn enwedig pan fydd cynrychiolaethcroestoriadedd a llais wedi’u hymgorffori ar draws arferion addysgu a chefnogi.   

Myfyrdodau / Beth sydd nesaf 

Mae perthyn yn cael ei feithrin trwy ymarfer bwriadolperthynol a myfyriol. Gall addysgwyr ddechrau drwy ofyn 

  • Pa ragdybiaethau sydd wedi’u hymgorffori yn fy modiwl nad yw rhai myfyrwyr o bosibl yn eu rhannu 
  • Ble gallai cyfranogiad ddibynnu ar hyderbod yn gyfarwydd yn ddiwylliannol neu fod â gwybodaeth fewnol 
  • Sut alla i ddangos bod pob hunaniaeth a safbwynt yn cael eu gwerthfawrogi yn y lle hwn 

Gall newidiadau bach fel cyfarwyddiadau cliriachprosesau tryloywllwybrau cyfranogiad amrywiol a phartneriaeth weithredol â myfyrwyr wella ymdeimlad o berthyn 

 

Man cychwyn  

ysgogi syniadaudyma ambell gwestiwn i’ch helpu i feddwl am yr agwedd hon o addysg gynhwysol yn eich cyd-destun chi:  

  • Creu amgylcheddau dysgu croesawgar a rhagweladwy. Cynnig cyfarwyddiadau clirdeunyddiau hygyrch, a disgwyliadau tryloyw er mwyn i fyfyrwyr wybod beth i’w ddisgwyl a medru ymgysylltu’n hyderus o’r dechrau 
  • Ehangu beth yw cyfranogiad ystyrlon. Cynnig sawl ffordd i fyfyrwyr gyfrannu (ar lafaryn ysgrifenedigyn ddigidol neu ar y cyd) a gwneud cyd-greu yn rhan arferol o’ch ymarfer i gryfhau perchnogaeth ac ymgysylltiad 
  • Gwneud y cwricwlwm cudd yn weladwyEgluro’r normaumeini prawf a chonfensiynau academaidd yn benodol gan nad yw rhai myfyrwyr o bosibl yn gyfarwydd â nhwRhannu enghreifftiau o waith da ac esbonio’r disgwyliadau.
  • Gwerthfawrogi hunaniaethau a phrofiadau bywyd myfyrwyr. Dewis enghreifftiauastudiaethau achos a gweithgareddau sy’n adlewyrchu cefndiroedd amrywiol, a gwahodd myfyrwyr i ddod â’u safbwyntiau i ddysgu mewn ffyrdd sy’n teimlo’n ddilys ac yn ddiogel 

Cyfeirnodi

Prifysgol CaerdyddPecyn Cymorth Datblygu Addysg – Meithrin ymdeimlad o berthyn i bob myfyriwrAr gael ynhttps://sites.cardiff.ac.uk/education-development-toolkit/cy/trosolwg-or-themau/cynwysoldeb/meithrin-ymdeimlad-o-berthyn-i-bob-myfyriwr/   

Gillen-O’Neel, C., 2019. Sense of belonging and its link to students’ academic motivation, engagement, and achievement. Educational Psychology, 34(4), pp. 410-425. 

Meehan, C., and Howells, K., 2017. The importance of belonging for student engagement. Student Success, 8(2), pp. 111-119. 

Meehan, C., and Howells, K. 2019. In search of the feeling of ‘belonging’ in higher education: Undergraduate students’ transition into higher education. Journal of Further and Higher Education, 43(10), 1376–1390. https://doi.org/10.1080/0309877X.2018.1490702