Skip to main content

Addysg Ddigidol

Defnyddio Tablau Hygyrch mewn Dogfennau

20 Mai 2026
Computer graphic

Ysgrifennwyd y blog hwn gan Heather Pennington ac Alex Stewart o’r Academi Dysgu ac Addysgu.

Tablau yw’r ffordd gyflymaf o gyflwyno gwybodaeth yn aml, p’un a ydych chi’n crynhoi canfyddiadau, yn cymharu opsiynau, neu’n llunio amserlen. Ond heb ychydig o ofal, gall tablau fod yn anodd i rai defnyddwyr eu llywio, yn enwedig i gydweithwyr a myfyrwyr sy’n defnyddio rhaglenni darllen sgrîn neu fysellfwrdd yn unig.

Y newyddion da? Gall ychydig o arferion syml wneud tablau’n llawer mwy hygyrch a chynhwysol. Dyma awgrymiadau ymarferol y gallwch chi ddechrau eu defnyddio ar unwaith.

Defnyddio penawdau yn effeithiol 

Mae penawdau clir yn ei gwneud hi’n llawer haws i bawb ddeall tablau. Maen nhw hefyd yn caniatáu i raglenni darllen sgrîn ddarllen y strwythur yn gywir.

I wneud eich tablau’n fwy hygyrch: 

  • defnyddiwch benawdau colofnau a rhesi i labelu gwybodaeth yn glir
  • defnyddiwch offer fformatio pennawd sydd wedi’u cynnwys (e.e. Pennawd y Rhes yn Word/Excel) yn hytrach na rhoi testun mewn print trwm â llaw
  • cadwch geiriad y pennawd yn fyr ac yn ddisgrifiadol

Mae’r camau bach hyn yn gwneud gwahaniaeth mawr i ddefnyddwyr sy’n dibynnu ar raglenni darllen sgrîn i ddeall cyd-destun y data

Osgoi celloedd wedi’u cyfuno 

Er y gall celloedd wedi’u cyfuno ymddangos yn daclus yn weledol neu’n ddefnyddiol i grwpio data sy’n gysylltiedig, gallan nhw effeithio’n anfwriadol ar ddefnyddioldeb a hygyrchedd tablau yn enwedig i’r rhai sy’n defnyddio technolegau cynorthwyol. Er enghraifft, gall celloedd wedi’u cyfuno:

  • arwain rhaglenni darllen sgrîn i gamddehongli strwythur y tabl, gan hepgor cynnwys pwysig o bosibl neu ei ddarllen allan o drefn
  • gymhlethu llywio’r bysellfwrdd, yn enwedig i ddefnyddwyr sy’n dibynnu ar ddefnyddio’r allwedd Tab ar y bysellfwrdd i symud trwy gelloedd yn effeithlon ar draws tabl

Yn lle hynny, er mwyn cefnogi eglurder a hygyrchedd, dylech chi gadw at gynllun glân, tebyg i grid gyda rhesi a cholofnau cyson. Os oes angen i chi grwpio gwybodaeth, ystyriwch ddefnyddio nodyn esboniadol byr uwchben neu islaw’r tabl yn lle uno celloedd

Ychwanegu capsiynau a chyd-destun 

Mae capsiwn yn helpu defnyddwyr i ddeall pam mae’r tabl yno a beth ddylen nhw ei gymryd ohono.

Dylai capsiwn defnyddiol:

  • grynhoi pwrpas y tabl
  • esbonio sut mae’n cysylltu â’r cynnwys cyfagos

Awgrymiadau ychwanegol ar gyfer Ymarfer Cynhwysol  

Cymorth pellach  

Mae Canllaw Microsoft i Dablau Hygyrch yn cynnig cyfarwyddiadau ymarferol, clir, cam wrth gam i wella cynllun tablau yn Word ac offer Office eraill.

Mae dylunio tablau hygyrch yn ffordd syml o gefnogi arfer cynhwysol. Gall hyd yn oed newidiadau bach, fel ychwanegu penawdau neu ailystyried celloedd wedi’u cyfuno, wneud cynnwys yn llawer haws i bob dysgwr ei lywio

Angen help? 

Am fwy o awgrymiadau ar wella hygyrchedd, darllenwch y Canllaw Hygyrchedd Digidol heddiw a rhowch hygyrchedd a chynhwysiant wrth wraidd addysgu a dysgu eleni.

Cysylltwch â ni

Os hoffech chi gael rhagor o gymorth neu os oes gennych awgrymiadau ar gyfer pynciau blog yn y dyfodol, cysylltwch â’r Academi Dysgu ac Addysgu trwy [email protected].