Cyd-greu a Phartneriaeth ar gyfer Dysgu Cynhwysol
11 Awst 2026
Cyd-destun
Mae cyd-greu a phartneriaeth yn chwarae rhan ganolog mewn addysg gynhwysol. Mae ymgysylltu â myfyrwyr fel partneriaid, yn hytrach na derbynwyr, yn helpu i feithrin perchnogaeth, cryfhau ymdeimlad o berthyn a chreu amgylcheddau dysgu lle mae safbwyntiau myfyrwyr wir yn llunio profiadau addysgol. Mae cyd-greu yn cyfoethogi profiadau dysgu drwy dynnu ar hunaniaethau, cefndiroedd a syniadau amrywiol myfyrwyr, gan helpu i feithrin addysgegau sy’n fwy diwylliannol ymatebol a mannau academaidd cynhwysol.
Ym Mhrifysgol Caerdydd, deëllir a gweithredir partneriaeth fel proses bwrpasol sy’n canolbwyntio ar welliant lle mae’r staff a myfyrwyr yn gweithio gyda’i gilydd, gan roi gwerth cyfartal ar y syniadau penodol y mae pob un yn eu cynnig. Mae’n pwysleisio tryloywder, gwneud penderfyniadau ar y cyd, a chynnwys myfyrwyr nid yn unig fel cyfranwyr ond hefyd fel cyd-ddylunwyr o arferion a phrofiadau dysgu.
Am ragor o wybodaeth, gweler Pecyn Cymorth Datblygu Addysg Caerdydd.
Gweithredu
Mae cyd-greu yn weithredol ac yn fyfyriol, gan ddatblygu’n naturiol drwy ddeialog ac ymchwil ar y cyd. Gallai strategaethau ymarferol ar gyfer ymgorffori cyd-greu gynnwys y canlynol:
- Dulliau addysgu cydweithredol sy’n gwahodd myfyrwyr i gyfrannu eu safbwyntiau, gan gyfoethogi trafodaethau academaidd.
- Strategaethau diwylliannol ymatebol sy’n cydnabod a gwerthfawrogi profiadau a hunaniaethau amrywiol myfyrwyr.
- Cyfathrebu’n fwriadol, gan egluro bod myfyrwyr yn bartneriaid y mae eu cyfraniadau yn arwain at newid go iawn.
Un ystyriaeth bwysig o ran cynhwysiant yw bod rhaid i gyd-greu beidio â rhoi mantais anfwriadol i fyfyrwyr sydd eisoes â hyder neu gysylltiadau da. Heb ddylunio meddylgar, mae risg y bydd gweithgarwch partneriaeth yn dod yn hygyrch i grŵp bach o fyfyrwyr “sydd â diddordeb mawr” yn unig. Mae angen cynllunio bwriadol er mwyn ehangu cyfranogiad a sicrhau bod yr holl fyfyrwyr, yn enwedig y rhai sy’n wynebu rhwystrau anweledig neu strwythuredig, yn cael cyfleoedd i gyfrannu.
Arddangos arferion
Ledled y Brifysgol, mae staff yn mabwysiadu ystod o ddulliau partneriaeth, o gyd-gynllunio gweithgareddau dysgu i gynnwys myfyrwyr yn y gwaith o fframio problemau, adolygu arferion asesu a llunio gwelliannau ar lefel rhaglen.
Ddydd Mercher 17 Mehefin 2026, gwnaeth Heather Pennington a Dr Alyson Lewis, sy’n gyd-arweinwyr y Rhaglen Cymrodoriaeth Gyswllt, weithio gyda Dr Michael Willett a Dr Laura Barritt, sy’n arweinwyr y Gymrodoriaeth, i hwyluso eu digwyddiad cyd-greu blynyddol. Dros y tair blynedd diwethaf, mae’r digwyddiadau hyn wedi dwyn cyfranogwyr y Rhaglen Gymrodoriaeth, mentoriaid, carfannau blaenorol a chyn-fyfyrwyr ynghyd i nodi heriau addysgol a datblygu ymatebion ymarferol ar y cyd.
Ymatebodd y digwyddiad eleni yn uniongyrchol i adborth gan fforymau cyfranogwyr y Rhaglen Gymrodoriaeth, lle nododd cydweithwyr alw am fwy o gymorth i reoli ymddygiadau heriol a sefyllfaoedd anodd mewn cyd-destunau addysgol. Yn hytrach na datblygu adnoddau’n ganolog, gwahoddwyd cymuned y Gymrodoriaeth i weithio gyda’i gilydd i fwrw golwg ar y mater, rhannu profiadau a chyd-greu adnoddau i’w defnyddio yn y dyfodol.
Dangosodd y digwyddiad y ffordd y gall dysgu proffesiynol gael ei lunio gan anghenion dilys yr ymarferydd a’r arbenigedd sy’n bodoli ledled cymuned broffesiynol. Nid yn unig y gofynnwyd i gyfranogwyr roi eu barn ar ddeunyddiau sydd eisoes yn bodoli; drwy ddeialog, myfyrio ac ymholi ar y cyd, cyfrannon nhw’n weithredol at lunio adnoddau a fydd yn sail i fersiynau o’r Rhaglen Gymrodoriaeth yn y dyfodol. Felly, ni chynhyrchodd y broses allbynnau ymarferol yn unig, ond hefyd cryfhaodd berthnasoedd a dysgu ar y cyd ledled y gymuned o Gymrodyr.
Am ragor o wybodaeth, gweler Pecyn Cymorth Datblygu Addysg Caerdydd.
Effaith
Lle mae cyd-greu yn cael ei ymgorffori mewn ymarfer, mae cydweithwyr yn gweld amgylcheddau dysgu mwy ymatebol a chynhwysol gyda mwy o berchnogaeth gan fyfyrwyr a deialog gyfoethocach. Mae ymgysylltu â myfyrwyr wrth wneud penderfyniadau yn rhoi cipolwg gwerthfawr ar brofiadau dysgwyr a’r rhwystrau y maen nhw’n eu hwynebu, gan alluogi newidiadau sy’n decach ac sy’n cyd-fynd yn well ag anghenion dysgwyr.
Myfyrdodau / Beth sydd nesaf?
Fel addysgwyr, gallwn ni ddatblygu ein harferion partneriaeth drwy ofyn y canlynol:
- Lleisiau pwy sy’n llunio fy modiwl, a phwy sydd ar goll o’r sgwrs?
- Ble gallai myfyrwyr chwarae rhan fwy wrth ddylanwadu ar gynllunio dysgu, asesu neu brosesau adborth?
- Sut ydw i’n dangos bod cyfraniadau myfyrwyr nid yn unig yn cael eu croesawu ond eu bod hefyd yn ddylanwadol?
Mae cyd-greu effeithiol yn dryloyw, yn gynhwysol ac wedi’i seilio mewn parch at ei gilydd.
Man cychwyn
I ysgogi syniadau, dyma ambell gwestiwn i’ch helpu i feddwl am yr agwedd hon ar addysg gynhwysol yn eich cyd-destun eich hun:
- Sut gallech chi greu gweithgaredd cyd-ddylunio bach yn eich modiwl nesaf?
- Pa fyfyrwyr a allai gael eu heithrio’n anfwriadol o gyfleoedd partneriaeth?
- Beth yw un penderfyniad y gallech chi ei wneud gyda myfyrwyr, yn hytrach nag ar eu cyfer?