Skip to main content

Addysg Gynhwysol

Ymgorffori Addysg Gynhwysol wrth Ddylunio Rhaglenni a Modiwlau

8 Medi 2026

Cyd-destun

Mae ymgorffori arferion addysg gynhwysol ar lefel rhaglenni a modiwlau yn ganolog i greu amgylcheddau dysgu teg lle gall pob myfyriwr ffynnu. Yn y byd addysg uwch yng ngwledydd Prydain, mae addysg gynhwysol yn cael ei deall fwyfwy nid fel “ychwanegiad”, ond fel dull rhagweithiol, bwriadol a rhagweledol o ddylunio rhaglenni, cwricwlwm ac asesiadau (Hockings, 2010; Stefani a Blessinger 2018). Yn hytrach na chanolbwyntio ar addasiadau unigol, mae dylunio cynhwysol yn ceisio cefnogi perthyn, a lleihau rhwystrau o’r cychwyn cyntaf, er mwyn creu profiadau dysgu sy’n cydnabod ac yn gwerthfawrogi amrywiaeth o ran hunaniaeth, cefndir a ffordd o ddysgu gwahanol fyfyrwyr. Mae’r dulliau sy’n deillio o Ddylunio Cyffredinol ar gyfer Dysgu (UDL) yn annog cynnig sawl ffordd i fyfyrwyr ymgysylltu, cymryd rhan a dangos dealltwriaeth.

Gweler blogiau blaenorol yn y gyfres o flogiau Addysg Gynhwysol am ragor o wybodaeth am UDL a Pherthyn. Gweler hefyd yr adrannau perthnasol o’r tudalennau Cynhwysiant ar Becyn Cymorth Datblygu Addysg Caerdydd.

Gweithredu

Nid yw profiad byw ein myfyrwyr amrywiol yn digwydd ar lefel seminar na sesiwn, na chwaith yn ein huned o ystyriaeth fwyaf cyffredin, ar lefel modiwl. Mae myfyrwyr yn profi eu dysgu ar lefel rhaglen – profiad byw pob wythnos, a phob semester, wrth iddynt ddysgu ar draws modiwlau, trwy wahanol ddulliau o ddysgu a bod. Felly mae ymgorffori arferion addysg gynhwysol yn gofyn am feddwl yn fwriadol ar lefel rhaglen. Yn hytrach na gwneud newidiadau ynysig ar lefel modiwlau, mae timau rhaglenni’n gweithio ar y cyd i greu profiadau dysgu cydlynol, wedi’u sgaffaldio. Dyma ambell bwynt defnyddiol i’ch helpu i ddechrau arni:

  • Dod i adnabod eich myfyrwyr gan ddefnyddio data a phersonas. Beth yw amrywiaeth eich myfyrwyr? Pa heriau sydd o ran recriwtio, cadw a chyrhaeddiad grwpiau sydd wedi’u hymyleiddio’n draddodiadol? Beth mae personas yn ei ddweud wrthych chi am brofiad bywyd grwpiau penodol o fyfyrwyr?
  • Archwilio strwythur y rhaglen: A yw deilliannau dysgu ac asesiadau wedi’u hysgrifennu’n gynhwysol, ac wedi’u trefnu mewn ffyrdd sy’n cefnogi pob myfyriwr i wneud cynnydd? A yw asesiadau amgen wedi’u cynllunio o’r cychwyn cyntaf, i alluogi myfyrwyr i ddangos safonau cymhwysedd craidd trwy ddulliau amgen? A oes rhagdybiaethau cudd am wybodaeth flaenorol neu ddisgwyliadau anhysbys o ymddygiad?
  • Cynnwys cwricwlwm mwy amrywiol: A yw enghreifftiau, rhestrau darllen ac astudiaethau achos yn adlewyrchu ystod ehangach o safbwyntiau ac yn herio “straeon sengl” mewn disgyblaeth?
  • Ymgorffori asesiadau cynhwysol: A yw asesiadau wedi’u cynllunio i gynnig eglurder, dewis a dilysrwydd? A yw pwyntiau cyflwyno a dulliau asesu wedi’u mapio i osgoi clystyru diangen, gor-asesu a dibyniaeth ar ddull asesu penodol, fel traethodau ysgrifenedig?
  • Cryfhau cyfathrebu tryloyw: A yw disgwyliadau wedi’u cyfleu a’u trafod yn glir? A oes cyfleoedd cynnar ar gyfer deialog, gan helpu myfyrwyr i ddeall sut mae dysgu’n datblygu ar draws modiwlau?
  • Cydweithio â myfyrwyr: Ydych chi’n casglu safbwyntiau myfyrwyr i nodi rhwystrau nad ydynt bob amser yn weladwy i staff? A yw myfyrwyr yn ymgysylltu fel partneriaid, i adolygu deunyddiau, briffiau asesu a gweithgarwch dysgu?

Myfyrdodau / Beth sydd nesaf?

Fel addysgwyr, gallwn ystyried rhaglenni rydym yn gyfarwydd â nhw a myfyrio ar y canlynol:

  • Ble mae myfyrwyr yn dod ar draws pwyntiau ffrithiant neu gymhlethdod diangen yn y rhaglen?
  • Lleisiau pwy siapiodd ddyluniad y modiwlau, a lleisiau pwy sydd ar goll?
  • Pa newidiadau bach, cynaliadwy a allai wneud y rhaglen yn fwy cynhwysol?

Man cychwyn

I ysgogi syniadau, dyma ambell i gwestiwn i’ch helpu i fyfyrio ar ddylunio rhaglenni cynhwysol yn eich cyd-destun eich hun:

  • Pa dybiaethau cudd (am wybodaeth flaenorol, diwylliant academaidd neu ffyrdd o ddysgu) a allai beri anfantais i rai myfyrwyr?
  • Ble gellid adeiladu mwy o eglurder, dewis neu hyblygrwydd yn y rhaglen?
  • Pa safbwyntiau, lleisiau neu enghreifftiau y gellid eu hychwanegu i amrywio eich rhaglen?
  • Sut gallai myfyrwyr fod yn bartneriaid wrth adolygu neu siapio agweddau ar ddylunio?

Cyfeirnodau  

Stefani, L. and Blessinger, P. 2018. Inclusive Leadership in Higher Education: International Perspectives and Approaches. Abingdon, Oxon: Routledge