Skip to main content

Addysg Ddigidol

Cyfryngau cymdeithasol i bawb: camau syml i wella hygyrchedd

8 Medi 2026
Illustration of a social media post alongside an accessibility symbol and social media platform icons, representing inclusive and accessible social media content.

Ysgrifennwyd y blog hwn gan Heather Pennington ac Alex Stewart yn yr Academi Dysgu ac Addysgu.

Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn ffordd bwerus o gysylltu â myfyrwyr, cydweithwyr a’r gymuned ehangach, ond os nad yw hygyrchedd yn cael ei ystyried, efallai y bydd rhai pobl yn colli gwybodaeth bwysig neu’n ei chael yn anodd i ddeall eich cynnwys. Y newyddion da yw bod ychydig o newidiadau syml yn gwneud cryn wahaniaeth ac yn helpu i sicrhau bod eich neges yn cyrraedd cynifer o bobl â phosibl.

Dyma rai ffyrdd ymarferol o wneud eich cynnwys ar y cyfryngau cymdeithasol yn fwy hygyrch:

  • Ychwanegwch destun amgen at y delweddau

Mae testun amgen yn disgrifio delwedd i bobl sy’n defnyddio darllenyddion sgrin. Mae’r rhan fwyaf o blatfformau’r cyfryngau cymdeithasol, gan gynnwys X, Facebook, LinkedIn, ac Instagram, yn caniatáu ichi ychwanegu testun amgen wrth uwchlwytho delweddau. Wrth ychwanegu testun amgen, canolbwyntiwch ar ddiben y ddelwedd a’r neges allweddol yn hytrach na disgrifio pob manylyn. Dyma ragor am ysgrifennu testun alt effeithiol gan yr WC3 Web Accessibility Initiative.

  • Rhowch gapsiynau yn eich fideos bob amser

Mae capsiynau yn helpu pobl ag amhariad ar y clyw i gyrchu cynnwys fideo, ac maen nhw hefyd o fudd i ddefnyddwyr sy’n gwylio mewn lleoedd swnllyd neu sydd wedi diffodd y sain. Mae llawer o blatfformau yn darparu capsiynau awtomatig, ond dylid adolygu’r rhain bob amser am gywirdeb cyn eu cyhoeddi a phan fo hynny’n bosibl dylid darparu trawsgrifiad.

  • Defnyddiwch emojis mewn ffordd ystyriol

Mae emojis yn ychwanegu personoliaeth ac yn rhoi hwb i’r ymgysylltu, ond yn aml mae eu defnyddio’n ormodol yn creu anawsterau i ddefnyddwyr darllenydd sgrin. Mae darllenyddion sgrin yn cyhoeddi pob emoji yn unigol, ac felly bydd postiadau yn anodd i’w dilyn weithiau. Defnyddiwch emojis yn gynnil gan osgoi eu rhoi yng nghanol brawddegau lle maen nhw’n torri ar draws llif y cynnwys hwyrach.

  • Ysgrifennwch hashnodau clir

Yn achos hashnodau, defnyddiwch lythyren fras ar gyfer llythyren gyntaf pob gair (sef CamelCase) gan y bydd hyn yn ei gwneud hi’n haws i bawb ei ddarllen ac i ddarllenyddion sgrin ddehongli’r neges yn gywir.

Er enghraifft: #DiwrnodAgoredPrifysgolCaerdydd nid #diwrnodagoredprifysgolcaerdydd

  • Defnyddiwch Saesneg clir

Gwnewch y postiadau yn gryno ac yn hawdd eu deall drwy osgoi jargon diangen, acronymau heb eu hesbonio ac iaith sy’n rhy gymhleth. Mae cyfathrebu clir o fudd i bob defnyddiwr ac yn helpu i sicrhau bod eich neges yn cael ei deall yn gyflym.

Rhagor o wybodaeth

Am arweiniad ychwanegol ewch i:

Angen cymorth arnoch chi?

Am fwy o awgrymiadau ar wella hygyrchedd, darllenwch y Canllaw Hygyrchedd Digidol heddiw a rhowch hygyrchedd a chynhwysiant wrth wraidd addysgu a dysgu eleni.

Cysylltwch â ni

Os hoffech chi ragor o gymorth neu os oes gennych chi awgrymiadau ar gyfer pynciau blog at y dyfodol, cysylltwch â’r Academi Dysgu ac Addysgu gan e-bostio [email protected].