Amlygu Astudiaeth Achos: Arddangosfa ‘Posters in Parliament’
15 Gorffennaf 2026
Mae Diogo Godoi yn rhannu sut y cafodd ei brofiad Interniaeth ar y campws ei enwebu ymhellach, yn yr arddangosfa Posteri yn y Senedd.
Cafodd myfyrwyr carfan haf 2025 y cyfle cyffrous i gael eu henwebu ar gyfer arddangosfa Posters in Parliament. Fe wnaeth hyn eu galluogi i arddangos eu gwaith i gynulleidfa genedlaethol ehangach a chael profiad gwerth chweil o gyflwyno mewn amgylchedd proffesiynol.
Yn yr astudiaeth achos isod, mae’r intern Diogo Godoi yn myfyrio ar ei brofiad o’r cynllun, gan roi manylion am y cyfleoedd a grëwyd ganddo a’r effaith barhaol a gafodd ar ei ddatblygiad.
Mae taith Diogo yn amlygu sut y gall interniaeth sbarduno twf academaidd a phroffesiynol. Gall hefyd feithrin hyder, datblygu sgiliau allweddol, ehangu rhwydweithiau ac agor drysau i gyfleoedd y tu hwnt i’r lleoliad gwaith cychwynnol.
Diogo Godoi
Yr haf diwethaf, cefais y fraint o wneud interniaeth yn Hwb yr Ymennydd a Genomeg, grŵp ymchwil sy’n ymchwilio i salwch meddwl difrifol ym Mhrifysgol Caerdydd.
Yn ystod yr interniaeth, cefais y cyfle i weithio wyneb yn wyneb â chleifion yn ogystal â helpu i gynnal astudiaeth ar raddfa fawr. Roedd yr astudiaeth yn cyfuno genomeg, niwro-ddelweddu, a data gwybyddol ac ymddygiadol er mwyn cael gwell dealltwriaeth o natur a mecanweithiau anhwylderau seicotig. Rhoddodd y profiad y cyfle imi ddysgu cymaint am y cyflyrau hyn, yn ogystal â sut y cynhelir ymchwil o safon fyd-eang yn ymarferol. Bu’n rhaid imi hefyd ddatblygu fy sgiliau clinigol a meintiol, ac fe wnaeth yr amser a dreuliais ar y prosiect hwn ddyfnhau fy angerdd dros ymchwil ac fy annog i’w dilyn ymhellach yn y dyfodol.
Ar ben hynny, cefais y cyfle i arwain prosiect ymchwil a edrychodd ar y ffactorau sy’n gysylltiedig â difrifoldeb uwch symptomau seicotig. Dangosodd ein canfyddiadau fod rhai o’r ffactorau risg seiciatrig cyffredin yn gysylltiedig â difrifoldeb uwch o ran symptomau. Daeth i’r amlwg fod cysylltiadau penodol rhwng rhai newidynnau penodol â symptomau gwahanol, gan amlygu cymhlethdod y cyflyrau hyn.
Ym mis Tachwedd, cefais y cyfle i gyflwyno’r canlyniadau hyn ar ffurf poster yn arddangosfa Interniaethau ar y Campws yng Nghaerdydd, yn ogystal â rhoi cyflwyniad byr am y prosiect i gyd-fyfyrwyr ac academyddion. Yn dilyn hynny, dewiswyd y poster i’w gyflwyno yn arddangosfa ‘Posters in Parliament’ yn Senedd y DU. Roedd yn brofiad gwefreiddiol, ac roedd yn wych gallu rhannu ein hymchwil ag Aelodau Seneddol a llunwyr polisïau sy’n gwneud penderfyniadau ar y lefelau uchaf.
Yn fwy diweddar, cefais y fraint hefyd o gyflwyno’r prosiect hwn yng Nghyngres Seiciatreg Ewrop 2026 yn Prague, a rhannu ein hymchwil â chlinigwyr ac ymchwilwyr o bob cwr o’r byd. Roedd dysgu o’r holl ddarlithoedd yn brofiad gwych yn ogystal â gweld sut mae ymchwil ac arferion clinigol yn cydweithio i ddatblygu ein dealltwriaeth o salwch meddwl a’r driniaeth ar ei chyfer. Roedd cyflwyno’r gwaith hwn mewn lleoliadau mor wahanol yn brofiad gwerth chweil, ac fe amlygodd pa mor bwysig yw cyfathrebu ymchwil wyddonol yn effeithiol ag amrywiaeth eang o gynulleidfaoedd: O arbenigwyr i’r cyhoedd.
Hoffwn ddiolch i dîm cyfan Hwb yr Ymennydd a Genomeg: Lowri Evans, Blessing Omoregbee, Fevin Saji, Soumita Ramesh a Georgia Dash, am roi’r fath groeso ac am ddysgu cymaint imi mewn cyfnod mor fyr. Diolch hefyd i Arweinwyr Ymchwil Hwb yr Ymennydd a Genomeg: James Walters a Neil Harrison am y cyfle hwn a’u harweiniad. Yn olaf, hoffwn ddiolch i fy ngoruchwylwyr anhygoel: Sophie Legge a Carolyn McNabb am eu gwaith mentora ac addysgu amhrisiadwy, ac am roi’r profiad trawsnewidiol hwn imi.
Gwelwch lluniau o ddigwyddiad Posters in Parliament.
Cynllun Interniaeth ar y campws
Dysgwch fwy am ein cynllun – cyfle i israddedigion gymryd rhan mewn lleoliad haf â thâl yn amgylchedd ymchwil, dysgu ac addysgu’r brifysgol.